‘Salem a Fi’ – Endaf Emlyn (detholiad)
(Rhybudd cynnwys: marwolaeth rhiant)
I ddathlu hanner canmlwyddiant rhyddhau ei record Salem eleni, mae’r cyfansoddwr a’r cyfarwyddwr Endaf Emlyn wedi cyhoeddi ei hunangofiant – Salem a Fi.
Ynddi, mae’n trafod yn gyhoeddus am y tro cyntaf ei iselder yn fachgen ifanc, ac yn annog dynion eraill i siarad mwy am iechyd meddwl.
Roedd Endaf Emlyn yn cael pyliau o bryder dwfn ers pan oedd yn blentyn, a gwaethygodd pethau pan oedd yn 16 oed a’i fam yn wael. Roedd hynny yn y chwechdegau, a rhoi’r caead ar ei deimladau oedd y cyngor a gafodd.
Meddai Endaf,
“Mi oedd hwn yn gyfnod anodd iawn i mi a bu farw fy mam yn fuan wedyn. Tua’r un adeg, mi wnaeth fy nwy chwaer fawr, Mari a Shân, adael cartref a dim ond fi a Nhad oedd ar ôl – dau ar goll mewn tŷ gwag a di-gysur.
Roedd o’n siŵr o fod yn unig a digalon fel finnau. Ond fyddai run ohonom wedi mentro ymagor i sôn am hyn.
Yn araf, mi ddos nol ata fi fy hun, ond mi oedd hwn yn gyfnod tywyll yn fy mywyd ac mi fyswn i wir yn annog dynion, hen ac ifanc, i drafod eu teimladau gyda theulu neu ffrindiau agos – ac i fynd i weld y meddyg.
Doedd dim digon o hynny yn digwydd pan oeddwn i yn ifanc, ac mae’n beryg fod hynny dal yn wir heddiw.”
Detholiad o Salem a Fi
Traeth anobaith
Ers pan oeddwn i’n hogyn bach, roeddwn i wedi cael pylia o bryder dwfn; yr ymosodiadau panic. Medrwn ei deimlo, fel tirlun o hagrwch sgythrog, yn finiog a chas, yn cau amdana i. Glyn Cysgod Angau o’n i’n ei alw fo, er na soniais air amdano wrth neb.
Rhywbryd yn nhymor yr haf, 1960, a finna’n codi’n un ar bymtheg oed, pentyrrodd y pryderon yn argyfwng. Er nad oeddwn i wedi cyfadde i mi fy hun, na thrafod efo neb arall, roeddwn i’n ofni fod fy mam yn marw. Roedd ei salwch yn dyfnhau rhyw euogrwydd di-sail ynof fi. Roeddwn i’n llusgo baich o edifeirwch am y tramgwydd lleiaf, ac am bob bychan siom. O’n i’n gwegian dan bwysa iselder; wedi colli fy ffrindia; ac yn anhapus dan drefn yr ysgol. Ond fe ddeuai yr ymchwydd o ofn o rywle llai penodol, o grochan dychrynllyd o bryderon yr isymwybod.
Un bora, ar fy ffordd i’r ysgol, rhywle ar y cob hir oedd rhyngof fi a gweddill y byd, fe sefais. Roedd hi’n ddiwrnod braf, ond roeddwn i yn llygad y storm. Trois yn ôl am adra. Fedrwn i ddim cario ’mlaen.
Digon yw dweud y cafodd Nhad fraw o sylweddoli mor fregus oeddwn i. ’Steddon ni’n dau wrth fwrdd y gegin, yn troi’n llwya yn ein cwpana te, yn chwilio am y geiria. Doedd y genhedlaeth honno’n gwybod dim ond am un ffordd: ‘Bydd yn wrol, paid â llithro, er mor dywyll yw y daith’. Prif bryder fy nhad oedd na ddylai Mam gael dioddef unrhyw boen meddwl ychwanegol, ac mai gwell fyddai peidio sôn gair am fy argyfwng. Doeddwn inna ddim am fod yn achos poen meddwl i Mam. Rhoddwyd y caead i lawr yn dynn ar bopeth. Es i’r ysgol at y pnawn, gyda baich euogrwydd yn drymach, o fod yn bryder i Nhad, ac o fod wedi dangos gwendid, ond wedi tyfu haen arall o ddygnwch.
Gwaelodd Mam drwy aeaf 1961, ac erbyn gwanwyn 1962, roedd hi’n gaeth i’w gwely. Yn gynnar un bora Sadwrn, ym mis Mehefin, daeth Nhad i’m deffro. “Mae’r ledi fach wedi’n gadael,” meddai. Roeddwn i’n fud. Fedrwn i ffendio ’run deigryn. Aeth Nhad â fi i weld fy mam am y tro ola. Niwlog fu’r dyddia wedyn, o fynd a dod, rhyw brysurdeb sibrydol tu ôl i’r llenni. Es i gerdded y traeth hwnnw.
Wedi’r angladd, â phob emosiwn yn dal dan glo, sefais arholiadau Lefel A, yn fecanyddol, heb unrhyw baratoi, a daeth yr haf hir wedyn, a finna’n gwybod cyn cael y canlyniadau fy mod i am siomi pawb. Rhywsut cefais A mewn Cerddoriaeth a B yn Saesneg, ond roeddwn i wedi methu pasio Hanes. Doedd hynny ddim yn syndod; ro’n i wedi syllu’n freuddwydiol ar y dudalen wen am awr cyn cychwyn, ac wedi gorfod ei adael ar ei hanner.
Aeth fy ffrindia i’w colegau, a dyfnhaodd fy iselder wrth ffarwelio â nhw. Doedd dim o ’mlaen ond y ‘gwarth’ o orfod aros yn y chweched dosbarth am drydedd flwyddyn. Peth diarth a chwerw i mi oedd methiant. Daeth ergyd arall wedyn, pan gyhoeddodd fy nhad ein bod ni’n symud i Fangor, wedi iddo dderbyn swydd fel darlithydd yn y Coleg Technegol. Roedd wedi ymgeisio am y swydd cyn marw fy mam, ac roeddan ni’n dau’n gwybod y byddai hi am iddo ei derbyn. Ym mis Awst roedd o’n chwilio am dŷ i ni ym Mhorthaethwy. Dewisodd fyngalo yno, yn y Gors Goch, a’i enwi yn ‘Gwenallt’ ar ôl hen gartref teulu fy mam.
Priododd fy chwaer Mari ei chariad, Emlyn Williams o Gricieth. Doedd dim ond ni’n dau ar ôl wedyn, fi a Nhad, dau ar goll, mewn tŷ oedd yn wag a digysur.
Caerdydd
Doctor, dwi’n diodda’n ormodol,
Doctor, dwi’n andros o wael,
Doctor, oes gen i ddyfodol?
Doctor, sdim cysur i’w gael!
‘Doctor’, 1980
O’n i wedi bod lawr yng Nghaerdydd yn 1960, ac wedi chwarae gyda’r Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol yn Neuadd y Ddinas dan gamerâu’r BBC, ac mewn cyngerdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngerddi Sophia. Roeddwn i’n awyddus i fynd yno eto. Ond be o’n i’n neud yn mynd i goleg athrawon? Gofynnwyd i mi yn y cyfweliad pa swydd fyddai’n apelio ata i pe na bawn i’n mynd yn athro. “Long distance lorry driver,” oedd fy ateb. Thâl hi ddim i roi caead ar alar. O’n i’n dal yn ddi-ddeud a mewnblyg. O fewn wythnosau o fod yn y coleg, rhoddwyd tabledi gwrth-iselder i mi gan y meddyg, welodd ’mod i mewn pydew o ddigalondid.
Yn ddefodol, gyda fy nghyd-fyfyrwyr, chwiliais am ychydig gysur yn y cwrw, heb sylweddoli fod yr haidd a’i gliwten yn hwnnw hefyd. Dim rhyfedd nad oedd gen i ddim egni nac awch at un dim. Ar brydia, mi fyddwn i’n llithro i dwymyn am ddeuddydd neu dri. Wedi i mi ddarllen cymaint o waith y dwyreinydd Somerset Maugham, o’n i’n ama ’mod i rhywsut wedi cael malaria. Niwlog ydy’r cyfnod. Chofia i fawr ddim o’r darlithoedd. Roeddwn i wedi dewis pyncia ‘hawdd’: Saesneg, ddeuai’n rhwydd i mi, fel prif bwnc; y Gymraeg, yn naturiol, wedyn, a Chelf yn drydydd, oherwydd nad oedd arholiad ynddo o gwbl, dim ond asesiad o’r gwaith creadigol, ac efallai o achos ’mod i’n dal yn ddig na ches i astudio Celf yn yr ysgol.
Erbyn hynny roedd fy mrawd yng nghyfraith, Owen, yn cyflwyno Heddiw ar y BBC. Roedd o a Shân a’r plant yn byw yn y Rhath, yn agos i’r coleg. Roedd yno noddfa i mi, a chinio dydd Sul, a chyngor doeth gan fy chwaer fawr. Mi fyddwn i’n mynd i warchod y genod, Elin a Mari, ac yn cael digon o hwyl a chwerthin efo nhw i godi ’nghalon. Roedd pobol y byd darlledu yn mynd a dãad yno hefyd, ac yn naturiol ddigon, mi gryfhaodd fy awydd i weithio fel darlledwr. Ces ista yn y galeri i wylio Heddiw yn cael ei gyfarwyddo. Dyma’r lle i fi, meddwn i wrthyf fy hun.
Ac fe landiodd Hywel Gwynfryn yn y coleg. Roedd o wedi cwblhau cwrs actio yng ngholeg drama ‘y Castell’ yng Nghaerdydd, ac yn cychwyn ei flwyddyn o hyfforddiant athro yng Ngholeg Cyncoed. Doeddwn i ddim yn cofio bryd hynny, os gwyddwn i o gwbl, mai fo oedd y Meffiboseth hwnnw. Roedd yn gwmni da, a’i chwerthin yn fy nhynnu rhywfaint o ’nghysgodion. Ddiwedd y flwyddyn gyntaf es adra, ac mi brynais y gitâr Gretsch ‘White Falcon’ honno efo fy enillion yn gweini byrdda yn Abergwyngregyn. Wrth ddringo ar y bws i fynd yn ôl i’r coleg, yn cario’r gitâr newydd mewn bag papur (doedd gen i ddim digon o arian i brynu cês), wnes i faglu a chlywed clec. Pan dynnwyd y Gretsch o’r bag, i’w dangos i Hywel, roedd hi mewn dau ddarn. Y gwddw a’r corff. Chofia i ddim be ddaeth ohoni.
Daeth pethau’n well i mi yn yr ail flwyddyn. Roedd yna gwmni drama, dan ofal y darlithydd W. J. Jones, gŵr caredig roddodd rannau i mi mewn tri o’i gynyrchiadau. Bues i’n dywysog yn Rusalka ac wedyn yn gadfridog Rhufeinig mewn drama aeth yn angof gen i. Llais Duw ar y radio oeddwn i wedyn, yn un o ddramâu Huw Lloyd Edwards. Ces ran gan y cwmni drama Saesneg yno, fel Tom yng nghomedi The Knack, gan Ann Jellicoe, a ’mhrif ddyletswydd yn honno oedd peintio’r ystafell, gan ychwanegu ambell ebychiad o lein. Ces sylw gan y beirniad hefyd – ond dim ond rhyw ychydig glod, a chwyn am brysurdeb y peintio:
‘A relaxed performance by Endaf Emlyn, marred only by his continual wallpainting.’
Dechreuais ganu. Bu ambell berfformiad ar y cyd â Hywel, finna’n chwarae yr ychydig gordia wyddwn i yn fyrfyfyr tra byddai Hywel yn adrodd cerddi. Ond o’n i’n dal yn absennol o’r darlithoedd yn gyson, a’r salwch rhyfedd a’r iselder yn fy nghadw yn fy ngwely’r bora. Mi fyddwn i’n sgwennu traethodau ar lyfrau nad oeddwn i wedi eu darllen, yn seiliedig ar ddim mwy na rhyw ddau baragraff o grynodeb oedd ar y siaced lwch, a rhyw allu i baldaruo. (Rhaid cyfadde, fe ges ambell gomisiwn yn yr wythdegau trwy ddefnyddio’r un fethodoleg o falu awyr gydag arddeliad.) Roedd ’na gwrs ar y ‘Dull Dwyieithog’. Fues i ddim i unrhyw un o’r darlithoedd am ddwy flynedd, ond rhywsut mi basiais y cyfan a chael fy nhystysgrif yn athro Saesneg. Fel mab i deulu o athrawon, a gyda gwir ddiddordeb yn fy mhwnc, roedd gen i reddf i fod yn athro, ond wedi fy holl helbulon, fedrwn i ddim meddwl am fynd yn ôl i’r ysgol.
Bydd Salem a Fi gan Endaf Emlyn allan ar y 25 o Hydref am £11.99. Bydd ar gael o siopau Cymraeg lleol ac ar-lein.