Pan na ddaw’r awen
PAN NA DDAW’R AWEN
Ar dân, yn fflamio’n wyllt; y pwysau fel petrol,
yn arllwys fwy o danwydd i’r erchylltra. Yna’n llosgedig
– yn hercian yn ffwndrus gweithredol, merwinllyd.
Llanast o’m cwmpas ymhob man, a finnau’n cau fy mhen,
fy ngolwg, fy nghlustiau – i bob dim.
Daw clogyn i’m cylchu, fel wal o garreg oer;
does dim gobaith i’r awen treiddio’r argae hon. Fy nghalon
wedi’i dorri’n darnau man, a’i wasgaru i bob man.
Methu canolbwyntio ar ddim ond y wal o fy mlaen. Y pryder yn cnoi
fy nghydwybod – dwi’n euog, o fod yn fethiant llwyr.
Trio forsio’n hun i sgwennu, ond mae’n wneud i mi
deimlo’n benysgafn. Nid yw’r geiriau’n ffrindiau ar hyn o bryd
ac maent yn teimlo’n bell i ffwrdd, ac yn ddieithr ac yn anghynnes.
Be wna’i tybed, os na allaf lusgo’n hun o’r twll anobeithiol hyn?
Pwy fydda’i os na allaf sianeli fy meddyliau – i eraill cael ei ddarllen?
*
Rwy’n gwylio’r niwl o syniadau yn cylchdroi o’m mlaen,
yn llifo fel afon, heibio i mi, ac yn ôl – mewn siâp newydd, diddorol.
Mae fy meddwl yn llawn posibiliadau ac mae’r awen yn pigo
fel pinnau bach, wrth i’r teimlad dychwelyd i goes neu fraich.
Rwy’n teimlo eto, a dwi’n hidio eto – diolch byth am hynny!
Dwi’n gweld patrymau, ac yn clywed sibrydion, yn y niwl o fy amgylch;
dwi’n ymestyn braich i mewn i geisio cydio yn rhai ohonynt
– ac yn gwrando’n astud ar beth maent yn ceisio datgelu i mi.
Mae’n her i’w trosglwyddo i’r dudalen, yn frawddegau
cain, barddonol. A dwi’n mwydro yn fy mlinder dwys.
Daw’r awen i mi nawr, yn glir, fel bloedd yn fy nghlust
penillion cyfan yn datgan eu hunain, o ninlle, heb drio
– wrth i mi gysgu, coginio, a chymryd tro yn y jacŵsi!
Fel swigod tu mewn i mi, mae’r syniadau yn casglu
gan ferwi dros yr ymyl, mewn ras i gael ei rhannu.
Hoffwn ddiolch i rheini, fuodd yn gefn i mi, gan fy helpu,
a fy annog, yn ôl o’r geulan frawychus hwnnw. Cydiaf yn yr awen,
a’i drysori o’r newydd. Ni fyddaf byth eto, yn cymryd
fy ngallu ysgrifennu’n ganiataol. Rwyf mor ddiolchgar am
gael dychwelyd i iechyd, ac am gael yr awen yn ei ôl.