Hedfan awyren

Un o golofnau Manon Steffan Ros i gylchgrawn Golwg a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel rhan o’i chyfrol, ‘Golygon’ (2017).

Rhybudd cynnwys: hunan-niweidio


Ebrill 2015

Ar 24 Mawrth 2015, credir bod y peilot Andreas Lubitz wedi achosi i’w awyren ddisgyn yn fwriadol ac iddo ddioddef o iselder ysbryd.

Mae Nia wedi bod ar fin ffonio’r meddyg droeon yn ystod y misoedd diwethaf.

Yr adeg honno pan dreuliodd hi ddiwrnod cyfan yn syllu ar wal ei llofft, ei meddwl yn gwbl wag. Yr adeg pan sylweddolodd nad oedd hi’n medru cysgu heb iddi grio. Trothwy hunllefus yr hunanddolurio, a ddigwyddai heb iddi ystyried y peth, bron, wrth iddi olchi’r gyllell fara yn y sinc. ‘Y gyllell fara wedi llithro! Mae o’n iawn… ddim yn brifo…’ Ond nid llithro wnaeth y gyllell fara, dim ond ildio’n wirfoddol i’w llaw wlyb, sebonllyd. Safodd Nia yno am yn hir , yn gwylio’r coch yn lliwio’r swigod gwyn, glân.

Mae angen help arni.

Mae hi wedi deialu’r rhif unwaith neu ddwy, cyn pwyso’r botwm bach i orffen yr alwad cyn iddi ddechrau. Bydd y ddynes yn y dderbynfa yn siŵr o ofyn, yn ôl ei harfer, ‘… pam ydych chi angen gweld y meddyg heddiw?’ Fedr Nia ddim wynebu defnyddio’r hen air trwm yna. Iselder. Byddai’n hawdd ateb y ddynes yn y dderbynfa petai’n dioddef o ‘ffliw’ neu ‘inffecshyn clust’. Dydi iselder ddim yn air i’w ddweud yn uchel.

Rŵan, mae’r gyllell fara wedi dechrau ‘llithro’ yn amlach, a Nia wedi mynd yn drwsgl gyda’r haearn smwddio a’r hob, ac mae’n rhaid iddi wisgo crysau llewys hir am fod ei braich chwith yn greithiau blin. Bob tro, bydd hi’n gaddo iddi hi ei hun mai dyma fydd y tro olaf, ond yna, bydd yr ysfa’n dychwelyd. Eisiau teimlo rhywbeth mae Nia, a hithau wedi mynd i deimlo mor hesb.

Yna, a hithau ar fin ffonio’r meddyg unwaith eto, mae hi’n codi ei ffôn, cyn ei roi yn ôl yn ei grud. Mae hi wedi darllen am y peilot wnaeth achosi’r ddamwain drychinebus, wedi darllen y geiriau people with depression should not fly planes drosodd a throsodd a throsodd. Ond penderfynu peidio cyfaddef wrth unrhyw un am y gwacter sydd ynddi mae Nia, achos os mai dyna sy’n bod arni, iselder, efallai mai’r papurau newydd sy’n iawn. Efallai na ddylai pobol fel hi ofalu am bobol eraill. Achos os nad ydi hi’n iawn i bobol fel hi fod yn beilot awyren, mae’r un peth yn wir am yrru bws, a char ac ynddo hen bobol a phlant. Yr hyn mae’r papurau yn ei ddweud mewn gwirionedd, meddylia Nia, ydi nad ydi pobol sy’n dioddef o iselder yn dryst. Felly mae’n penderfynu peidio ffonio’r meddyg, a pheidio, byth bythoedd, â gofyn am help.