‘Dal i fod yn fi’ – Mari Grug (detholiad)

(Rhybudd cynnwys: canser)

Daw’r darn isod o hunangofiant newydd Mari Grug, ‘Dal i fod yn fi’ a gyhoeddir gan y Lolfa. Gellir ei brynu yma am £11.99.

Wrth fynd i Lanelli ar y dydd Gwener, roedd sbring yn fy step i. Dyw’r canser ddim wedi lledu – grêt! Dwi’n mynd i gael dyddiad am fasectomi heddi. Ond dwedodd yr arbenigwr,

‘Mari, there are two lymph nodes, near the diaphgram, retrocrural nodes showing mets.’

Ces i fy llorio. Es i’n dwym a fethes i wrando ar weddill y newyddion. Lwcus bod Gareth gyda fi.

Ar y pryd roedd llawer o bobol yn meddwl, ‘tase Mari ond wedi tynnu’r ddwy fron’ – ac fe groesodd hynny fy meddwl i hefyd tan i fi gael y canlyniadau hyn. Mae ‘mets’ yn dalfyriad am ganser metastatig, canser sydd wedi symud o ble ddechreuodd e i rannau eraill o’r corff. Dwi’n ddiolchgar felly bod yr ail fron yn dal yno, yn rhybudd bach.

Ar y dydd Iau ar ôl y deiagnosis swyddogol, roedd y tîm MDT (Multidisciplinary Team) wedi trafod fy achos ac fe benderfynwyd fod angen triniaeth amgenach arna cyn i fi gael llawdriniaeth. O’n i fod i weithio y diwrnod hwnnw ond es i ddim ’nôl i’r gwaith. Es i getre i geisio amgyffred yr ergyd newydd hon. Roedd hwnnw’n gyfnod anodd iawn.

Roedd y meddwl yn symud o un peth i’r llall: ‘Beth yw hyd a lled y canser? I ble ni’n mynd o fan hyn?’

Roedd digon o bethe mlân dros y penwythnos i fynd â’r meddwl: nofio, pêl-droed ac roedd fy wncwl a fy anti, sef rhieni Elan, yn cael parti ar y nos Sadwrn i ddathlu pen-blwydd priodas ruddem, ac ro’n nhw’n codi arian ar gyfer yr uned cemotherapi yn Glangwili a’r uned yn Llanelli.

‘Odych chi moyn i ni ganslo’r parti?’ gofynnon nhw.

‘Dim o gwbwl,’ atebes i, ‘fe fyddwn ni’n dod i’r parti.’

Erbyn hynny roedd pobol wedi clywed am Lisa hefyd. Wnes i ddim siarad cymaint ag arfer gyda phobol y noson honno, fe wnes i gadw ychydig o bellter, ond o’n i’n falch o allu bod yno.

Roedd Tomos yn chware rygbi gyda’r Quins ar y dydd Sul canlynol. Mae llawer o rieni ei gyd-chwaraewyr yn ffrindie agos iawn ac fe dorres i lawr yn eu cwmni nhw. Dwi’n cofio gweld y panig ar eu hwynebau wrth i fi siarad yn ddagreuol. Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw wedi fy ngweld i’n llefen o’r blân. O’n i’n gofidio.

‘Beth sy o ’mlân i? Beth dwi’n mynd i orfod neud nesa? Beth sy raid i fi newid?’

Eto, o’n i’n lwcus i gael y fath gefnogaeth. O’n, o’n i ar y meysydd chwarae, ond o’n i’n dal i allu gael cry bach, yn gallu bod yn fi a chael cwtsh i fy nghysuro. Roedd yna bobol eraill yn fy ngweld, siŵr o fod, ond ddim eisie holi, ac roedd criw agos o ’nghwmpas.


Dwi’n cofio diwrnod y 15fed o Fehefin yn glir. Ges i ganlyniad y PET Scan ac wedyn es i i gyflwyno blodau i Sulwyn Tomos ar ei ben-blwydd yn 80 oed. Dyna yw bywyd! Dwi’n gobeithio y bydd pobol yn gallu deall fy safbwynt i. Beth fydde pwrpas peidio â mynd i’r gwaith? Dyna oedd fy meddylfryd i. Wnes i ddim dweud gair wrth Sulwyn, wrth gwrs. Galla i ddeall nad pawb fydde wedi gwneud beth wnes i. Falle y bydde ambell un yn meddwl ’mod i off fy mhen – a fydden i ddim yn gweld bai arnyn nhw! Ond y dewis arall oedd ishte getre yn teimlo’n flin drosta i’n hunan, a doedd hynny ddim yn opsiwn yn fy meddwl i.

Fe ges i wbod bod y canser wedi mynd i’r afu, ond doedd y newyddion ddim mor ddrwg ag roedd yr arbenigwyr wedi ofni. Mae modd cael llawdriniaeth ar yr afu. Felly, o ddewis organ i’r canser symud iddo, roedd yna opsiynau ar gyfer trin yr afu.

Wrth gwrs, o’n i’n hollol siomedig i glywed bod y canser wedi lledu i’r afu, ond wrth edrych ’nôl falle o’n i braidd yn naïf, eisie gweld yr ochr bositif ac yn glynu at eiriau’r oncolegydd – bod yr afu’n organ sy’n tyfu’n ôl, felly bydde llawdriniaeth yn bosib. Ac o’n i’n dal i gofio geiriau’r arbenigwr ar y cychwyn a ddwedodd wrtha i tase’r canser wedi lledu o’r fron a’r nodau lymff mai dim ond gofal lliniarol fydde o ’mlân i.

Felly, er gwaetha ergyd canlyniad y sgan, o’n i’n teimlo’n obeithiol. Yn wahanol i’r hyn a ddwedwyd wrtha i’n wreiddiol, roedd triniaeth ar gael i fi. Roedd hynny’n rhoi rhywbeth i anelu ato, i dynnu’r sylw i gyd oddi ar y canser a chanolbwyntio ar y driniaeth a allai fy ngwella i.


Unwaith i fi ddechre cemo o’n i’n teimlo’n fwy cadarnhaol. Oes, ma gyda fi ganser ond roedd rhywbeth yn digwydd nawr – roedd y driniaeth wedi dechre. O’n i’n teimlo’n saff. Y cyfnod gwaetha, heb os, oedd aros i gael y canlyniadau, ac aros ar gyfer y driniaeth. Mae llawer o bobol yn dweud yr un peth am eu profiad nhw. Unwaith ry’ch chi’n dechre’r driniaeth, ry’ch chi’n gwbod bod cynllun yn ei le a bod hwnnw wedi ei deilwra ar gyfer trin eich canser chi. A’r gobaith yw gwellhad. Wrth edrych o ’nghwmpas ar y teulu bach, roedd meddwl am wellhad yn bopeth.


Cyhoeddir Dal i Fod yn Fi gan y Lolfa a gellir ei brynu yma am £11.99.