Sgil-effeithiau

Side effects

Beth ddylwn i wybod am sgil-effeithiau?

Yn ogystal â manteision posibl, mae gan bob cyffur seiciatrig y potensial i achosi sgil-effeithiau annymunol. Gall hyn ddigwydd ar ôl defnydd tymor byr a defnydd hirdymor.

Gall sgil-effeithiau ysgafn:

  • Stopio unwaith y bydd eich corff wedi dod i arfer â’r cyffur
  • Cael eu rheoli drwy addasu sut ydych chi’n cymryd y cyffuriau (er enghraifft, gyda bwyd, neu ar adeg wahanol o’r dydd).

Gall sgil-effeithiau difrifol:

  • Golygu bod rhaid i chi roi’r gorau i gymryd y cyffur a gofyn am help meddygol.

Pa fath o sgil-effeithiau sy’n bosib?

Mae hyn yn dibynnu ar yr union gyffuriau a’ch ymateb unigol iddynt. Mae rhai pobl yn cael sgil-effeithiau ac eraill ddim yn cael sgil-effeithiau. Os ydych chi’n cael sgil-effeithiau, gallai’r rhain fod yn ysgafn neu’n ddifrifol – does dim modd o wybod sut y byddwch yn ymateb cyn i chi ddechrau cymryd y feddyginiaeth.

Os ydych yn cael sgil-effeithiau, yn gyffredinol chi sy’n penderfynu a yw’r manteision o gymryd y cyffur yn gwrthbwyso’r sgil-effeithiau neu beidio. Ond, mae’n bwysig eich bod yn trafod hyn gyda’ch meddyg teulu neu fferyllydd cyn rhoi’r gorau i’w cymryd.

(Ffynhonnell: Mind)

Dolenni allanol