Straen

Stress

Straen yw’r teimlad o fod dan bwysau anarferol. Gall straen effeithio arnom mewn nifer o ffyrdd yn gorffol ac yn emosiynol.

Mae ein cyrff yn creu ymateb straen pan fyddwn mewn sefyllfaoedd sy’n gwneud i ni deimlo dan fygythiad. Gall hyn achosi amrywiaeth o symptomau corfforol, ymddygiadol ac emosiynol.

Mae pawb yn profi straen. Ond, pan fydd yn effeithio ar ein bywyd, ein hiechyd a’n lles, mae’n bwysig ei daclo cyn gynted â phosibl. Er bod straen yn effeithio ar bawb yn wahanol, mae rhai arwyddion a symptomau cyffredin y gallwch chwilio amdanynt:

Symptomau ac arwyddion straen

  • Teimlo’n bryderus o hyd
  • Teimlo bod pethau’n eich llethu
  • Anhawster canolbwyntio a gwneud penderfyniadau
  • Anhawster ymlacio
  • Iselder
  • Dicter
  • Diffyg hunan-barch
  • Newid mewn archwaeth bwyd a/neu arferion cysgu
  • Defnyddio alcohol, tybaco neu gyffuriau anghyfreithlon i ymlacio
  • Tensiwn yn y cyhyrau
  • Blinder

Os ydych chi’n profi unrhyw un o’r symptomau hyn am gyfnod hir, ac yn teimlo eu bod yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, mae’n syniad da siarad gyda’ch meddyg teulu. Dylech ofyn am wybodaeth am y gwasanaethau cefnogaeth a thriniaethau sydd ar gael i chi.

Ymdopi â Straen

Y peth cyntaf i’w wneud, os nad yw’n hollol amlwg yn barod, ydy adnabod beth sydd yn achosi’r straen. Efallai ei fod yn llawer o bethau bach yn dod at ei gilydd, na fyddai’n broblem fawr ar ben ei hun, neu efallai mai un peth penodol ydyw. Unwaith i chi adnabod y broblem mae’n syniad da i feddwl am beth ellir ei wneud i newid pethau. Nid yw hyn yn hawdd bob tro wrth gwrs ac weithiau nid yw’n bosib.

Mewn realiti, bydd yna rai sefyllfaoedd sydd wastad yn mynd i achosi lefel penodol o straen. Y peth pwysig ydy i wybod sut i ddelio gyda’r straen yma a darganfod ffyrdd i ymdopi â nhw’n haws.

Dyma rai syniadau ar sut i drechu straen:

  • Cadw cydbwysedd bywyd-gwaith dda
  • Treulio amser gyda’r bobl sydd yn gwneud i chi deimlo’n hapus
  • Diffodd y teledu a gwneud rhywbeth arall
  • Cael bath
  • Chwilio am hobi newydd
  • Ymarfer corff
  • Cael noson dda o gwsg
  • Cael gwared ar annibendod
  • Bwyta diet cytbwys iach
  • Dysgu a defnyddio technegau anadlu syml

Yn anffodus nid oes wialen hud pan ddaw at straen. Ond, mae bod yn ymwybodol o beth sydd yn achosi’r straen a gwybod beth allwn ni ei wneud i reoli’n lefelau straen yn hanner y frwydr.

Mae hefyd gan Mind a’r Sefydliad Iechyd Meddwl gyngor da ar sut i ymdopi gyda phwysau a straen.

Dolenni allanol

Ffynhonnell: Y Sefydliad Iechyd Meddwl, Pwynt Teulu