Cyfryngau Cymdeithasol

Social Media

Mae cysylltu ag eraill yn rhan fawr o’n bywydau, ond os ydych chi’n gweld pethau ar-lein sy’n gwneud i chi deimlo’n ddig, yn drist, yn bryderus neu dan straen gall hyn gronni a dechrau cael effaith negyddol ar eich bywyd.

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi’ch gorlethu gan fywyd ar-lein, yn methu cymryd cam yn ôl, neu’n ei chael hi’n anodd ymdopi, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Rydyn ni oll yn brwydro i gadw ein bywydau ar-lein yn bositif ar adegau.

Sut alla i gael amser mwy positif ar-lein?

Nid yw bob amser yn hawdd deall pam eich bod chi’n teimlo’n isel pan rydych chi ar-lein. Cymerwch ychydig o amser i fynd trwy eich cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol i ddeall beth sy’n gwneud i chi deimlo’n dda, a beth sydd ddim.

  • Gwiriwch eich hwyliau cyn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, a meddyliwch am yr hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud cyn i chi blymio i mewn. Gofynnwch i’ch hun: a yw’r cyfryngau cymdeithasol yn mynd i wneud i mi deimlo’n well neu’n waeth ar hyn o bryd?
  • Dad-ddilynwch neu miwtiwch gyfrifon sy’n eich cythruddo, yn eich gwneud yn ddig neu’n cymryd gormod o’ch amser.
  • Cofiwch nad oes rhaid i chi fod ar bob platfform. Ceisiwch ddileu un ap o’ch ffôn am wythnos a gweld beth sy’n digwydd.
  • Ceisiwch gyfyngu’ch amser ar y cyfryngau cymdeithasol yn enwedig cyn i chi fynd i gysgu a phan fyddwch chi’n deffro.
  • Cyn i chi bostio neu adael sylwadau, gofynnwch i’ch hun: a ydw i’n gwneud rhywbeth positif i mi fy hun a’r bobl a fydd yn gweld y neges?

Cymunedau cadarnhaol

Gall bod yn rhan o gymuned gadarnhaol ar-lein roi hwb i’ch iechyd meddwl.

  • Dilynwch gyfrifon sy’n gwneud ichi deimlo’n dda, sy’n cadw’ch diddordeb ac yn rhannu cynnwys cadarnhaol (e.e. @gwefanmeddwl ar Twitter).
  • Edrychwch i weld pa gyfrifon mae’r pobl rydych chi’n mwynhau eu dilyn yn dilyn eu hunain. Peidiwch ag anghofio hyrwyddo cyfrifon cadarnhaol trwy hoffi, gadael sylwadau a rhannu eu negeseuon.
  • Nid ydych chi ar eich pen eich hun. Beth bynnag yw eich angerdd, bydd pobl eraill ar-lein sy’n ei rannu. Dewch o hyd i gymunedau ar-lein o’r un anian.
  • Mae’n bwysig cofio, er bod llawer o gymunedau iechyd meddwl ar-lein yn fannau cadarnhaol, gall rhai fod yn negyddol i chi a’ch adferiad. Mae’n bwysig osgoi unrhyw leoedd sy’n eich annog i wneud pethau sy’n niweidiol i’ch iechyd corfforol neu feddyliol. Os ydych chi’n cael trafferth gyda phethau rydych chi’n eu profi ar-lein, siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt.

Ffrindiau, Achosion a Chyngor

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ofod gwych i adael i’ch ffrindiau wybod nad ydych chi wedi eu hanghofio, eich bod chi’n poeni amdanyn nhw a’u bod nhw’n bwysig. Gall sicrhau fod y byd ar-lein yn lle mwy positif fod yn hwb i chi hefyd!

  • Dydych chi byth yn gwybod beth mae rhywun arall yn mynd drwyddo. P’un a ydych chi’n sylweddoli hynny ai peidio, gall eich cefnogaeth i eraill ar y cyfryngau cymdeithasol wneud byd o wahaniaeth.
  • Pa newid yr hoffech chi ei weld yn y byd? Defnyddiwch eich porthiant i gefnogi’r achosion rydych chi’n poeni amdanyn nhw a helpu i wneud iddyn nhw ddigwydd.
  • Cofiwch nad yw’r holl gyngor a gewch chi ar-lein yn dod gan arbenigwyr, hyd yn oed os yw’n dod gan bobl sy’n gwybod beth rydych chi’n mynd drwyddo. Ni fydd cymunedau cadarnhaol byth yn eich cynghori i wneud unrhyw beth niweidiol, nac unrhyw beth sy’n gwneud ichi deimlo’n waeth.

Rheoli eich amser

Mae apiau fel Facebook a Instagram a yn ei gwneud hi’n hawdd olrhain eich amser ar-lein, p’un a ydych chi ar iOS neu Android.

  • Ar gyfer Facebook, ewch i Mwy Menu > Gosodiadau a phreifatrwydd (Settings and privacy) > Eich amser ar Facebook (Your time on Facebook).
  • Gallwch chi hefyd osod hysbysiad dyddiol yn dweud wrthych pan rydych wedi bod yn defnyddio Facebook am fwy o amser nag yr ydych chi ‘n dymuno ac hefyd amserlenni ‘Modd Tawel’ am gyfnodau penodol o’r dydd.
  • Ar gyfer Instagram, ewch i’ch cyfrif  instagram-user-profile > Mwy Menu > Eich gweithgaredd (Your activity).
  • Mae apiau fel Hold yn ddefnyddiol, yn enwedig os ydych chi’n ceisio canolbwyntio ar astudio. Mae Hold yn eich gwobrwyo am roi eich ffôn i lawr. Rydych chi’n cael ‘pwyntiau poced’ y gellir eu cyfnewid am dalebau coffi a thocynnau sinema. Mae yna lawer o apiau eraill hefyd sy’n eich helpu i aros oddi ar eich ffôn, fel Moment, Stay Focused ac OFF.

Ffynhonnell: helpguide.org