Taflenni lliwio

Am ddim

Mae ymchwil yn awgrymu y gall lliwio, a therapi celf yn gyffredinol, fod yn fuddiol iawn i bobl o bob oed.

Yn ogystal â rhoi egwyl a chyfle i chi ymlacio, gall lliwio helpu drwy:

  • Codi eich hwyliau a lleihau lefelau gorbryder a straen;
  • Eich annog i ddatblygu technegau ymdopi positif ac ymlaciol i ddelio â meddyliau a theimladau anodd;
  • Tynnu eich sylw oddi ar feddyliau negyddol a phryderus. (gwybodaeth: happiful.com)

Mae’r lluniau ar gael i’w lawrlwytho am ddim. Wedi i chi rhoi’r eitemau yn eich basged, byddwch yn derbyn dolen i lawrlwytho copïau PDF o’r lluniau i’w hargraffuCysylltwch â ni os na allwch chi eu hargraffu eich hun.

Artist y lluniau: Lleucu Gwenllian (@studio.lleucusiop Etsy Lleucu) ac Angharad Rees (@anji_dwdl)