Daw dyslecsia’n fyw gyda delweddaeth drawiadol a thestun lliwgar yn y llyfr newydd hwn am yr hyn mae dyslecsia yn ei olygu, sut mae’n teimlo, ei fanteision, a ffyrdd o’i gofleidio. Trwy ddangos beth ydyw a thrwy ofyn i’r darllenydd sut mae’n berthnasol iddo, mae’r llyfr hwn yn cyflwyno ffordd ddifyr a diddorol o ddirnad a deall sut mae dyslecsia yn effeithio’n benodol ar unigolion.
Mae’n cynnwys llond trol o adnoddau dysgu a chynghorion, a cheir oriel o bobl â dyslecsia sydd wedi defnyddio eu sgiliau penodol i wneud rhywbeth rhyfeddol â’u bywydau ac sy’n siŵr o’ch ysbrydoli.
Rhagor o wybodaeth
ISBN: 9781913733803 (1913733807)
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Ebrill 2023
Cyhoeddwr: Graffeg
Fformat: Clawr Caled, 222×160 mm, 98 tudalen
Rhan o’r cynllun ‘Darllen yn Well’
I weld rhagor o lyfrau iechyd meddwl Cymraeg, ewch i’r dudalen hon.
Wrth brynu llyfrau drwy siop y wefan hon, bydd meddwl.org yn derbyn 33.33% o bris y gwerthiant.