Cyfrol hardd sy’n cynnig cysur i’r rhai sy’n galaru, neu sy’n wynebu cyfnod anodd yn eu bywyd. Mae wedi deillio o brofiadau Elin Angharad Davies, a’r dudalen Facebook ‘Gair o Gysur’ a grëwyd ganddi. Mae’n cynnwys cerddi gwreiddiol o’i gwaith hi a nifer o feirdd eraill, beirdd cyfoes ar y cyfan, ynghyd â dywediadau cysurlon, addasiadau o gerddi a dyfyniadau o ganeuon poblogaidd. Mae holl elw’r gyfrol yn mynd at meddwl.org.
Rhagor o wybodaeth
ISBN: 9781913996123 (1913996123)
Dyddiad Cyhoeddi: 25 Mai 2021
Cyhoeddwr: Gwasg y Bwthyn
Fformat: Clawr Caled, 155×155 mm, 128 tudalen
I weld rhagor o lyfrau iechyd meddwl Cymraeg, ewch i’r dudalen hon.
Wrth brynu llyfrau drwy siop y wefan hon, bydd meddwl.org yn derbyn 33.33% o bris y gwerthiant.