Dilyna’r llyfr daith teulu o ddreigiau trwy eu colled a’u galar yn sgil marwolaeth y sibling ieuengaf, DREIGYN. Disgrifia eu bywyd cyn i DREIGYN farw, ei farwolaeth ac yna yr adeg ar ôl ei farwolaeth.
Mae’r llyfr hwn yn cynnig cefnogaeth i blant sy’n paratoi am farwolaeth brawd neu chwaer, neu’n ymdopi yn ei sgil, gan gynnwys rhai ag anhwylder anghyffredin neu heb ei ddiagnosio. Trwy ganolbwyntio ar sut mae salwch a marwolaeth DREIGYN yn effeithio ar ei frawd a’i chwaer, mae’r llyfr yn normaleiddio emosiynau dryslyd a all deimlo’n llethol i blentyn sy’n wynebu sefyllfa debyg. Cynhwysir adran wybodaeth, wedi ei hysgrifennu gan nyrs gofal lliniarol pediatrig, sy’n ymgorffori cwestiynau y gall plant eu trafod gydag oedolion
Rhagor o wybodaeth
ISBN: 9781914471711 (1914471717)
Dyddiad Cyhoeddi: 15 Chwefror 2022
Cyhoeddwr: The Book Guide Ltd
Fformat: Clawr Meddal, 199×128 mm, 66 tudalen
I weld rhagor o lyfrau iechyd meddwl Cymraeg, ewch i’r dudalen hon.
Wrth brynu llyfrau drwy siop y wefan hon, bydd meddwl.org yn derbyn 33.33% o bris y gwerthiant.
