Yr AS Chris Evans yn trafod Anhwylder Dysmorphia’r Corff : BBC

Ar ôl cael ei fwrw gan gar yn ei arddegau ac ysgariad ei rieni, dechreuodd Chris Evans ddioddef o salwch meddwl.

Wrth i’w bwysau gynyddu a’i hunan-hyder leihau, dechreuodd wneud ymarfer corff, ond trodd hyn yn gyflwr iechyd meddwl – Anhwylder Dysmorphia’r Corff (BDD). 

Mae’r AS ar gyfer Islwyn yn annog unrhyw un sy’n profi rhywbeth tebyg i siarad â rhywun.

Dywedodd “Mae’n ffordd o gael rheolaeth dros rywbeth, yn enwedig pan fo rhannau o dy fywyd allan o reolaeth”.

Cyflwr seicolegol yw Anhwylder Dysmorphia’r Corff lle mae dioddefwyr yn datblygu pryderon eithafol am y “diffygion” maent yn gweld yn eu hunain ac yn delio â nhw mewn ffyrdd eithafol iawn.

Cafodd cyflwr Mr Evans ei sbarduno gan gyfnod o wellhad yn dilyn y ddamwain lle’r oedd angen plaster ar ei goes am fisoedd.

Dywedodd, “O ganlyniad doeddwn i ddim yn actif iawn a dechreuais fagu pwysau”.

Ar ôl i’r plaster gael ei dynnu, dechreuodd godi am 5 y bore i redeg â’i gi lan y mynydd am awr a hanner, yna byddai’n dychwelyd ac yn gwneud awr arall o ymarfer corff yn y tŷ, yn ogystal â mynd am dro arall ar ôl hynny. Byddai’n edrych ar ei gorff yn y drych, ac os nad oedd yn hapus, byddai’n parhau i wneud ymarfer corff tan iddo flino’n llwyr.

Meddai, “Mae gan bawb eu heriau, eu problemau gwahanol sy’n rhaid iddyn nhw wynebu. Ond os ydych chi’n onest ac yn agored, ac yn siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddynt, mae pobl wastad yn ceisio eich helpu”.

[cyfieithwyd y dyfyniadau]

Darllen rhagor : BBC (Saesneg)