“Yoga’n atgoffa fi bo’ fi’n ocê!” – Tara Bethan : BBC Cymru Fyw
Ar ddiwrnod ei phenblwydd, aeth Tara Bethan i sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru am ei phlentyndod prysur ac am ei thatŵ, sydd yn gymorth iddi gadw’i bywyd o dan reolaeth:
“Rhyw dair blynedd yn ôl es i India am fis dros adeg fy mhenblwydd i ddysgu i fod yn hyffordwraig yoga.
Wnaeth y cwrs yoga newid fy mywyd, a newid y ffordd dwi’n sbio ar fywyd. Dwi’n cofio ar ddiwrnod fy mhenblwydd yna, wnes i ddeffro am hanner awr wedi pump y bore, gwneud y dwy awr o wers oedd i gael pob bore, ac wedyn mynd lawr i’r traeth, cael paned o goffi a teimlo fatha’…’Dwi’n ocê!’
Does gen i ddim cywilydd o gwbl cyfaddef bod fi wedi bod yn… ac yn dal i fod yn stryglo gyda cyfnodau isel. Mae bywyd yn gymhleth ac yn anodd ar adegau dydi!
Dwi wedi gweithio lot ar fy hun, a fy meddwl, dros y blynyddoedd, yn enwedig dros y naw mlynedd dwythaf ers marwolaeth fy nhad. Un peth oedd ymdopi a cholli rhiant, peth arall oedd dygymod â bywyd ar ei newydd wedd, a pherthynas newydd gyda Mam, yn enwedig fel unig blentyn”