Y ‘corwynt’ meddyliol tu mewn i ben digrifwr : BBC
Mae digrifwr wedi siarad am sut cafodd ei yrfa ei atal am gyfnod yn dilyn chwalfa feddyliol, a sut mae ei orbryder yn teimlo.
Roedd Wes Packer, o Gwm Rhondda, yn llwyddo ym myd comedi pan gafodd ddiagnosis o iselder a gorbryder yn 2012. Erbyn hyn mae’n ceisio dychwelyd at gomedi tra ei fod hefyd yn edrych ar ôl ei iechyd meddwl.
Mewn cyfweliad â BBC Wales dywedodd:
“Pryd mae’r ‘corwynt’ yn cychwyn, dyna’r peth fwyaf swnllyd dw’i erioed wedi clywed, ond mae yn fy mhen. Mae’n frawychus. Mae’r gwynt yn chwyrlio, ac mae yno law, grym dinistriol a sgrechian. Mae dicter a gwrth-frwydro a bai a chywilydd… dwi’n tystio o flaen Duw, mae fel bod o dan ymosodiad. Ac mae’r person chi’n siarad ag yn dweud “Beth sy’n bod gyda ti nawr?” Ble ydw i’n dechrau?!
“Mae fel bod o dan ymosodiad. Mae fel bod o dan ymosodiad gan fyddin o ddiafoliaid, ac maent i gyd yn dy ben, a’u hunig swydd yw gwneud i chi deimlo mor wael â phosib, a’ch dinistrio chi mewn unrhyw ffordd. Well fyth, iddyn nhw, petai chi’n cael eich gyrru i ddinistrio eich hunan, achos mae hynny’n ddigri iddyn nhw.” [cyfieithiad]