Teimlo’n Euog

Deffro am 7, dim awydd codi.

Gorwadd yn gwely, ddim isio symud.

8 o’r gloch, plant wedi deffro, dal ddim isio codi, aros yn gwely yn gwylio teledu.

 

Teimlo’n euog.

“Ma hi’n mynd i fod yn ddiwrnod fel’na heddiw”

Dim bwys be o ni’n drio i ysgwyd y ‘mood’ does na ddim byd yn gweithio.

Mynd i gawod i drio deimlo’n well, dim awydd golchi ‘ngwallt, gormod o ymdrech.

Nôl i gwely i wylio teledu. Plant yn chwara’ yn eu llofftydd.

 

Teimlo’n euog.

Dal dim awydd symud.

Plant yn gwylio teledu a chwara’ ar yr Xbox. Teimlo’n euog.

Corff yn teimlo’n drwm ag yn stiff, just isio aros yn gwely.

Codi i neud cinio i’r plant, tamad o chocolate i fi fy hun.

 

Teimlo’n euog.

Plant yn swnian i fynd allan i’r eira, dim awydd.

 

Teimlo’n euog.

G’neud ymdrech i roi fy ‘sgidia a mynd allan. Rownd y gornal o’r tŷ, ag yn nôl ar ôl 10 munud.

 

Teimlo’n euog.

Bob dim yn teimlo’n ormod o effort heddiw.

Plant yn nôl yn gwylio YouTube a chwara’ ar yr Xbox.

 

Teimlo’n euog.

17:00 angan ‘neud tê, chwilio drwy’r freezer, taflu petha i’r popty.

 

Teimlo’n euog.

Plant wedi byta, ag yn nôl ar ei petha. Teimlo’n euog.

Edrych ‘mlaen at amsar gwely.

Corff wedi blino, ond heb neud dim byd.

 

Teimlo’n euog.

Gobeithio am ddiwrnod gwell fory.

 

Gweno Lloyd Roberts