Teimlo cywilydd am fy iechyd meddwl

Fi wedi bod yn byw gydag iselder a gorbryder ers bron i 3 blynedd nawr, a chefais fy diagnosio ym mis Medi, 2018. Bues i ar antidepressants o’r enw Fluoxetine i fyny hyd at Chwefror, 2019. Do’n i ddim wedi gweld yr angen i ofyn am gael nhw nôl am ddros flwyddyn a hanner achos o’n i’n teimlo’n llawer gwell a chryfach yn fy hun. Roedd gyda fi llawer o gymorth gan ffrindiau a theulu, roedd gyda fi bywyd cymdeithasol da ac o’n i’n mwynhau gwaith.

Yna, daeth y lockdown. Roeddwn i’n teimlo’n dda yn ystod y misoedd cyntaf, ac wrth edrych nôl nawr, roedd angen y brêc yna arna i, bant o ‘bywyd normal’ i jyst ‘switcho off’ o bob dim. Unwaith des i’n gyfarwydd gyda beth oedd yn digwydd (lockdown, Covid-19 ayyb) cicio mewn ‘da fi.. ‘nes i ddechrau cael cwpwl o ‘blips’ neu ‘ups and downs’ le weithiau bydden i’n gorfeddwl pethau ac yn gweithio’n hunan lan llawer. Cefais gwpwl o banic attacks ond dim byd o’n i’n reli poeni amdano, o’n i dal yn gallu rheoli’r sefyllfa.

Dros yr haf, roedden i wedi gallu cael rhyw fath o normalrwydd eto, bues i’n gweld fy ffrindiau a oedd yn gwneud byd o wahaniaeth i iechyd meddwl fi, o’n i llawer hapusach ac roedd gweld bod nhw’n iawn hefyd yn wyneb i wyneb (yn lle Zoom!) yn beth hyfryd. Fe wnes i hefyd mynd ar deiet strict, a chollais bron 1 stôn mewn cwpwl o fisoedd. Fi byth wedi bod yn hyderus yn y ffordd rwy’n edrych ac rwy’n ‘insecure’ yn siâp fy nghorff. Roedd fy hunan hyder yn dechrau gwella to ar ôl colli bach o bwysau, ac o’n i’n hapusach yn mynd allan i gerdded bod dydd ayyb. Aeth yr haf heibio mor gyflym ac roedd e’n amser i’r merched mynd nôl i’r brifysgol, i chwaer fi ddechrau yn y brifysgol ac roeddwn i’n mynd nôl i gwaith. Rwy’n gweithio mewn cylch meithrin felly o’n i’n nerfus iawn ac yn gorfeddwl y sefyllfa llawer yn meddwl am fynd yn agos i’r plant ac i gysuro nhw ag ati. Er hyn, roedd e’n dda cael rŵtin eto, ond o’n i’n stryglan lot tu fewn gyda’r holl newidiadau yn digwydd yr un amser yn fy mywyd. Fe wnes i ddweud wrth Mam fy mod i’n gweld hi’n anodd ac fe wnaeth hi gytuno bod hi’n syniad da i ffonio’r doctor, a bues i ar Fluoxetine am yr ail dro am 3 mis. Des i bant o’r feddyginiaeth cwpwl o wythnosau cyn y Nadolig, ac roedd llawer o achosion Covid yn yr ardal. Roedd hyn yn gwneud fi’n bryderus, ond o’n i’n hapus ac yn edrych ymlaen at ddathlu’r Nadolig gyda fy nheulu.

Cefais gwpwl o wythnosau da dros gyfnod y Nadolig, ond roedd fy hunan hyder yn isel iawn, yn enwedig dros y misoedd diwethaf lle rhodais lot o bwysau arno. Diwrnod cyntaf 2021, o’n i’n teimlo’n isel iawn. Roedd fy chwaer newydd adael i fynd nôl i’r brifysgol ac roedd y cyfnod cyffrous o’r gwyliau Nadolig drosodd am flwyddyn arall. Fi’n credu hefyd, roedd 2020 yn flwyddyn mor od a gwahanol i bawb, oni’n teimlo’n overwhelmed… mae llawer o bethau positif wedi dod mas o’r flwyddyn ond eto fi’n teimlo fel bod fi ddim reli wedi ‘neud unrhywbeth i fod yn browd ohono. Fi ‘di bod yn teimlo’n isel ac yn bryderus iawn ers y 1af o Ionawr, a fi’n gwybod bod e’n mynd i fod yn anodd i ddod allan o’r sefyllfa hyn fi mewn (mae e’n teimlo fel bo’ fi’n treial dod allan o quick sand)… ond fi’n mynd i dreial gwneud hyn heb feddyginiaeth y tro yma.

Sai’n gwybod pam, ond fi’n teimlo cywilydd am y ffaith bod fi’n dost eto. Fi’n gweld e’n anodd siarad gydag unrhyw un am fel fi’n teimlo, beth sy’n mynd trwy feddwl fi, beth sy’n poeni fi, a sain gwybod pam. Fi wedi bod yn agored iawn cyn nawr pan mae’n dod i iechyd meddwl fi, ond mae rhywbeth wedi newid. Ro’n i arfer dweud popeth wrth fy nheulu, ffrindiau a nawr rwy’n teimlo cywilydd ac yn ofn siarad ag unrhyw un am fel fi’n teimlo. Fi wedi bod yn teimlo fel hyn ers y lockdown cyntaf. Pam?

Fi’n gwybod galla i ddod trwyddo hwn eto. Fi wedi sawl gwaith o’r blaen, a gyda help fy sboner, teulu a ffrindiau, byddai’n gwella cyn hir. Mae pob dim yn cymryd amser, ac mae eisiau amynedd. Y cam cyntaf yw i siarad… i siarad gyda rhywun (unrhyw un) am beth sy’n mynd trwy fy meddwl, ac i ddeall bod dim rheswm i deimlo cywilydd dros beth fi’n teimlo o ddydd i ddydd. Does yna neb yn fy marnu nac yn mynd i fy marnu, a dyw byw gyda phroblemau iechyd meddwl ddim yn hawdd o bell ffordd, ond nid fi yw’r unig un.

Hannah Catrina