Sut Ddim i Alaru

Fy enw i yw Cerys, a dwi di colli cymaint yn y blwyddyn dwethaf. Dwi di galaru ac yn dal i alaru. Dwi’n dod ar draws fel berson sy’n hyderus, llawn egni a bywyd. Ond trwy yr amser galed yma dwi di gorfod dod wyneb yn wyneb gydag ochr dywyll o fy hun. 

Ond beth all ddigwydd i daflu i fi i fewn i’r abys tywyll? Dwi di stryglo â’n meddwl iechyd i erioed, lot o fe wedd i wneud ag undiagnosed ADD ond hefyd mae genai anxiety a depression.

Ond fe ddechreuodd yr hunllef yma yn 2019. Fe cafodd fy Nhad harten yn yr Alban (lle roedd o’n dod o). Rodd Mam a Dad ar wylie lan na, ac fe cefais y phonecall hunllefol cyntaf. Arafodd fy myd. A sgrechais wrth glywed y newyddion afiach. Llais Mam, mor agos a mor bell. Rodd y misoedd nesa yn galed – rodd Dad mewn coma a doedden ni ddim yn gwbod os oedd o’n mynd i fyw. Goffos i sefyll yn gryf ac edrych ar ôl Mam, rodd hi’n fenyw gryf ond dodd hi ffili ymdopi gyda’r straen a’r holl outcomes yn ei phen hi, colli Dad, a’r bywyd ro nhw di adeiladu gyda’i gilydd. O fewn pythefnos fe ddath Dad allan o’r coma a byw. Fe ddysgodd o i gerdded eto, i ddefnyddio ei ddwylo, i siarad. Cafodd e ei eni eto, a dodd o ddim yn bles. Achos y ddamwain cafodd ei ymenydd ei niweidio. Dodd e ddim yn Dad rhagor. Rodd o’n fyr amynedd (ddim lot o newid fan’na, ond yn llawer gwaeth nag o’r blaen) Rodd o’n cerdded fel Bambi on ice. Collodd o y gallu i ware ei bagpipes. Rodd Dad yn un o’r goreuon yn y byd. Pan cafes i fy ngeni rodd o mewn band o’r enw’r Tartan Ambibas. A rodd o’n freaking amazing piper. Collodd e ei fiwsig. Rodd hynny’n torri fy nghalon. Rwy’n meddwl nawr gyda’r oll a ddigwyddodd, ma’n syndod fod calon ar ôl genai. Ar ôl iddo dorri a thorri. Ond fe ddawn ni i hynna.

I fod yn onest ro ni bach o daddy’s girl. Rodd o’n caru’r ffaith bo fi mor ddrwg fel plentyn bach. Ro ni’n dreifo Mam a Dad lan y blydi wal. Wastod yn fishi, wastod yn gwneud rhywbeth. Wastod lan i ddrigioni. Roedd Dad di gweud bo’ fi mor benderfynol a stwbwrn ag e, a rodd o’n caru hynna. Er achosodd e lot o gwmpo mas! Wedd e’n galed i weld Dad yn gorwedd yn y gwely mewn coma. Dodd o ddim yn ddyn tawel. Ro chi’n gwbod os wedd y boy o Edinburgh ‘na! Rodd o’n chwerthin gyda’i ened! Rodd Mam yn ddrwg am weindio fe lan ac ar ôl i ni cwmpo allan fe fuodd yna chwerthin ar y sefyllfa dwl. Ro ni’n caru fy nheulu bach fucked up ni. 

Dodd o ddim yn deg beth ddigwyddodd. 

Tua tair mis ar ôl damwain Dad, cafodd Mam ei diagnoso gyda stage 3 bowel cancer. Iesu ma’ lwc dda da ni yndose? Ro ni yn fy nhrydydd blwyddyn yn y Brifysgol. A we ni ddim yn gallu credu e. Fe chwalodd fy myd. Rhoddes i 3 stone mlan, we ni ddim yn becso rhagor. Wedd Mam yn ffrind gore fi. A we ni mynd i frwydro hyn i’r diwedd. Ond wrth fy hunan bach ron i’n galaru. Ddim ar y dechre. Ond wrth i’r driniaeth fynd ymlaen, ar ôl yr operation, ar ôl y chemo, y radiotherapi. Rodd Mam yn edrych yn wath a gwath. Ac rhodd y doctoried ddim newyddion da chwaith. O flaen Mam ron i’n trio fod yn gryf wrth i mi newid bags stoma hi. Ond yn fy stafell wrth fy hunan ron i’n llefen fel nad oedd fory i gael. Wel na beth wedd e’n teimlo fel. 

Ron i’n neud cymaint i Mam a Dad wrth edrych ar ôl nhw, goffes i ddod yn makeshift nurse dros nos. Rodd e’n lot i ddod i arfer efo. Ond beth odd yn waeth oedd y gwagder ar ôl ‘ny.

Fe cafodd Dad driniaeth ar ei spine i drio sorto mas problemau’r ddamwain. A cafodd e infection felly ath e i Morriston, cafodd e un infection ar ôl y llall. Ro ni methu mynd i weld e achos rodd Mam yn mynd yn waeth hefyd. Goffodd hi fynd i mewn i’r ysbyty achos ‘ny.

Ro ni’n galw mewn ‘da Mam a wedyn mynd i weld Dad, o Gaerfyrddin i Abertawe a nôl i Gastell Newydd. Rodd o’n amser prysur a llawn straen nag o’n i ‘di sylweddoli. Ar un daith i weld Dad pan ro ni ym Mhont Abraham cafes i phonecall o’r ysbyty yng Nghaerfyrddin.

Ro nhw’n ysu mi i ddod i fewn i siarad gyda nhw. A wedes i wedd rhaid i mi fynd i weld Dad. Ac os odd e’n bwysig se ni’n teimlo’n well bo’ nhw’n gweud tho fi’n blaen.

A dyna ni. Wedodd y ddoctor fod Mam yn marw. 

Dechreuodd fy myd ddymchwel ac rodd beth oni’n feddwl wedd realiti yn cwmpo lawr. Rodd Mam yn ffrind gore fi. Rodd hi’n constant. Carreg gwastad yn fy mywyd. A nawr rodd yr universe yn mynd ag hi oddi wrtho ni. Fi a fy mrawd bach. 

Penderfynais gweld Dad, ond wedes i ddim iddo. Wedd ddim angen fe wbod eto. Ro ni ddim di prosesu hwn fy hunan. Shwt allai weud wrtho fe bod y fenyw mae o’n garu yn marw? Rhoddes i tedi odd yn edrych fel ei hoff gi, Seren, iddo a chwtshodd e a chwerthin ar y tebygrwydd. Sefes i ddim hir gydag e, ro ni’n anghyfforddus gyda’r ffaith bod y byd tu fas ar fin dymchwel. Felly adawes i am Gaerfyrddin.

Cyrhaeddes i’r ward. Wrth fy hunan. Wedd Aron yn mynd i gwrdd a fi yn yr ysbyty. Ond nawr we ni yn yr ysbyty yn aros i siarad gyda’r doctor. Ro ni’n teimlo fel plentyn eto ac we ni jest moen Mam fi. Wedodd y doctor i mi ei bod hi’n marw ac o fewn eiliad rodd yna ddagre. Dath o fel ton, popeth dros y blynyddoedd dwetha yn llifo allan. Ac yna fe rhoddodd nhw tair diwrnod iddi fyw. Felly wnes i dynnu cymaint o bobl pwysig a gallaf yn ei bywyd hi, i ddod i weld hi a gweud hwyl fawr. Rodd Ryland ei brawd hi, wedi dod a’i wraig a’u plant draw. Sefo ni rownd y gwely yn gwrando ar straeon am Mam. Rodd hi’n bittersweet. Ro ni mor mor browd o’r bywyd cafodd Mam. Ond rodd hi’n haeddu cymaint mwy. Yn yr ysbyty canodd fi a fy mrawd, a theulu Ryland. Dodd Mam ddim yn gallu siarad, ond rodd hi’n canu gyda ni. Rodd ‘na un dydd lle wedd popeth yn ormod a phwysais fy mhen ar ysgwydd Mam a gweud faint rodd hi’n meddwl i mi, a gweud faint ro ni’n caru hi. Ac yna yn dawel fe phwysodd hi ei phen hi arno un mi. A syrthiodd fy hanner mrawd henach Chris i ddagre wrth weld hyn. Nag odd genai cliw pam rodd e’n llefen. Rodd e ‘di gweld bod Mam yn adnabod un o’i babis hi a ‘di moen cwtsho mewn gyda nhw. Dath ffrindie annwyl Mam i weld hi, yn cofio nol i antics rygbi a galaru ar un o’r goreuon yn mynd yn rhy gynnar.

O fewn deg diwrnod bu farw Mam ar y 4ydd o Awst. Ni chafodd Dad weld hi wyneb yn wyneb, ond fe chafodd e facetimeo hi, i weud ei geiriau o gariad.

“Tres I love you and I will see you and Sam (Hen gi ni a farwodd) on that rainbow bridge.” 

Doedde ni ddim yn gwbod ar y pryd pa mor fuan fydda hwnna.

Ar ôl i Mam marw fe droes i fy sylw at Dad. Nawr rodd o’n mynd i wella. Ron i’n benderfynol. Ond, fel fi rodd o’n hen bat styfnig. Fe ddechreuodd o droi lawr bwyd yr ysbyty. Pob tro weles i o, ron i’n crefu iddo i fwyta, bwydo fe a wedyn rhoi fy nhroed i lawr a gweud bo rhaid iddo cael tiwb bwyd. Ond ar unwaith pan fyddwn i wedi gadael, fe fydde fe’n gwneud ffys a ddim yn gadael i unrhyw un i ddod yn agos ag e a’r tiwb. Felly dechreuodd o i fynd yn wath. Rodd o’n severly malnourished a rodd rhannau o’i bowel yn marw. Ac yn sydyn fe cafodd o ei drosglwyddo i ICU. Felly dim rhagor o ymwelwyr. Ac yn fuan cafo ni un o’r phonecalls afiach. “We need you to come in, your father isn’t doing well.” 

Ro nhw methu rheoli ei bwysau gwaed a felly meddwl y peth gorau i wneud wedd i dynnu o bant o’r meddigyniaeth odd yn cadw o’n fyw. Am tua 9 o’r gloch yh tynno nhw fe bant o’r meddygyniaeth ac o fewn oriau, tua tri y gloch y bore, rodd o ‘di marw. Ar y 1af o Fedi. O fewn mis o’i gilydd, roedd fy rhieni wedi marw. 

Beth ddilynodd wedd mis o salwch uffern. Cafes i annwyd rodd yn cadw fi yn y gwely. Ron i’n llefen trw’r amser, a dechre pori trwy’r gwaith papur. Ro ni methu shiglo y meddwl yma, mai bai fi odd e bod Mam a Dad wedi marw. Ac ro ni meddwl bo’ fi’n mynd i farw nesa. Ac hefyd bo Mam ddim di haeddu marw, a fi dyle di marw. Rodd fy mhen i wedi cal ei llenwi ‘da nonsense. Ron i’n trio neud synnwyr a ffindo ystyr i pam rodd hyn yn digwydd i fi a fy mrawd. Beth netho ni i achosi yr anlwc yma? Benderfynes i ffindio swydd ac i adeiladu fy hunan lan. Ffeindes i un fel content creator, ond y tro yma ron i’n oedolyn, gyda phrofiad caled tu ol iddi. Mae o’n broses hir i ddod trwy. Dwi heb beni galaru. Ond rwy’n teimlo yr emosiynau caled yma. ‘Pain demands to be felt’ – The Fault In Our Stars (crinj).

Dechreues i drio acto’n normal a chymryd mlan gormod o bethau ar unwaith ac o fewn sbel fe ddalodd e lan gyda fi. Ar hyn o bryd rwyf wedi cymryd saib o’r gwaith am fis. Achos fe dorres i. Fe stopies i un bore a phenderfynu dodd yna ddim pwynt i fywyd. Beth odd y pwynt o fynd mewn i gwaith pob dydd? A beth odd y pwynt i drio? Ron i di mynd heb therapi am sbel a freewheelo fy iechyd meddwl. Ron i di meddwl gan bo fi ar antidepressants se ni’n iawn. WRONG.

Ffones i gwaith a gweud fi’n credu ma’ ishe fi cal amser bant o’r gwaith. Dodd rhywbeth ddim yn reit ynddo fi a ron i’n isel a methu dod allan o’r gwely. Ac wedyn fe gysges i am wthnos. Literally. Cysges i ddydd a nos. Braidd yn bwyta, braidd yn symud. Llefen a gofyn i Mamgu i ddod i cwtsho fi. Ac wedyn, fe cefais shiglad gan un o fy ffrindie gore, Sioned. Ffonodd hi fi, a gweud “reit come on, tough love nawr, dere mas o’r ffycin gwely a brwsha dy wallt. Ti mynd i cal dishgled a ti’n mynd i fyw.”

A ‘na’r peth gore ma rhywun di neud i fi. Shiglo sense mewn i fi, i fyw.

Ond dyna’r peryg o anwybyddu galar. Ma rhaid i chi deimlo fe a symud ymlaen. A dim ‘na odd beth oni’n neud. Ron i’n bod mor fishi a ddim yn cal amser i gofio beth o’dd enw fi.

A dyna ble ydw i heddi. Trio cario mla’n yn araf bach, dal yn trio anelu ar gyfer fy mreuddwydion. A dal yma.

Cofiwch bod y bobl o’ch amgylch chi yn bwysig. Nhw sydd am dy godi di mas o’r anialwch tywyll.