Pyliau o Banig
Ymddangosodd y darn hwn yn wreiddiol yng ngholofn misol Esyllt Sears i’r Cymro fis Tachwedd 2020.
Mae pyliau o banig yn bethau rhyfedd iawn. Un funud, ti’n hynod o hyper, yn palu’r lawnt yn dy sgert, sodlau a dy fra gorau (stori wir). Y peth nesaf, ti’n eistedd yn un swp twym ar y gwair, wedi dy orchuddio â baw, ac yn yn meddwl i dy hun, beth yw’r pwynt? A’r tu mewn, ti’n mynd i banig am rywbeth, heb fod yn yn siŵr beth ac mae’r panig yna’n troi’n dristwch dwfn a dyna pryd mae’r dagrau’n ymddangos.
Ddim fel hyn mae e bob amser. Weithiau, wi’n goranadlu, weithiau mae’n teimlo fel profiad o fod y tu allan i’r corff, fel ’mod i’n hofran uwchben fi fy hun – yn arsylwi’r fersiwn yma ohona i nad ydw i’n ei hadnabod.
Weithiau mae’n fy ngwneud i’n ofnadwy o flinedig, ar adegau eraill rydw i eisiau mwytho’r ci. Yn llai aml, wi moyn gwin.
Wi wedi diodde o byliau o banig ers pan o’n i yn fy arddegau ond heb sylweddoli beth o’n nhw hyd nes o’n i’n 29 oed. Yr holl flynyddoedd yna o deimlo’n rhyfedd.
Wi’n cofio unwaith, yn rhyw 16 oed, sgrechian ar fy rhieni fy mod i eisiau mynd adref …pan o’n i eisoes yno. Dyna sut mae’n teimlo’n amlach na pheidio. Er eich bod chi mewn lle cyfarwydd, wedi’i amgylchynu gan wynebau cyfarwydd, dyw e ddim yn teimlo’n iawn. Fel bod y ddaear yn simsan neu eich bod chi’n sownd mewn neuadd llawn drychau.
Mae’r cyfnod yma yn golygu fod pyliau o banig a gorbryder yn cynyddu ac efallai eich bod chi ond wedi profi eich un cyntaf yn y saith mis diwethaf. Cofiwch, nid dim ond chi sy’n profi hyn.
Dy’ch chi ddim yn mynd yn wallgof. Ac mae yna gymorth allan yna os ydych yn barod i drafod y peth.
Esyllt Sears