Pryder am yr Haf
Ers dechrau rhoi pwysau ‘mlaen ar ôl triniaeth anorecsia, o’n i wastad yn poeni am adeg yr Haf.
Fi byth wedi dod drosto deimlo yn anghyfforddus mewn dillad, does dim byd gwell na chrys-t baggy, leggings a hoodie. Mae’n gyfforddus a fi wedi cuddio popeth fi’n ymwybodol ohono, a phopeth bydden i’n poeni bod pawb arall yn sylwi (ond FYI, does neb yn edrych arnoch chi fel chi’n neud i’ch hunan – ma fe’n mental thought ym mhennau ni sy’n dioddef).
Ond yn amlwg, adeg yr Haf, dyw e ddim yn ymarferol i wisgo’r layers. Adeg ‘ny ma’r shorts yn dod mas, vests ayyb. Nawr, pryd o’n i’n sâl – doedd dim problem i mi wisgo’r dillad yma. Ond mor gynted o’n i ‘di dechrau rhoi pwysau mlaen, o’n i’n casáu gwisgo unrhyw beth o’dd yn teimlo’n dynn, neu oedd yn teimlo’n ddadlennol falle. I fi, coesau odd y bit o’n i wastod yn meddwl amdano, ond pryd rhoies i bwysau ymlaen o’n i ddim yn keen ar y bloating (sydd yn hollol naturiol gyda llaw), na’r bronnau odd wedi tyfu’n fwy. Fi’n cofio Haf cyntaf y cyfnod clo – hoodies trwy’r Haf. O’n i ddim yn berchen shorts rhagor amser ‘ny, a braidd dim vests achos o’dd meddwl am wisgo vest a shorts neu hyd yn oed crys-t, a bod pobl yn gweld fi mas fel’na.. Odd e’n neud fi deimlo’n sick. Yn fy mhen, o’n i jyst yn meddwl bod pawb yn edrych arnai, yn barnu fi a ‘nghorff. Ac i ddweud y gwir, sai rili wedi dod drosto’r meddylfryd yna yn hollol. Ma’ dal pryder gyda fi dros adeg yr Haf achos ma’ pawb arall yn edrych yn ffab yn ei shorts, a’i dillad Haf… ac wedyn ma’na fi. Ddim yn agos i edrych fel nhw.
Ond ma’ rhaid cofio bod popeth yn dy feddwl dy hunan. Does neb yn edrych arnat ti a’n barnu ti. Ma’ rhaid i fi ddweud wrth yn hunan hyn bob tro dwy’n cerdded mas o’r tŷ heb hoodie mlaen, neu gyda shorts arno.
Yn ogystal â gwisgo llai yn yr Haf, ma’ pawb eisiau gwneud fwy o bethau cymdeithasol – mas i yfed yn gynharach, neu’n fwy, BBQ’s… Unrhyw beth, amser yr Haf, ma fe fel se fwy o egni ‘da pawb yn yr Haf i neud e gyd. Ma’r haul, a’r nosweithau hir yn bendant yn helpu! A gyda’r gweithgareddau ‘ma, daw bwyd, yfed a llawer, llawer o bryder. Ond, pryd fyddi di’n edrych yn ôl yn y dyfodol nei di byth anghofio’r atgofion ti’n creu neu ddim yn creu! Fi wedi bod yn darllen llyfr ‘The Secret to Happy’ gan Vicky Pattison yn ddiweddar am godi hunan hyder a gwytnwch ac yn y llyfr o’dd yr awdur yn dweud, dwlai hi allu mynd nôl i’w 20s a byw bywyd llon, llawn atgofion. Nawr ma’i atgofion o’i 20s yn wael, achos yr oll ma hi’n cofio yw’r anhwylder aeth hi trwyddo, ac nid oes ganddi hi atgofion melys o’r anturiaethau hwyl. Ma fe mor mor bwysig meddwl shwt byddech yn teimlo mewn deg mlynedd, yn edrych nôl dros dy amser. Allet ti edrych nôl a rili difaru ddim joio, bwyta’r pitsa, neu byrgyr. Yfed y gwin neu’r seidr. Neu gallet ti edrych nôl a gymaint o hapusrwydd o’r ferch neu’r bachgen ifanc joiodd bywyd yn llon!
Ma’ gymaint o bethau fi’n edrych nôl arno, a’r oll allai gofio yw’r teimladau gwael am fy hunan yn hytrach na byw yn yr eiliad a joio pob dim.
Ma’ fe digon hawdd i ddweud ond yn anodd rhoi mewn i bractis rwy’n gwybod yn iawn! Fi dal heddiw yn cael cyfnodau lle rwy’n rili rili gwael, a’n mynd mewn i’n cragen fach i. Fi dal yn cael ambell breakdown fach achos ma’ dillad ddim yn ffitio, neu achos bo’ fi wedi methu bwyta rhywbeth neu hyd yn oed bod cynlluniau wedi newid a nawr fi ddim yn teimlo’n barod. Ond, os allwch chi ddechrau rhoi’r pethau bach ‘ma mewn i bractis, mi ddewch dŷ allan yr ochor arall yn y pen draw.
Joiwch yr Haf bois!