Pan na ddaw’r awen: ‘burnout’ ac ysgrifennu’n greadigol
Mae’r ffenomenon o ‘burnout’ yn weddol gyfarwydd i ni gyd erbyn hyn, fel rhan o drafodaethau cyffredinol am iechyd meddwl a llesiant.
Yn ei ystyr ehangaf, mae’n golygu effaith negyddol straen, pryder, ac iselder ar ein gallu i weithredu neu berfformio i’n safon arferol, boed hyn yn y gweithle, ein hobïau, ac/ neu ein rôl o fewn y cartref. Mi all y ffactorau sy’n cyfrannu at ‘burnout’ deillio o gyfuniad o’r cyd-destunau yma, megis: oriau gwaith hir, cyfrifoldebau gofalu tu hwnt i’r gweithle, a ddim digon o amser hamdden er mwyn ymlacio a gwneud y pethau hynny sy’n codi’r galon. Dyma’r ystyr ‘synnwyr cyffredin’ o ‘burnout’, a’r un yr wyf innau yn tueddu o’i olygu pan rwyf yn ei thrafod. Ac fel mae Kaschka et al. (2011) yn crybwyll, mae’n debyg fod y cysyniad yma o ‘burnout’ yn deillio o weld termau a chysyniadau tebyg mewn llenyddiaeth amrywiol – o chwaraeganau (plays) Shakespeare i’r llenyddiaeth feddygol gyffredinol (o’r 1970au ymlaen).
Fodd bynnag, nid oes, hyd yma, diffiniad swyddogol am ‘burnout’ wedi ei chytuno o fewn y byd meddygaeth; hynny yw, nid yw’n categori swyddogol o salwch o fewn y ‘Llawlyfr Ystadegol Dosbarthu 5’ (‘Diagnostic Statistical Manual V’). Mae ymchwil yn y maes yn tueddu i ganolbwyntio ar y ffenomenon o ran ei chysylltiad hefo’r byd gwaith yn unig, ac mae hyn wedi ei adlewyrchu yn yr ymdrechion diweddar i’w gynnwys fel categori meddygol. Ym Mai 2019, mi wnaeth Sefydliad Iechyd Y Byd (World Health Organization) cyhoeddi pwt ar eu gwefan yn datgan fod ‘burnout’ wedi ei chynnwys o fewn yr adolygiad o’i System Dosbarthu Ryngwladol o Afiechydon 11 (International Classification of Diseases 11). Diddorol iawn yw sylwi ei bod nhw yn pwysleisio’n benodol ei fod yn ffenomenon anheddu (occupational), a ddim yn cael ei dosbarthu fel cyflwr iechyd.
Yn bersonol, nid wyf yn cytuno a’r diffiniad yma; dwi’n credu y gall ‘burnout’ deillio o, ac effeithio ar, ein bywyd gweithiol, cymdeithasol, ac o fewn y cartref, wrth gael ei effeithio gan sawl ffactor ar yr un adeg. Fodd bynnag, da o beth fyddai cael diffiniad mewn llenyddiaeth feddygol swyddogol, er mwyn i ni gyd cael rhannu iaith a chysyniadau wrth ei hystyried. Mae hyn yn bwysig am sawl rheswm wrth gwrs, ond yn enwedig er mwyn i ni gael terminoleg mewn lle trwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth fynd ati i ymchwilio’r ysgrif yma, wnes i ddarganfod nad oes gennym air Cymraeg gweithredol am ‘burnout’. Nid oes gair amdano yn yr amryw eiriaduron ar-lein, felly es ati i geisio ymofyn term wedi ei fathu gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG/ NHS) yng Nghymru. Wrth archwilio hefo ‘Google’ ddes ar draws pamffled wedi ei gyhoeddi gan ‘Prosiect Gofalwyr Sir Fynwy’, a hynny ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Teitl y pamffled yn Saesneg oedd ‘Beating Burnout’. Gwasgais y botwm ‘newid iaith’ ar dop y dudalen, i weld sut yr oedd y GIG wedi cyfieithu’r gair, ond siom y ces i – ‘Curo’r Burnout’ oedd y teitl! Ac felly mae’n ymddangos fod her onomastaidd gennym: i fathu term Cymraeg am y ffenomenon yma. Ar ôl trafod ar drydar, medraf gynnig y geiriau ‘hunlosg’, ‘hunanlosg’, neu ‘hun-rhacso’, fel man cychwyn.
Wrth ymchwilio’n bellach des ar draws diffiniad seicolegol oedd yn disgrifio burnout fel cyflwr o flinder emosiynol, meddyliol, a corfforol, sy’n deillio o fwy na gweithiau oriau hir yn unig. Mae’r sinigiaeth, iselder, a syrthni, sydd yn nodweddiadol o ‘burnout’, yn tueddu o ddod i’r amlwg pan nad oes gan berson rheolaeth ar agwedd o’i gwaith, yn y gweithle neu’r cartref, neu lle mae gofyn iddynt gwblhau tasgau sydd yn tynnu’n groes i’w synnwyr o’r Hun (the Self). Mae hwn yn ddiffiniad sy’n gwneud synnwyr i mi, o ran fy mhrofiad diweddar o ‘burnout’.
Mi es trwy gyfnod annifyr o ansicrwydd, lle roeddwn yn teimlo fod fy hunaniaeth dan fygythiad, a daeth pryder mawr drosta i, wrth i mi geisio penderfynu sut i wella fy sefyllfa. Wrth i’r pryder nythu yn fy enaid, collais fy ngallu i sgwennu’n greadigol. Rwy’n sgwennu colofn lenyddol ers deng mlynedd bellach, a hefyd yn dibynnu ar fy ngallu i sgwennu’n greadigol i gynhyrchu allbwn ysgolhaig o bob math – mae hyn yn strategaeth ymdopi hefo fy nyslecsia. Felly mi roedd yn brofiad brawychus pan ni ddaeth yr awel, hidio befo faint roeddwn yn ceisio ei chodi. O ran fy ngholofn, mi wnes i beth fysa unrhyw awdur werth ei halen yn gwneud – sgwennu am y ffaith fod fy storfa greadigol yn wag!
Yn ddigon ysmala, mi rwyf wedi bod yn teimlo’n llawer iawn gwell yn ddiweddar. Daeth yr awen yn ôl i mi pob yn dipyn – gan ddechrau pan oeddwn ar y traeth, tra ar encil yn Y Stamp yn Nhŷ Newydd. Unwaith eto, wnes i fanteisio arno, gan ysgrifennu cerdd am ‘ddychwelyd’ i iechyd. Wnes i hefyd wedyn ei thrawsieithu i Saesneg a’i gyhoeddi fel Insta-gerdd hefo cefndir roeddwn wedi ei wneud fy hun (rhywbeth arall dysgais ar yr encil). Ag am gyfalafu perffaith, defnyddiais y cerddi yma mewn ysgrif am fy mhroses creadigol!
Fel rhan o fy mhroses gwella a dychwelyd i iechyd, rwyf wedi bod yn dysgu am wahanol fathau o gelf, gan hefyd canolbwyntio ar ysgrifennu’n greadigol, wrth fagu hyder unwaith eto yn fy ngallu i sgwennu’n ysgolhaig, ar ôl saib o bron i flwyddyn. Braf felly yw rhoi cynnig yma, ar geisio cyfuno’r tair gweithred, wrth ychwanegu at y pwnc o iechyd meddwl, trwy gyfrwng y Gymraeg – sy’n rhywbeth pwysig iawn i ddyfodol yr iaith a hefyd iechyd ein cymuned. Cynigaf yr ysgrif hon felly, ynghyd a cherdd, a rhyw fath o waith gweledol perthnasol, gan obeithio y byddwch yn ei fwynhau ac y bydd fy ymdrechion o fudd i rywun yn rhywle.
Sara Louise Wheeler
Llyfryddiaeth
- American Psychiatric Association. (2013). Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders, Fifth Edition (DSM-5). Washington, DC: American Psychiatric Publishing.
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. (2019). Curo’r Burnout – Prosiect Gofalwyr Sir Fynwy 2014. Cyrchwyd Rhagfyr 21, 2019, O: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/866/document/241229/
- Kaschka, W, P., Korczak, D., & Broich, K. (2011). Burnout: a Fashionable Diagnosis. Deutsches Ärzteblatt Internationa, 108(46), 781-787. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC3230825/pdf/Dtsch_Arztebl_Int-108-0781.pdf
- Psychology Today. 2019. “What Does Burnout Look Like?” Cyrchwyd Rhagfyr 21, 2019 https://www.psychologytoday.com/intl/basics/burnout
- Wheeler, S, L. (2019). Dychwelyd. Y Stamp: Rhifyn Tŷ Newydd. https://502ecf99-9c67-40db-a27b-565a44c0701c.filesusr.com/ugd/f43d5e_d7ff3c940c8b40969d30180c0691a54c.pdf
- Wheeler, S, L. (2019). Wrth dy grefft: Trawsieithu fel rhan o’r broses greadigol. Wefan Y Stamp. Cyrchwyd o: https://www.ystamp.cymru/single-post/2019/11/13/Wrth-dy-grefft-Trawsieithu-fel-rhan-o%E2%80%99r-broses-greadigol—Sara-Louise-Wheeler
- Wheeler, S, L. (2019). Wellbecoming. Retrieved November 5, 2019, Cyrchwyd o: https://www.instagram.com/serensiwenna/
- Wheeler, S. L. (2018). Pan mae’r storfa greadigol yn wag. Y Clawdd. https://saralouisewheeler.wordpress.com/2018/06/12/pan-maer-storfa-greadigol-yn-wag/
- World Health Organization. (2019). Burn-out an “occupational phenomenon”: International Classification of Diseases. Cyrchwyd Rhagfyr 21, 2019, o: https://www.who.int/mental_health/evidence/burn-out/en/