Neges beryglus ein hoff lyfrau…
Rwyf wedi bod yn dioddef gydag iselder a gorbryder am gyfnod o tua blwyddyn. Fel llawer iawn o bobl, roedd ffeindio meddyginiaeth oedd yn gweithio yn broses hir (dros flwyddyn), felly roeddwn yn ceisio delio gyda fy symptomau drwy ffyrdd eraill – ymarfer corff, darllen blogiau iechyd meddwl a llyfrau hunangymorth, a gwrando ar bodlediadau ysgogiadol (motivational).
Wrth i mi bori mwy a mwy drwy’r gerddoriaeth a phodlediadau ysgogiadol a’r llyfrau hunangymorth mi ddechreuais i sylwi ar neges oedd yn cael ei ailadrodd dro ar ôl tro, ar ôl tro. Neges bryderus. Neges braidd yn gas oedd yn cuddio’n y straeon a’r gefnogaeth, ond a oedd yno bob amser. A’r neges oedd fod un person ar fai fy mod i’n dioddef o salwch meddwl – y person hwnnw ydi fi.
‘The Secret’ – Rhonda Byrne
Wnâi ddim eich diflasu drwy roi rhestr eang o lyfrau a dyfyniadau, ond mi wnâi ganolbwyntio ar ddau lyfr enwog iawn fel esiamplau pwysig. Y cyntaf yw’r llyfr ‘The Secret’ gan Rhonda Byrne. Mae ‘The Secret’ wedi gwerthu mwy na 20,000,000 copi ac wedi ei gyfieithu i 50 iaith. Mae’n lyfr sydd wedi helpu llawer o bobl, yn cynnwys ymladdwr Connor McGregor ac Oprah Winfrey, a dwi’n siŵr ar silff pob siop lyfrau.

Y neges yn gryno ydi pwysigrwydd y rheol atyniad (law of attraction). Mae’n sôn os ydych chi eisiau prês – dychmygwch brês, smaliwch bod gennych chi lawer o brês ac anfonwch y donfedd honno i’r bydysawd. Cyn hir, bydd prês yn dod eich ffordd, dim ond i chi fod ddigon ffyddiog. Mae’r un syniad fod i weithio gyda swyddi, iechyd ac hyd yn oed ffeindio cariadon.
Dwi’n meddwl fod agwedd bositif yn bwysig iawn, ac rwy’n defnyddio delweddu a dychmygu yn aml i leddfu gorbryder ac ymlacio. Mae llawer o gysyniadau da yn y llyfr ac rwy’n siŵr ei fod wedi helpu llawer o bobl, ond fy mhroblem i gyda’r llyfr ydi ei fod yn honni mai bai’r unigolyn ydi o pan mae pethau drwg yn digwydd iddynt. Eu bai nhw am feddwl y pethau anghywir ac anfon y donfedd ddrwg allan i’r bydysawd, sydd wedyn am anfon pethau drwg yn ôl.
Rhydd i bawb ei farn wrth gwrs, ond petawn i wedi darllen mewn llyfr poblogaidd iawn fod fy salwch meddwl yn ganlyniad i fi’n meddwl am bethau negyddol ac anfon y donfedd anghywir allan i’r bydysawd, byddwn i’n teimlo’n waeth o lawer. Dwi’n siŵr fod fy mhenderfyniadau mewn bywyd a’m agweddau wedi cael effaith ar fy nghyflwr, ond tydw i ddim yn credu bod y cyfrifoldeb i gyd arna i.
‘Man’s Search for Meaning’ – Victor Frankl
Yr ail lyfr yw ‘Man’s Search for Meaning’ gan Victor Frankl. Mae wedi gwerthu dros 10,000,000 o gopiau ac wedi ei gyfieithu i 24 iaith. Mae’r llyfr ffeithiol yma yn un gwych am seiciatrydd Iddewig a gafodd ei garcharu yn Auschwitz yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Goroesodd Dr Frankl ac roedd yn pendroni pam fod rhai pobl yn gallu delio gyda bron unrhyw sefyllfa tra bod eraill yn gwywo? Daeth i’r canlyniad bod angen logos, neu reswm, ar bawb i fyw. Os ydi’ch logos chi’n ddigon cryf, gallwch ymdopi â bron unrhyw beth!
Rydw i’n cydweld â bron pob dim yn y llyfr bendigedig yma, ond am un agwedd canolog -“y rhyddid dynol olaf yw dewis ei agwedd mewn sefyllfa”. Mae hwn, eto, yn rhoi bai am ddiffyg gallu pobl i ymdopi ar eu hagwedd personol. Efallai fod rhywfaint o wir yn hyn, ond mae’n gor-symleiddio’r cysyniad o sut mae salwch meddwl yn newid y ffordd y gallwn feddwl a prosesu gwybodaeth.
Cymrwch ofal
I gloi, rwy’n teimlo’n gryf fod agwedd pobl tuag at unigolion sy’n dioddef o salwch meddwl (a’n hagwedd tuag at ein hunain) yn gwella, ond mae’n rhaid bod yn ofalus iawn nad ydym yn derbyn y bai am ddioddef o salwch meddwl. Dim eich bai chi ydi o eich bod yn dioddef, a dim fy mai i ydi o chwaith. Rydyn ni i gyd yn haeddu dealltwriaeth a pharch ac nid y math hwnnw o gysur sy’n rhoi’r bai arnom ni am ddioddef. Rydym yn cymryd cyfrifoldeb fel mae hi; yn aml yn beio ein hunain yn llawn ac tydi hyn chwaith ddim yn iach.
Fy neges i chi (ac i fi) ydi –
“Cymera ofal o faint wyt ti’n goelio o’r stwff rwyt ti’n ei glywed a’i ddarllen, dal ati, dim dy fai di ydi hyn. Cofia ddyfalbarhau ac rwyt ti’n wych!”
Siôn Pritchard