Meddyliau Brawychus
Pan mae pobl yn clywed y geiriau ‘iechyd meddwl’ efallai byddent yn sôn am bethau dymunol fel gwneud ioga a meddylgarwch.
Mae’r pethau yma yn ffyrdd gwych o gynnal iechyd meddwl da, ond fi’n teimlo taw prin mae trafodaethau am yr ochr llai darluniadol o brofi cyfnodau gwael gyda’ch iechyd meddwl. Does neb yn trafod y ffaith bod profi cyfnodau gwael gyda’ch iechyd meddwl yn gallu amharu ar eich gallu i ofalu amdano’ch hun a bod pethau yn gallu cyrraedd pwynt lle nad ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gallu gweithredu fel person ‘arferol’ – beth bynnag mae ‘arferol’ yn ei olygu!
Fi wedi profi cyfnodau lle mae anawsterau â fy iechyd meddwl wedi achosi i mi beidio â gofalu am fy hun yn y ffordd y mae disgwyl i bobl gwneud fel rhan o fywyd ac wedi gweld pethau sylfaenol fel bwyta, codi o’r gwely a chael cawod yn y bore yn heriau enfawr. ‘O’n i ddim eisiau gwneud dim byd, yn ceisio argyhoeddi fy hun bysai pawb yn well os ‘o’n i ddim yma ac yn teimlo bod pobl yn fy ngweld i un ffordd ond taw’r gwir oedd y gwrthwyneb llwyr. Pan ddechreuais i deimlo doeddwn i ddim eisiau gweld golau yn dod trwy’r ffenest yn y bore, sylweddolais i ba mor ofidus oedd fy meddyliau a bod angen cymorth proffesiynol arna i y tu hwnt i wneud meddylgarwch a mynychu sesiynau ioga.
Aeth pethau i’r pwynt lle oedd fy meddyliau wir yn fy mrawychu, ond doeddwn i ddim eisiau eu rhannu oherwydd roeddwn i’n ofn byddai pobl yn meddwl fy mod i’n disgwylsylw – nid dyma yw’r sefyllfa gydag unrhyw un sy’n profi meddyliau sy’n ddwys ac yn drallodus! Y gair oedd yn mynd o gwmpas fy mhen ynglŷn â fy hun yw ‘Insane‘ – nid y gair mwyaf ‘PC’ yn y byd, fi’n gwybod! ‘O’n i hyd yn meddwl ‘Dwyt ti ddim yn gallu rhannu’r ffaith dy fod ti’n teimlo fel hyn gydag unrhyw un oherwydd bydden nhw’n meddwl dy fod ti wedi colli dy feddwl’. Mae gen i anabledd sy’n achosi poen a blinder cronig ac sy’n gwneud tasgau pob dydd yn anodd, ac mae’r rheini sy’n fy adnabod yn dweud fy mod i’n berson cryf. Er fy mod i weithiau’n teimlo fel yr unig un mewn ystafell sy’n perthyn i grŵp penodol oherwydd fy nghyflwr, mae’n brofiad sydd wedi fy nysgu bod rhaid ceisio eich gorau i gadw fynd – mae e yn bosib i gyfnodau erchyll basio! Roedd profi anawsterau â fy iechyd meddwl yn rhyfedd oherwydd teimlais fod rhyw fath o anghysondeb rhwng sut mae pobl eraill yn fy ngweld a sut deimlais i yn ystod cyfnod lle brofais i drallod oedd yn teimlo’n ddwys iawn. ‘O’n i’n poeni beth bydde pobl yn meddwl fy mod i ‘off fy mhen’ pe byddwn i’n rhannu pa mor wael ‘o’n i’n teimlo yn enwedig oherwydd fy mod i’n cael i ganmol am fy newrder.
Yn y diwedd, doeddwn i ddim yn teimlo oedd modd i mi gadw’r meddyliau i fy hun oherwydd ‘o’n nhw’n bethau oedd wir yn achosi consyrn i mi – doeddwn i byth wedi ‘ymddwyn’ ar unrhyw feddyliau ges i ond roedd y ffaith eu bod nhw yn fy mhen yn y lle cyntaf yn ddigon i godi ofn arna i. Er pa mor ofnadwy ‘o’n i’n teimlo, ‘o’n i dal yn ymwybodol na fyddai ymddwyn ar feddyliau dwys yn datrys unrhyw broblemau, a fi’n falch o’r ffaith o’n i dal i fod yn gallu rhesymu pan o’n i’n gweld pethau mor anodd. Pan ddechreuais i rannu pa mor anodd oeddwn i’n gweld pethau â rhywun proffesiynol, teimlais i fel petai ‘o’n i wedi rhoi pwys drwm i lawr. Os ydych chi’n ystyried rhannu meddyliau eithaf dwys â rhywun proffesiynol, cofiwch ei bod nhw siŵr â bod wedi clywed pethau tebyg o’r blaen, ac maen nhw wedi eu hyfforddi i helpu pobl pan maent yn profi cyfnodau trallodus.
O safbwynt rhywun a arhosodd yn rhy hir cyn gofyn am gymorth, byddwn i bendant yn dweud bod siarad â rhywun yn angenrheidiol – mae’n helpu wrth gymryd natur frawychus y meddyliau i ffwrdd ychydig pan mae rhywun yn ymwybodol! Fi’n falch iawn fy mod i wedi dechrau gofyn am gymorth nawr, ond yn sylweddoli oedd angen i mi gael help wrth rywun proffesiynol am fisoedd cyn gofynnais i – fi’n difaru peidio â gofyn am gymorth misoedd yn gynt! Fi wedi penderfynu bod angen i mi weld rhywun er mwyn cael help, ac yn mynd i weld Seiciatrydd cyn bo’ hir – fi wir yn credu y byddai’n fy nghynorthwyo i weld pobl broffesiynol am gyfnod, nes bod y niwl yn codi ychydig!
Dwi wedi teimlo cywilydd am ba mor anodd fi wedi gweld pethau oherwydd teimlais doedd dim rheswm ‘dilys’ gennyf i deimlo mor ofnadwy. H.y. Mae fy rhieni yn hynod gefnogol, mae fy nghartref yn hyfryd ac rwyf wedi bod yn ddigon breintiedig i gael mynediad i addysg arbennig o dda. Fi’n teimlo fy mod i’n berson ffodus iawn a theimlais doedd dim rheswm gennyf i fod yn dioddef. ‘O’n i’n teimlo, a dal i fod yn teimlo i ryw raddau, nid ydw i’n ‘haeddiannol’ o gael cymaint o gymorth a chefnogaeth oherwydd bod llwyth o bobl yn y byd wedi profi pethau llawer fwy erchyll. Mae teimlo euogrwydd am brofi cyfnod gwael â’ch iechyd meddwl yn gwneud pethau’n waeth oherwydd nid yw’n cymryd y ffaith eich bod chi’n gweld pethau’n anodd i ffwrdd, mae’n hytrach yn ychwanegu euogrwydd i’r broblem. Mewn gwirionedd, mae unrhyw un yn gallu profi anawsterau â’u hiechyd meddwl! Os ydych chi’n uniaethu â’r teimlad o gael bywyd rhy ‘Ffodus’ neu ‘Breintiedig’ i ddioddef â’ch iechyd meddwl, fi moen i chi wybod does dim un person ar y ddaear wedi’i hesgusodi rhag dioddef â’i hiechyd meddwl, breintiedig neu beidio.
Roedd fy meddyliau yn codi ofn arna i oherwydd dydw i ddim fel arfer yn profi teimladau o’r fath. Fel arfer, fi’n berson cydwybodol ac uchelgeisiol yn yr ysgol, yn eithaf ystyriol o bobl eraill ac yn un i dreulio amser yn gwirfoddoli. Pan mae’ch iechyd meddwl yn dirywio, mae’n gallu teimlo fel petai mai agweddau o’ch hunaniaeth yn diflannu a’ch bod chi’n bennu lan ar eich pen eich hun yn brwydro yn erbyn meddyliau afiach. Mae’n cymryd ymdrech aruthrol i beidio â gwrando ar y ‘Lizard Brain’ sy’n dweud wrthoch eich bod chi’n ddi-werth ac yn ddi-bwrpas. Mae ein meddyliau yn dweud celwydd ofnadwy i ni ambell waith!
Er pa mor anodd mae pethau wedi bod, fi’n teimlo’n benderfynol o gadw fynd yng nghanol popeth oherwydd ni fydd rhoi mewn, i boen, nac i leisiau afiach yn fy mhen, yn gwneud lles i neb. Efallai ni fydd pob un o’r un farn, ond fi wir yn teimlo bod y gallu i oresgyn profiadau anodd, boed y rheini’n ymwneud â phoen cronig neu feddyliau trallodus, yn fy ngwneud yn berson cryfach yn y pen draw. O’n i’n ansicr ynglŷn ag os o’n i’n mynd i ysgrifennu’r blog ‘ma, ond dwi’n teimlo bod trafod ein meddyliau a’n teimladau yn lleihau’r pŵer sydd ganddynt drostom ni – fi hefyd yn gwybod o fy mhrofiadau personol mai clywed bod rhywun arall wedi teimlo pethau tebyg i chi yn gwneud y byd o wahaniaeth!
Os ydych chi’n darllen hwn ac yn teimlo pethau tebyg plîs cofiwch does dim angen bod eich meddyliau yn cyrraedd y pwynt lle maen nhw mor ddifrifol maen nhw’n codi ofn arnoch cyn gofyn am gymorth. Does dim angen i chi deimlo fel nad ydych chi eisiau gweld yr haul yn codi yn y bore cyn mynd at rywun. Cofiwch hefyd bod tawelwch yn bwydo’r cywilydd – mae dweud fel y mae yn gallu helpu cwtogi’r stigma ofnadwy ynghylch dioddef â’ch iechyd meddwl!
Faith Jones