Mae Gan Bawb Iechyd Meddwl

Dyma ddarn nes i ysgrifennu yn wreiddiol ar gyfer Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Galar (mis Rhagfyr) i’r Lolfa ond, dwi’n meddwl fod y rhai o’r pethau dwi’n rhestru isod yn berthnasol i bawb. Mi nes i benderfynnu canolbwyntio ar ambell beth sydd o’n cwmpas ni o ddydd i ddydd sy’n gallu helpu ein llesiant. Ac yn yr amser hynod rhyfedd yma, ac ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (Mai 18-24 2020), efallai bod o werth ei rannu eto gydag ambell o newidiadau.

Mae’n rhywbeth sydd am ddigwydd i bob un ohonom ni, ond mae’n dal yn un o’r pynciau hynny sy’n cael ei weld fel tabŵ. Cefais y cyfle i rannu fy mhrofiad o golli Mam 10 ‘mlynedd yn ôl yn y gyfrol ddiweddar, Galar a Fi. Roedd gan bob un ohonom ein stori personol ein hunain, ond pob un â rhywbeth yn gyffredin. 

Ar y pryd, roedd fy nghariad newydd golli ei dad, a bu’n rhaid i mi nid yn unig edrych a cheisio dygymod â fy sefyllfa i yn iawn (rhywbeth efallai nad oeddwn wedi gwneud ynghynt) ond hefyd, bod yn gefn i rywun oedd yn mynd trwy rhywbeth ofnadwy. Mi fydd pob un ohonom yn adnabod rhywun fydd yn colli rhywun agos, ac mae unrhyw un sy’n rhan o hyn angen rhyw fath o gefnogaeth. Felly, pan ddigwyddodd hyn iddo ef, y peth cyntaf ar fy meddwl i oedd i’w gefnogi. Ond o edrych yn ôl, dwi’n sylwi pa mor bwysig oedd y gefnogaeth ges i gan fy nheulu a’m ffrindiau hefyd. Ac efallai eu bod nhw’n poeni amdana i ac angen rhywun i’w cefnogi nhw…ac mae’r cylch yn mynd ymlaen, ac ymlaen! Mae’r theori yma (grief ring theory) yn rywbeth sy’n berthnasol i bawb ac felly, mae’n siwr fod galar ar ryw lefel, yn effeithio pob un ohonom rwan hyn.

Gan ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, dwi wedi penderfynu canolbwyntio ar rai o’r pethau o’n cwmpas ni heddiw sydd wedi bod o fudd i fi ac yn gallu cynnig cymorth. Ond, mewn gwirionedd, mae nhw’n bethau sy’n gallu helpu ein lles cyffredinol ni fel pobl, nid y rhai sy’n wynebu galar neu broblemau iechyd meddwl yn unig. Ac yn y cyfnod ansicr yma o hunan-ynysu a lockdown, mae edrych ar ôl ein hunan yn holl bwysig.

Dwi’n ffan enfawr o bodlediadau, ac yn credu dylai pawb wrando ar y canlynol. Hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n berthnasol i chi – jyst triwch nhw!

How Do You Cope with Elis and John, BBC 5 Live: Mae’r Cymro Elis James yn gomedîwr ac yn cyflwyno rhaglen radio ar BBC 5 Live bob prynhawn Gwener gyda’i ffrind, y comedîwr John Robins. Mae nhw wedi bod yn gwneud sioe radio ers blynddoedd bellach, ac mae trafod iechyd meddwl yn rhan hollol naturiol o’u perthynas, ac o ganlyniad, y sioe hefyd. Mae’r podlediad newydd yma yn edrych ar sut mae pobl adnabyddus wedi delio â phrofiadau bywyd gan gynnwys galar, iselder, gor-bryder, insomnia, seicosis ac iselder ôl-enedigaeth, alcoholiaeth ac ati. Ydi, mae’r pynciau’n ddwys ond mae gallu’r ddau yma i drafod a sgwrsio am y dwys a’r doniol yn hollol lyfli ac mae’r da mae nhw’n gwneud yn y maes yma yn syfrdanol.

Griefcast: Podlediad yn trafod marwolaeth a galar gyda’r comedîwr Cariad Lloyd yw Griefcast. Mae’n sgwrsio â chomediwyr eraill am eu profiad nhw o’r boen, colled a’r pethau od sy’n digwydd pan mae rhywun yn marw. Mae’n ddoniol, yn chwa o awyr iach ac yn gallu cynnig cysur amhrisiadwy. Mae pawb sydd wedi ymddangos ar y podlediad yma wedi colli pobl gwahanol – Neiniau a Theidiau, brodyr a chwiorydd, rhieni a ffrindiau a thrwy amryw o ffyrdd – felly dwi’n siwr fydd pawb yn gallu uniaethu gyda sawl peth yn y rhaglen, hyd yn oed os mai nid chi yw’r un sy’n wynebu galar.

Happy Place: Podlediad gan Fearne Cotton yw hwn, ac mae’r pwyslais yn fwy ‘na dim ar lesiant. Mae hi’n sgwrsio mewn awyrgylch ymlaciedig gyda pobl arbennig iawn am fywyd, cariad, colled a phob mathau o bethau eraill wrth ddarganfod beth mae hapusrwydd yn golygu iddyn nhw. Dyma’r podlediad dwi’n hoffi gwrando arno wrth fynd am dro hir, a dwyn lot o’r tips gan bobl! 

Mae sawl llyfr hefyd ar gael sy’n gallu cynnig cymorth. Y prif un dwi eisiau tynnu sylw tuag at yw This Book Could Help: The Men’s Head Space Manual. Mae’r ystadegau am ddynion sy’n marw o ganlyniad i salwch meddwl yn aruthrol, ac mae’r llyfr yma (mewn cydweithrediad â’r elusen Mind) wir yn arbennig a mi ddylai pob dyn (a dynes!) ei ddarllen. Mi nes i grybwyll Galar a Fi uchod, ac mae pwysigrwydd y llyfr yma i ni yng Nghymru yn amlwg, a diolch i’r Lolfa ac Esyllt Maelor am y gwaith aeth i fewn iddi. Llyfr arall dwi newydd ei ddallen ydi’r 4 Pillar Plan: How to Relax, Eat, Move and Sleep Your Way to a Longer, Healthier Life gan Dr Rangan Chatterjee. Doctor o Fanceinion yw Dr Chatterjee ac mae’n trafod 4 piler sef ymlacio, bwyta, symud a chysgu a’r newidiadau bach ym mhob piler sy’n helpu tuag at fywyd iach a sydd wedi hyd yn oed gwrthdroi rhai problemau iechyd corfforol a meddyliol ei gleifion. 

Mi ddes i ar draws y bamffled yma gan yr elusen Cruse i blant wedi i rywun farw. Amcangyfrifir fod o leiaf 21,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru o dan 18 wedi profi marwolaeth rhiant, brawd neu chwaer, a bod o leiaf 37,000 wedi profi colli ffrind neu aelod agos arall o’r teulu. Mae’n holl bwysig i’n hysgolion, colegau a’n prifysgolion dderbyn hyfforddiant cyson i allu delio â hyn pan mae’n digwydd (a’r blynyddoedd sy’n dilyn) a chynnig man diogel a chymorth allweddol.

Myfyrdodau: Mae ‘na lot o apiau gwych ar gael (Calm, ac mae Ap Cwtsh yn Gymraeg hefyd!) Dwi’n trio creu awyrgylch ymlaciedig a dilyn myfyrdodau tywysedig bob hyn a hyn drwy ddefnyddio YouTube. Mae’n teimlo’n hollol rhyfedd weithiau, ond dwi’n gweld gwahaniaeth ar ôl gwneud. Dwi hefyd wedi bod yn defnyddio myfyrdodau cwsg bob hyn a hyn, ac os ydych chi’n mynd trwy gyfnod o fethu cysgu, mae’r fideos yma gan Michael Sealey sicr werth trio.

Yoga: Dwi methu argymell ymarfer yoga digon! Dwi ddim yn arbenigo o gwbl, ond mae bod yn ymwybodol o ambell symudiad ac ystumiau yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr yn y ffordd rydym ni’n teimlo. I mi, dyma’r ateb pan dwi’n teimlo’n bryderus, nerfus, dan straen neu’n sluggish. Mae ‘na ddigonedd o fideos ar YouTube i’w dilyn, neu beth am weld os oes ‘na ddosbarth lleol i chi ar ôl y lockdown? Mae criw ohonom yn y swyddfa wedi trefnu sesiynau wythnosol amser cinio – efallai bod hyn yn rywbeth i’w gynnig yn eich lle gwaith?

Dwi hefyd wedi buddsoddi mewn diffuser ac essential oils er mwyn creu amgylchedd ymlaciedig yn fy ystafell wely cyn cysgu ac yn ystod ymarferion yoga a myfyrdodau. Mae’r byd mor brysur a sgriniau ym mhobman, ac mae’n hawdd anghofio i ymdawelu ein cyrff a’n meddyliau. Ac mae’n teimlo’n amhosib bron yn y cyfnod yma. I fi, mae’r diffuser yn helpu’r broses o ddad-weindio – rhywbeth holl bwysig i edrych ar ôl ein hunain. 

Mi ydyn ni’n hynod lwcus o wefan Meddwl a diolch i’r rhai hynny sy’n rhedeg y wefan bwysig yma yn eu hamser sbar. Mae’r erthyglau a’r digwyddiadau sy’n cael eu trefnu ganddynt yn wirioneddol wych, ac mae’n rhoi sylw teg i bob math o broblemau iechyd meddwl. 

Gobeithio drwy ehangu’r sgwrs am alar, lles a iechyd meddwl, fel sy’n digwydd yn gynyddol yn y blynyddoedd diwethaf, y gallwn ehangu ar y deunydd eraill sydd ar gael yn Gymraeg. 

Er fod pethau i weld yn dywyll weithiau – mae’n bwysig cofio fod gan bob un ohonom iechyd meddwl. Ac mae ‘na bethau ar gael i ni gyd i geisio delio â’n teimladau a’n profiadau gyda’r gobaith o normaleiddio’r sgwrs ymhellach. Peidiwch byth a bod ofn gofyn am help.

Sara Maredudd