‘Lot ddim yn gwybod y gwir am seicosis’: BBC Cymru Fyw

Mae angen sgwrs agored am seicosis er mwyn chwalu’r stigma o gwmpas y salwch, yn ôl Lauren Buxton.

Fe all seicosis achosi rhywun i golli cysylltiad â realiti ac mae symptomau’n gallu cynnwys clywed lleisiau, gweld pethau nad yw eraill yn eu gweld, a phrofi meddyliau paranoiaidd.



“Pryd o’n i’n sâl, byddai’r diwrnod wedi dechrau’r noson gynt oherwydd ‘swn i heb gysgu.

‘Sa’r llais ‘ma’n dod mewn i’r meddwl ac yn d’eud: ‘Ti’n hopeless, ti heb fod i weld dy ffrindiau na dy deulu ers oes”. Ac wedyn ‘sa fo’n mynd ymlaen i: ‘Ti’n dallt does ‘na neb isio chdi yma go iawn”.

O’n i wedi dod at y canlyniad fod y bobl oedd yn meddwl y byd ohonof i yn trio gwneud imi ladd fy hun.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw