Llythyr at fy iselder
Annwyl fwli,
Sut wyt ti mor gryf? Dwyt ti byth yn diflannu’n llwyr, ond sut A PHAM wyt ti’n dod nôl ata i dro ar ôl tro ar ôl tro? Dwi wedi cael digon arnat ti, pam nad wyt ti wedi cael digon arna i? Ydw, dwi wedi gwella llawer yn y ddwy flynedd ddiwetha’, ond rwyt ti’n dod nôl yr un mor ffiaidd a chreulon ag erioed, heb rybudd fel arfer.
Maen nhw’n dweud wrtha i mai’r cyfnod yma yn fy mywyd yw’r cyfnod gorau. Rwy’n ifanc gyda gweddill fy mywyd o fy mlaen i. Roeddwn i’n arfer edrych ymlaen at fy nyfodol. Ro’n i eisiau’r cyfan; gyrfa i’w mwynhau, ffrindiau, cwympo mewn cariad, teulu fy hun efallai. Ond nawr, diolch i ti, dydw i ddim eisiau gweddill fy mywyd. Dydw i ddim yn gweld y pwynt. Ond rwy’n gwybod hefyd nad ydy hynny’n opsiwn felly mae’n rhaid i fi gario ‘mlaen gyda’r frwydr. Ti yn erbyn fi. Ti a’r byd yn fy erbyn i.
Ti a’r byd. Yn fy erbyn i. Dyna sut dwi’n teimlo. Dwi mor unig. Dwi wedi colli cymaint o ffrindiau ers i ti ffeindio fi. A diolch i ti mae cwrdd â phobl newydd mor, mor anodd. Dwi’n casáu fy hun, felly sut alla i ddisgwyl i unrhyw arall fy hoffi i? Sut alla i ddisgwyl i unrhyw un newydd aros gyda fi?
Pam wyt ti’n gwneud i fi gymharu fy hun â PHAWB rwy’n cwrdd â nhw?
Mae pawb arall yn well na fi…ym mhob ffordd. Ti’n gwneud i fi gredu mai fi yw baw isa’r domen. Rwy’n gweld eisiau’r hen fi, y person oeddwn i cyn cwrdd â ti, er nad ydw i’n cofio llawer amdani hi erbyn hyn. Diolch i ti. Dwi hefyd yn gweld eisiau’r oedolyn byddai’r hen fi wedi tyfu mewn iddi.
Rwyt ti wedi bod gyda fi ers saith mlynedd bellach. Weithiau fel cysgod bach ysgafn ac weithiau fel blaidd yn fy rhwygo i i ddarnau. Mae’r therapi wedi helpu ond mae’n anodd cario ‘mlaen gyda’r stwff ddysgais i ar fy mhen fy hun. A dim ond hyn a hyn mae’r tabledi’n gwneud. Rwyt ti’n hen wrach greulon ac mae ymladd yn waith caled a pharhaus.
Ond rhaid parhau, am nawr o leiaf.
Croeso i ti adael UNRHYW BRYD, chest ti ddim gwahoddiad i ddod yn y lle cyntaf.
Fi.