Golau ym mhen draw’r twnel
16 oed oni pan ddechreuodd betha’ lithro, ynghanol fy arholiadau. ‘Ti oedd y person ola i mi ddychmygu fasa’n cael iselder’. Dyna oedd pawb yn ei ddweud ar y dechra’. Mi oedd o’n wir mewn ffordd. ro ni wedi cael plentyndod braf, roni’n hyderus, uchelgeisiol ac efo digon o ffrindia’. O’r tu allan, roedd fy mywyd i weld yn berffaith ond mae salwch yn gallu taro unrhywyn unrhywbryd.
Mi aeth petha’ downhill yn gyflym. Crio lot oni i ddechra’. Dwi’n cofio teimlo mor unig hyd yn oed pan oni mewn ‘stafell llawn o bobl. Roedd o’n teimlo fel bod neb yn deall sut oni’n teimlo, neb yn deall y boen. Dwi’n difaru hyd heddiw na wnes i siarad am y peth efo neb am beth amser. Roedd cadw masg ymlaen yn anodd ond doni ddim yn meddwl fod genai hawl i deimlo fel ro’n i. Roedd pawb yn disgwyl i mi fod yn iawn drwy’r amser, dyna pwy on i. I rywun oedd heb brofiad o iselder o’r blaen, roedd fy mywyd yn hunllef. Ro ni wedi stopio mwynhau bob dim a roedd popeth yn ymdrech enfawr. Ychydig oni’n gwybod mai hyn oedd y tawelwch cyn y storm.
Mi aeth pethau o ddrwg i waeth. Wedi i’r masg ddisgyn nes i sylwi difrifoldeb fy salwch. Mi es i tu hwnt i ddagrau a doedd y meddyginiaeth antidepressants na’r sesiynau seicolegol i weld yn helpu dim. Mi stopiais wneud y pethau sylfaenol fel codi o ‘ngwely, byta a molchi. Don i ddim isho gweld neb . Yn ara’ deg roedd y salwch yn dwyn pob gronnyn o obaith oedd gen i ar ôl. Ym Mehefin 2018 ychydig fisoedd i mewn i fy salwch aeth pob dim yn ormod. Do ni’m isho byw ddim mwy, dim fel hyn. Dwi mor ddiolchgar heddiw na weithodd yr holl dabledi gymerais i ond ar y pryd roedd o’n edrych fel yr unig ffordd allan.
Wedi hynny treuliais bron i ddwy flynedd (22 mis) mewn uned psychiatric – dau Ddolig a dau benblwydd. Dwi ddim yn cofio llawer o’r amser yma i ddeud y gwir. Roedd yr holl beth yn brofiad erllych a thywyll ond dyma’r petha’ sy’n sefyll allan:
Dechrau’r ail bennod o iselder
Ro’n i wedi profi Iselder o’r blaen ond ddim fel hwn. Mi ddoth o dros nos – y pwysa’ anferth yma wnaeth gymeryd drosodd pob rhan o fy nghorff a fy mywyd. Mi wnaeth o fy mharlysu am hir iawn. Dwi’n cofio deffro a sylwi hyd yn oed os faswn i isho doni methu codi o ‘ngwely. Roedd o’n teimlo mor gorfforol – prin oedd gen i’r egni i gerdded o gwbwl. Daeth archwaeth bwyd yn anghof ac er yr holl feddyginiaeth do ni prin yn cysgu. Mi wnaeth staff yr uned ddweud bod genai ‘motor retardation‘ sy’n rhan o iselder dwys oedd yn gwneud fy symudiadau a fy siarad yn araf iawn. Roedd o’n gwmwl anferth wnaeth guddio pwy ron i yn llwyr. Mae fy rhieni yn digrifio teimlo bod nhw wedi fy ngholli i am gyfnod.
Torri gwallt
Ar ol anghofio a methu molchi am bron i 3 mis mi wnaethant ofod torri fy ngwallt hir cyrliog i gyd i fwrdd. Dwi’n cofio clywed y siswrn yn torri a’r pwysa braf ro’n i wedi arfer deimlo ar fy nhefn yn mynd. Mi aeth fy ngwallt o fod at waelod fy nghefn i fod tua 5 cm o hyd. Ro’n i isho sgrechian, gweiddi a chrio ynd yr unig beth oni’n gallu gwneud oedd syllu i nunlle wrth sylweddoli bod y salwch wedi cymeryd popeth oedd gen i. ‘Nes i ddim nabod y gwyneb gwelw heb wallt oedd yn syllu arnof fi yn y drych. Sut all hona fod yn fi? Y peth rhyfedd oedd ro ni wedi anghofio bod gen i wallt cyn hynny ond mae’n wir be ma nhw’n ddeud am beidio sylwi be sydd genoch chi tan mae wedi mynd. Mi wnaeth abell un fethu fy adnabod i yn y cyfnod yma. Roeddwn i wedi colli pwysa’, fy ngwallt a don i’m yn edrych fel fi fy hun. Am 7/8 mis ar ôl hyn mi oedd y staff yn golchi ‘ngwallt i mi a fy helpu i newid- dwi mor ddiolchgar iddynt.
ECT
Ar ol methu gweld y gwelliant oedda nhw’n gobeithio gyda meddyginiaeth mi aethent ymlaen i drio ECT neu ‘shock therapy‘. Gan ‘mod i o dan 18 mi oedd y broses yn hir ond yn ystod yr haf mi wnes i dderbyn 12 triniaeth ECT. Ro ni’n trio gwneud yn ysgafn or peth ar y dechra’. Roedd hyn yn haws na gwynebu beth oedd am ddigwydd ond ma’n rhaid i fi ddeud oni’n cachu fy hyn y tro cynta’. Roedd y ‘stafell yn llawn o bobl o’n amgylch i. Nath o gymeryd gweld y rodiau oeddan nhw am ddefnyddio i basio cerrynt drwy fy mhen i wir sylweddoli beth oedd am ddigwydd. Roedd yn brofiad anodd ond ro’n i yn fodlon trio unrhywbeth i wella.
Anobaith
Mae anobaith yn wenwyn wrth gwffio iselder. Os nad yw’r symptomau o ddiffyg mwynhau, dim archwaeth bwyd, egni na chwsg yn ddigon heb y llais anobeithiol yna sy’n dweud wrthoch bod yr ymdrech yn pointless. Mi ddechreuodd yn fach. Roedd wastad yn ail adrodd nad o ni am wella, mai marw oedd yr unig ffordd o orffan y dioddef. Ro’n i’n gallu ei ddistewi i ddechrau. Deu’tho mod i am aros i weld os byddai triniaeth yn gweithio. Ond ar ôl i un triniaeth ar ol llall fethu daeth anobaith i gymeryd drosodd fy mywyd. Nid tristwch yw iselder dwys ond diffyg emosiwn. Does dim posib teimlo dim ond cymylau iselder yn eich pen. Emosiwn yw’r arf ora yn erbyn anobaith. Cofio am yr adegau da neu am deulu sy’n eich caru. Heb emosiwn mae bron yn amhosib enill yn ei erbyn. Nes i fethu ond mi wnaeth staff yr ysbyty fy ngorfodi i gario ymlaen. Ar y pryd roedd yn teimlo’n greulon ond dwi mor falch eu bod nhw wedi gwneud erbyn heddiw.
7 mis o 1-1
Am saith mis yn yr ysbyty mi ro’n i ar 1-1. Mae hyn yn golygu cael aelod o staff efo chi o fewn hyd braich 24/7 hyd yn oed yn y gawod a’r toiled. Ar ôl amser mor hir ro’n i wedi dod i arfer efo deffro am 4 y bora a bod rhywun yno’n gwylio chi. Roedd rhywbeth mor rhyfedd wedi dod yn normalrwydd i mi. Mewn ffordd roedd o’n gysur a ro ni wedi dod i anghofio beth oedd bod ar ben fy hun. Roedd dod oddi ar 1-1 yn un o’r petha anodda’ wnes i erioed.
Diolch byth ar ôl i mi droi’n 18 ym mis Medi, cefais fy symud i uned Hergest, Bangor. Roedd yn brofiad rhyfedd gadael yr uned oni wedi treulio 18 mis ynddi ond yn gam positif yn tuag at welliant. Mi ges i ddoctor anhygoel yn Hergest oedd yn fodlon trio amryw eang o feddyginiaethau cryf efo’i gilydd ac yn y diwedd mi wnes i wella a chefais fy dischargo ym mis Chwefror. Roedd o wir yn teimlo fel deffro o freuddwyd, wel, hunllef. Roedd bywydau pawb arall yn dal yn ei flaen tra oedd fy un i ar pause felly doedd ail ymuno bywyd normal ddim yn hawdd. Er mor anodd oedd profi’r fath salwch mi wnaeth o wneud i mi werthfawrogi petha’ ryda ni gyd yn gymeryd yn ganiataol gymaint mwy.
Rwan dwi adra ac yn byw bywyd normal efo fy nheulu. Roedd pawb wastad yn deud fy mod i am wella ond ma’n anodd iawn gweld hynny achos y cymylau duon yn dy ben ond mae o’n wir! Ella na fyddwch yn gallu uniaethu efo fy stori ond dwi’n gobeithio bod o’n rhoi gobaith i chi bod pawb yn gallu gwella. Felly daliwch yn gryf a chymryd un diwrnod ar y tro. Cofiwch mai gwall mewn cemeg yw iselder nid gwall ynddo chi. Mae yna olau ar ddiwedd y twnel!
Sara Dafydd