Geiriau rhiant

Rhybudd cynnwys: anhwylder bwyta

Ma’r ferch yn ‘chydig o ‘perfectionist’ – targed hawdd iawn i’r salwch anorecsia! Ma’ hi wedi bod yn dioddef ers tua 2 flynedd erbyn hyn, ac yn cwffio bob dydd yn ei erbyn.

Ma’ hi wedi treulio amser mewn ysbyty sawl gwaith ac wedi dod yn agos at ‘organ failure’. Mae ‘Ana’ (Anorecsia) fel person arall yn cymryd drosodd y meddwl, ac wedi gwneud iddi ymddwyn hollol allan o gymeriad.

Mae’n anodd iawn iddi, ond mae o hefyd yn  anodd iawn i weddill y teulu. ‘Da chi’n trio pob dim er mwyn i’ch plant fod yn hapus, ond mae hwn yn un peth nad oes gennych reolaeth drosto. Ond ‘da chi yn nabod eich plentyn yn well na neb, felly cwffio drostynt a wnawn. Mynd at y Dr, mynd i’r ysbyty a gofalu amdanynt gartref. Beth bynnag ma’n gymryd i’w helpu nhw wella ac wrth gwrs dangos cariad ac eu hatgoffa eu bod nhw yn ddigon. ❤

Tips o riant i riant:

  • Cadwch lygaid agos am newidiadau e.e bwyta/ tymer / patrwm cysgu.
  • Eistedd efo’ch gilydd i fwyta a chadw llygaid arnynt am tua 30- 60 munud ar ôl gorffen.
  • Pan maen nhw’n mynd i’r tŷ bach, gwneud iddynt siarad/canu efo chi trwy’r adeg.
  • Gwneud iddynt mynd am gawod cyn bwyd / ac i’r tŷ bach os yn bosib.
  • Ma’ hyn yn andros o amser anodd i bawb yn y tŷ – cadwch yn gryf a chefnogwch eich gilydd.

Fiona Christie Jones