Iechyd meddwl mewn ffilm
O gwglo am ffilmiau’n ymwneud ag iechyd meddwl fe ddowch chi ar draws digon o erthyglau a rhestrau perthnasol ond, yn fy marn i, ‘chydig iawn o’r ffilmiau a geir arnyn nhw sy’n wirioneddol werth eu gweld neu sy’n portreadu iechyd meddwl heb fod braidd yn ystrydebol a hollywoodaidd. Yn ogystal, mae’r ffilmiau yma’n aml yn rhai ofnadwy o amlwg, y math o ffilmiau mae rhywun sy’n byw mewn ogof wedi clywed amdanyn nhw neu hyd yn oed wedi mentro allan i’r sinema i’w gweld, gan wneud yr holl beth braidd yn ddibwynt.
Felly oni’n meddwl y byswn i’n creu rhestr fy hun. Un yn cynnwys pum ffilm dwi’n hoff iawn ohonyn nhw (y peth pwysica!) ac sy’n trin cyflyrau iechyd meddwl mewn ffurfiau deallus a diddorol. Os da chi fel fi ac yn aml yn chwilio am rywbeth gwahanol i’w wylio yna dwi’n gobeithio y bydd y rhestr byr yma o iws.
Two Days, One Night (Deux jours, une nuit, 2014)
Ffilm Ddrama gan y brodyr Dardenne o Wlad Belg, a Marion Cotillard yn chwarae’r brif ran. Mae Sandra (Marion Cotillard) ar fin mynd yn ôl i’w gwaith yn dilyn cyfnod i ffwrdd oherwydd iselder. Yn ei habsenoldeb mae’i chyflogwr wedi cynnal pleidlais ymysg y gweithwyr, gan roi dewis iddynt o un ai cael €1000 o fonws yr un, neu i ail-gyflogi Sandra ar ôl ei salwch. Y bonws o €1000 sy’n ennill y dydd (13 pleidlais i 3). Daw Sandra i wybod am hyn drwy ei ffrind a’i chyd-weithiwr Juliette (Catherine Salée) ac, yn hwyr ar ddydd Gwener, maent yn dwyn perswâd ar eu bos i ail-gynnal y bleidlais oherwydd bygythion anheg ar y gweddill gan y foreman. Penderfynnir cynnal yr ail bleidlais ar y dydd Llun canlynol. Mae hyn yn gadael y penwythnos i Sandra ddarbwyllo 13 cyd-weithiwr i newid eu pleidlais ac achub ei swydd.
Ffilm naturiolaidd, uniongyrchol ydi Two Days, One Night, heb gwafrau sinematig amlwg. Oherwydd hyn mae’r stori syml a’r actio yn flaenllaw ac yn cydio ynddo chi’n syth bin. Mae’n ffilm hynod effeithiol, sy’n ennyn cydymdeimlad y gwyliwr i sefyllfa annymunol Sandra. Mae perfformiad cofiadwy Marion Cotillard yn werth ei weld, perfformiad sy’n amlygu cymeriad bregus yn mynd trwy gyfnod anodd ond sy’n ffeindio dygnwch a dewrder oddi fewn i gwffio a chario ‘mlaen. Ffilm a pherfformiad, felly, fydd dwi’n siŵr yn taro 12eg efo unrhyw un sydd wedi profi iselder neu or-bryder yn eu bywyd.
White Dog (1982)

Ffilm ddrama Americanaidd, wedi ei chyfarwyddo gan Samuel Fuller. Hynt a helynt ‘ci gwyn’ yw’r ffilm, ar ôl iddo gael ei ddarganfod a’i fabwysiadu gan actores ifanc, Julie Sawyer, sy’n byw ym mryniau Hollywood. Dynodi ci sydd wedi cael ei hyfforddi ers yn ifanc i ymosod yn ddigwestiwn ar unrhyw un croenddu y mae ‘ci gwyn’, ac yn fuan iawn mae ei ffyrnigrwydd greddfol yn peri trafferth i Julie (Kristy McNichol), gan iddo ymosod a llarpio ei ffrind tra yn y gwaith, ac yna lladd dreifar lori. Er hyn i gyd, mae Julie yn grediniol fod posib achub ac adfer y ci, a dad-wneud y drwg a wnaed iddo gan ei gyn-berchennog hiliol. Gyda’r bwriad yma, mae Julie yn mynd â fo at hyfforddwr cŵn o’r enw Keys (Paul Winfield) – sy’n ddu – ac mae o yn mynd ati i atgyweirio stad feddyliol y ci. Ar ôl amser maith dan hyfforddiant digyfaddawd Keys mae’r ci i’w weld yn holliach, heb ysfa mwyach i ymosod ar bobl ddu. Ond, yn sgil hynny, cyfyd problem arall…
Er mai dameg am hiliaeth ydi White Dog yn y bôn, mae hefyd yn trafod cwestiynau cyffredinol ynghylch ymddygiad – a drychfeddyliau – dysgedig, ac sut i newid y drychfeddyliau hynny fel bo’r ymddygiad sy’n dilyn yn un iachach a mwy llesol. Mae hefyd, wrth gwrs, yn ffilm ddiddorol i unrhyw un sy’n hoff o gŵn a sydd â diddordeb yn ein perthynas ni efo nhw.
Sideways (2004)

Drama gomedi dywyll am ddau ddyn ar wibdaith wythnos o hyd yn ardal gwinoedd Santa Barbara. Syniad Miles (Paul Giamatti) yw’r daith, yn rhodd i’w gyfaill coleg Jack (Thomas Hayden-Church) a fydd yn priodi yn ôl yn Los Angeles ar ddiwedd yr wythnos. Mae Miles yn profi cyfnod anodd o’i fywyd ar ôl i’w wraig ei adael ac ar ôl i’w yrfa arfaethedig fel nofelydd stolio cyn dechrau, nid rhyfedd felly ei fod yn dioddef o iselder ac yn cymryd tabledi i leddfu ‘chydig arno. Mae Jack, ar y llaw arall, fel bachgen bach llawn asbri mewn corff dyn canol oed, ac mae’n benderfynol o gael hwyl (a sex!) ar ei wythnos ola’ o ryddid.
Mae hon yn ffilm dwi byth yn diflasu arni; mae’n ffraeth, deallus, a theimladwy. Ac mae’n trin a thrafod llawer o bethau da’ ni gyd yn eu wynebu o bryd i’w gilydd: tristwch, salwch, siom, pethau’n dod i ben, a’r angen i ail-ddechrau a mynd eto.
(O.N. Mae ffilm wych arall o eiddo’r cyfarwyddwr Alexander Payne ar Netflix ar hyn o bryd, sef Nebraska, sydd hefyd yn werth ei gweld.)
Incendies (2010)

Ffilm o Ganada Ffrengig ydi Incendies sy’n delio efo’r rhyfel cartref yn Lebonon o safbwynt mewnfudwraig canol oed. Mae’r ffilm yn agor efo marwolaeth y ddynes mewn cwestiwn (Narwal Marwan) ac yna’n neidio’n ôl a blaen rhwng y presennol a’r gorffennol, lle cawn ei hanes hi yn ferch ifanc pan mae’r trwbl yn Lebanon yn dechrau. Y cymeriadau sy’n ein harwain yn y presennol yw ei merch a’i mab sy’n cael eu gorfodi gan ewyllys eu mam i fynd i Lebanon i ymchwilio hanes y teulu.
Mae Incendies yn ffilm ingol a phwerus, ac yn aros yn hir yn y co’. Mae hi’n cynnwys dwy iaith, sef Ffrangeg ac Arabeg, ac yn dinoethi erchyllterau Lebanon yn yr 80au yn gelfydd. Mae’n ddiddorol hefyd fel mae’r mab a’r merch, o orfod olrhain hanes y teulu, yn gweld ochr arall i’w mam, ochr na wyddon nhw amdani tra oedd hi’n fyw.
(Fel ôl nodyn: mae’r ffilm yn seiliedig ar ddrama lwyfan lwyddiannus gan Wajdi Mouawad. Ac mae’r cyfarwyddwr, Denis Villeneuve, bellach yn gweithio yn Hollywood ac yn gyfrifol am ffilmiau megis Blade Runner 2049.)
The Swimmer (1968)

Ffilm Ddrama Americannaidd â Burt Lancaster yn chwarae’r brif ran. Mae’r ffilm yn seiliedig ar stori fer o’r un enw gan John Cheever (gweler: Collected Stories. Vintage Classiscs, 1990). Agora’r ffilm efo Ned Merrill (Lancaster) yn ymddangos un bore yn ei dryncs yn ardd gefn hen ffrindiau (y Westerhazys) sy’n ymlacio wrth eu pwll nofio. Mae o’n cael croeso cynnes ganddynt ac maent yn sgwrsio’n braf efo’i gilydd. Maent yn amlwg yn hoff ohono ond hefyd yn cael eu hanghysuro braidd gan rai pethau mae’n ei ddweud. Mwyaf sydyn mae Ned yn cael syniad ysbrydoledig. Wrth edrych ar yr olygfa o bwll nofio’r Westerhazys mae’n sylwi fod posib nofio adra i’w gartref drwy ddilyn trywydd pyllau nofio’r ardal. Er fod ei ffrindiau yn trio ei berswadio rhag mynd drwy gynnig lifft adra iddo, does dim yn tycio ac mae Ned yn benderfynol o gyflawni’r her bersonol hon. Heb siarad fawr mwy, mae o’n deifio i’r pwll, nofio hyd’do, yn neidio allan ac yn diflannu drwy’r coed gerllaw.
Mae’r ffilm yn mynd ymlaen i’w ddilyn o ar ei daith drwy erddi cefnog Connecticut, lle daw ar draws amryw o bobl gwahanol, rhai cyfeillgar, rhai ddim. Mae pob ymwelaid â phwll nofio yn datgelu ‘chydig mwy am Ned a’i fywyd. A down i sylwi yn slo bach efallai nad yw Ned yn dyst dibynnol iawn a bod ei afael ar realiti o’r herwydd yn go lac.
Mae’r Swimmer, felly, yn ymwneud â dirywiad mewn iechyd meddwl dyn canol oed ar ôl iddo brofi newidiadau yn ei fywyd. Mae’n hysbys i lawer ohonom fod newidiau mawr (neu fach), fel perthynas yn dod i ben, neu golli swydd (neu statws), yn gallu achosi afiechyd meddwl, a dyma a gawn ni yn y ffilm hon. Ond nid am amlygu hynny’n unig y mae’r Swimmer o ddiddordeb. Gan ei bod hefyd yn ffilm anghyffredin o delynegol a hiraethus, ac yn trin yr holl elfennau o’i mewn efo sensitifrwydd hyfryd. Dwi’m yn meddwl fod ‘na ffilm fel ei thebyg.
Mwynhewch!
Iolo