Dynes ifanc yn disgrifio’i brwydr ag anhwylder bwyta : WalesOnline
Mae Izzy Harris yn 20 mlwydd oed ac yn dod o Abertawe. Dyma ei disgrifiad dewr hi o’i phrofiad ag anorecsia a bwlimia.
Ers i mi gofio, rwyf wedi bod yn hunanymwybodol am fy nghorff, felly, pan ddechreuais gymharu fy mhwysau a fy maint â’r merched eraill yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn hoffi’r hyn roeddwn i’n ei weld yn y drych. Roeddwn i ychydig fodfeddi yn dalach na’r cyffredin, felly roedd fy nghoesau ychydig yn fwy, fy stumog ychydig yn fwy crwn, a fy ngwasg ychydig yn fwy llydan na phawb arall.
Pan oeddwn i’n 15 oed dechreuais fynd ar ddeiet. Roeddwn i’n gwneud llawer o ymarfer corff ac yn cyfri pob calori gydag ap ar fy ffôn. Aeth fy mhrydau bwyd yn llai a dechreuais hepgor rhai pethau o’m deiet.
Roedd y glorian yn dweud bod fy mhwysau yn lleihau, ond ni allwn weld y gwahaniaeth yn y drych o ddydd i ddydd, felly wnes i barhau.
Fe wnes i roi’r gorau i fwyta brecwast a chinio. Roeddwn i’n gwneud ymarfer corff am oriau bob dydd. Gwnes fy hun yn sâl er mwyn lleihau’r nifer o galorïau roeddwn i’n eu bwyta.
Doeddwn i methu gweld y niwed roeddwn i’n ei wneud i fy hun
Roedd pawb o’m cwmpas yn gofyn i mi roi’r gorau i’r deiet. Roedden nhw’n dweud nad oeddwn i angen colli rhagor o bwysau. Roedd fy nheulu’n dweud wrtha’i bod angen i mi weld rhywun proffesiynol i drafod pam roeddwn i’n gwneud hyn i fy hun. Y broblem oedd, doeddwn i methu gweld y niwed roeddwn i’n ei wneud i fy hun. I mi, yr unig beth roeddwn i’n ei wneud oedd datrys problem; roeddwn i’n fwy nag oeddwn i eisiau bod, felly roeddwn i’n trwsio fy nghorff drwy ei wneud yn llai.
Dechreuais weld seiciatrydd a ddywedodd fod gen i anorecsia a bwlimia. Hedfanodd y termau hyn dros fy mhen. Roeddwn i wastad wedi bod yn ferch eitha’ crwn, byth yn gwrthod pwdin, ac yn casáu ymarfer corff. Roedd ‘anorecsia’ a ‘bwlimia’ yn ddau air na fyddwn i byth wedi eu cysylltu â fy hun. Nid oedd hyd yn oed yn sioc i glywed y diagnosis, oherwydd roeddwn i wir yn credu ei fod yn anghywir. Felly penderfynais ei wadu. Dywedais wrth y seiciatrydd, a fy rhieni, iddi wneud camgymeriad.
Roeddwn i’n parhau i wneud ymarfer corff. Yn parhau i wrthod prydau bwyd. Ac roedd fy mhwysau yn parhau i ostwng.
Deffrais un bore a methu ag adnabod y person yn y drych
Wedi i mi golli bron hanner fy mhwysau gwreiddiol, deffrais un bore a methu ag adnabod y person yn y drych. Roedd gan y ferch yn y drych ewinedd glas, esgyrn yn sticio allan i ddatgelu sgerbwd, darnau moel ar ei sgalp ble roedd ei gwallt wedi disgyn allan, dannedd oedd wedi pydru a chroen llwyd. Roedd y ferch yn y drych yn andros o sâl, ac nid oeddwn i’n hoffi sut roedd hi’n edrych.
Nid pwysau yn unig a gollais oherwydd fy anhwylderau bwyta, ond collais gymaint o rannau eraill o fy mywyd hefyd. Ni allwn ganolbwyntio yn yr ysgol felly roedd fy ngraddau yn disgyn. Collais ffrindiau heb hyd yn oed sylweddoli hynny drwy wthio pobl i ffwrdd oherwydd roeddent yn ceisio fy helpu i fwyta.
Es yn ôl i weld y seiciatrydd, a chyfaddef bod gen i broblem. Gadewais yr ysgol ac astudio ar gyfer fy TGAU adref, yn rhannol oherwydd ‘mod i wedi mynd yn rhy sâl i fynd i ddosbarthiadau, ac yn rhannol er mwyn canolbwyntio ar fy ngwellhad.
Sylweddolais nad oeddwn i bellach yn rheoli fy nghorff, ond bod yr anhwylder bwyta yn fy rheoli i.
Pan roeddwn i’n gwella, roeddwn i’n ysu am weld a chlywed straeon am bobl eraill a oedd wedi gwella o anhwylderau bwyta; pobl yn byw bywydau hapus heb boeni am gyfri calorïau na magu pwysau bob munud o bob dydd.
Cymerais y camau cyntaf tuag at adferiad…
Chwiliais ar y we am straeon o wellhad, gyda nifer fechan o ganlyniadau. Ymddengys fod anorecsia a bwlimia yn bynciau llosg, ond nid oedd y straeon am wellhad yn cael eu trafod.
Os rhywbeth, dyna oedd fy ysgogiad i wella. Gallwn i fod y stori o wellhad a fyddai’n rhoi gobaith ac ysgogiad i bobl eraill oedd yn fy sefyllfa i – y bobl a gredai fod gwellhad yn amhosib. A gobeithiaf mai dyna rwy’n ei wneud heddiw. Gyda’r syniad o helpu eraill ar flaen fy meddwl, cymerais y camau cyntaf tuag at adferiad.
Cymerais gamau bychain iawn, gan ddechrau drwy fwyta tri phryd bwyd y diwrnod, ac yn y pendraw, ychwanegu byrbrydau. Dechreuais ehangu fy neiet drwy fwyta bwyd a godai ofn arnaf, dileais yr ap ar fy ffôn a oedd yn cyfri calorïau, a rhoddais y gorau i edrych yn y drych o hyd i wirio maint fy ngwasg neu fy mreichiau.
Dechreuais weld fy ffrindiau yn amlach, a oedd yn tynnu fy meddwl oddi ar y meddyliau tywyll a gawn ynghylch beth roeddwn i’n ei fwyta. Stopiais wneud ymarfer corff gymaint a dechreuais wneud scrapbook, a thynnu lluniau ac ysgrifennu a gwneud y pethau creadigol y carwn eu gwneud, cyn i mi stopio er mwyn gwneud amser i’r deiet.
Pum mlynedd ers fy niagnosis cyntaf ac rwy’n parhau i wella. Rwyf wedi magu’r pwysau y collais, mae fy ngwallt wedi tyfu yn ôl ac nid yw fy ewinedd bellach yn las.
Ond mae rhai pethau yn aros o’r cyfnodau duaf yn fy anhwylderau bwyta, fel ysbrydion yn fy atgoffa o fy nghyfnod tywyllaf. Efallai mai’r peth mwyaf poenus sydd wedi aros yw’r meddyliau. Rwyf bellach yn gwybod bod yr hyn ‘rydych chi’n ei feddwl yn ystod salwch meddwl yn afresymol. Fodd bynnag, rwy’n dal i gael fy hun yn disgyn yn ôl i’r ffordd negyddol o feddwl – ‘Galla’i golli pwysau. Mae’n rhaid i mi golli pwysau.’
Efallai mai hon oedd y daith anoddaf i mi erioed ei gwneud, ond fe’i gwnes hi
Wrth edrych yn ôl i’r lle ‘roeddwn i’r holl flynyddoedd yn ôl, a sut ydw i nawr, nid magu pwysau yw’r unig beth rwy’n ei weld. Rwy’n gweld llwyddiant mwyaf fy mywyd. Pedair blynedd yn ôl dywedais wrth fy hun y byddwn yn gwella er mwyn profi bod gwellhad yn bosib. Efallai mai hon oedd y daith anoddaf i mi erioed ei gwneud, ond fe’i gwnes hi, ac os allaf i ei gwneud, gall eraill ei gwneud hi hefyd.
Y wers bwysicaf rwyf wedi ei dysgu o fy mhrofiadau yn gwella o anhwylderau bwyta, yw gwrando ar y bobl sy’n agos atoch chi. Gwrandewch pan fydd rhywun yn dweud eu bod yn poeni amdanoch chi, hyd yn oed os ydych chi’n credu eu bod yn gwneud môr a mynydd o ddim byd. Gwrandewch pan fydd rhywun yn mynegi pryder, a siaradwch â phobl am sut ‘rydych chi’n teimlo.
Darllen rhagor : WalesOnline (Saesneg)