Dwi Wedi Blino
Dwi wedi blino! Dwi di cael digon! Dwi wedi cadw yn bositif am dros flwyddyn ond ma’ hi’n anodd!
Dwi berchen bwyty a hostel wrth droed yr Wyddfa yn Llanberis ac mi rydw i wedi blino. Yn ogystal â thrio cadw fy musnes yn y du yn ystod y cyfnod anodd yma mi rydw i hefyd yn brwydro efo iselder a gorbryder sydd wedi bod yn fy llethu ers ryw bum mlynedd.
Mae o yn swnio yn rhyfadd ond dwi’n meddwl i mi gael dechra y cyfnod clo cyntaf yn haws na’r mwyafrif o fy ffrindia a fy nheulu. Dwi wedi arfer efo poeni o fore gwyn tan nos, dwi wedi arfer efo ansicrwydd a chwestiyna yn rhedeg trwy fy meddwl, dwi wedi arfer efo’r tywyllwch a’r unigrwydd sydd yn dod o’r tywyllwch yna. I fod yn onest mi wnes i fwynhau dechra y cyfnod clo cynta – dwi wedi treulio pum mlynedd yn dysgu’r sgiliau i ymdopi efo hyn, dwi wedi treulio pum mlynedd yn trio egluro sut dwi’n teimlo wrth ffrindia a theulu. O’r diwadd dyma gyfle i bawb uniaethu. Dros nos roedd y genedl gyfa yn dioddef o orbryder. Dros nos roeddwn i’n normal!
Gyda’r holl hunan ynysu daeth amser i feddwl, a meddwl, a meddwl. Yn sgîl y meddwl daeth cwestiynau, a mwy o gwestiynau, a chwestiynau am y cwestiynau. O’r wythnos gynta, cyn y cloi mawr, pan ddatganodd Boris nad oedd disgwyl i i fwytai a thafarndai gau ond na ddylai unrhyw un fynd allan i fwyta neu yfed, mae’r flwyddyn wedi bod yn un cwestiwn mawr. Be ddylwn ni wneud felly? Os ydi pobl eisiau aros yn Eryri a ni efo gwely ar eu cyfer ydw i yn torri’r gyfraith yn cynnig y gwely iddynt? Fy ngreddf i fydda cau yn syth i gadw pawb yn ddiogel, ond roedd gen i bobl wedi bwcio ystafelloedd ac yn ôl fy nghytundebau i efo asiantaethau y we (fel Booking.com ac Expedia) fe fyddwn i yn cael fy nirwyo am ganslo unrhyw ‘stafell oni bai bod Boris yn datgan y clo mawr. Roeddwn i felly yn mynd yn erbyn fy ngreddf i groesawu ymwelwyr a allai fod yn cario y feirws i fy nghartref! Ydi hynny golygu fy mod yn rhoi pres o flaen lles fy nheulu, ffrindiau a chymuned leol? Ond os ydw i yn colli’r ymwelwyr ac yn cael fy nirwyo yna fe allwn i fynd yn fethdalwr ac wedyn mi fydd y criw gwych o 11 o bobl leol sydd yn gweithio efo mi, a’u teuluoedd yn dioddef. Be ddyliwn i wneud?
Yn amlwg roedd y tîm acw a minnau wedi bod yn crafu pen trwy gydol mis Mawrth 2020 ar be fasa ni yn neud tasa ni’n gorfod cau. Y peth pwysicaf i mi oedd fy mod yn gallu cynnal yr aelodau o staff sydd yn byw ar ben eu hunain neu yn ddibynnol ar eu cyflog i dalu eu ffordd. Cynnig têc awê amdani a trio mentro i fyd dosbarthu bwyd. A dyma godi mwy o gwestiynna! Sut mae amseru a threfnu dosbarthu pizzas? Pa mor bell fedr y pizza deithio cyn i’r safon ddirywio mwy na’r hyn sydd yn dderbynniol gennym? Faint o bizzas fedrwn ni eu gwneud mewn noson? Mae rhai o’n cyflenwyr wedi cau, lle gawn ni flawd o rwan? Faint ma nhw yn godi am flawd? Oes rhaid i ni godi pris y pizza? Be arall fedrwn ni gynnig ei ddosbarthu?
Wedi ychydig o wythnosau roeddem wedi setlo fewn i ryw fath o drefn. Yn dosbarthu ffrwythau, llysia, bara, llefrith a wyau i bobl yn y gymuned a phaentio’r bwyty a’r holl ystafelloedd gwely yn ystod y dydd yna cymryd archebion, gwneud a dosbarthu pizzas a sglodion a byrgyrs gyda’r nos. Doeddem ni ddim yn gwneud elw ond roeddem yn llwyddo i dalu y rhan fwyaf o’r biliau (ac roedd grantiau gan y llywodraeth yn helpu i dalu y gweddill). Roeddwn i yn teimlo yn ddiogel. Roeddwn i yn gallu anadlu unwaith eto.
Yna daeth canol Gorffennaf â mwy o gwestiynau. Ydw i yn agor yr ystafelloedd yn ôl ac yn croesawu pobl o rannau eraill o’r DU i Lanberis pan y gallent fod yn cario’r feirws i fewn i’n cymuned? Fedra i fforddio peidio croesawu fy ngwesteion dros nos yn ôl? Ydi o yn ddiogel i fi anfon fy staff i fewn i’r ystafelloedd i’w llnau ar ôl i westeion adael? Sut ma gwneud hi’n ddiogel i bobl fwyta acw heb iddynt deimlo eu bod yn bwyta mewn ysbyty neu rhywle clinigol a di-deimlad? Onid mwynhau profiad ydi holl bwrpas bwyta mewn bwyty? Ydi pobl eisiau bwyta mewn bwyty neu aros mewn llety sydd â rheolau caeth fel carchar? Sut fedrwn ni greu awyrgylch groesawgar a chyfeillgar gan ddilyn y canllawia?
A felly ma hi dal! Mae fy mywyd yn mynd mewn ton o dair wythnos o un cyhoeddiad gan Drakeford i’r llall. Rydw i yn trio cymryd un dydd ar y tro. Rydw i yn atgoffa fy hun yn ddyddiol bod pawb yn iach, bo fi a fy nheulu wedi bod yn gythgam o lwcus hyd yma, bod hyn i gyd am fod drosodd rywbryd. Ond mae o yn anodd! Mae datganiadau’r Llywodraeth bellach yn fwrn arna i. Dwi’n gweithio fy hun i fyny at ddatganiad, wedyn mae yna gorwynt o weithgareddau i ganslo’r pobl optimistig sydd wedi bwcio i aros a wedyn dwi’n disgwyl am y datganiad nesa.
Dwi wedi gwneud fy ngorau i beidio rantio lot am ddatganiadau’r Llywodraeth yn ystod y pandemic ‘ma, dwi ddim yn eiddigeddus o’r penderfyniadau ma raid iddyn nhw wneud o gwbl, ond mae o yn neud fi’n benwan pan ma nhw yn deud ar ddydd Gwener; “Mi fydda ni yn cyhoeddi y canllawia newydd ar gyfar lletygarwch dydd Llun”. Grêt – cyhoeddwch nhw dydd Llun a pheidiwch sôn amdanyn nhw heddiw neu dwi am dreulio y penwythnos cyfan yn cnoi cîl ar bob posibilrwydd o be fedrwch chi gyhoeddi ddydd Llun!
Sgen i bellach ddim syniad lle dwi’n sefyll. Ma’r ffôn yn canu yn feunyddiol efo cwsmer posibl yn holi os fyddwn ni yn gallu agor ddiwedd Gorffennaf, neu os fydd hi yn iawn i ddau deulu rannu stafell yn mis Awst, neu oes gen i faes parcio iddyn nhw adael eu car tra yn dringo fyny’r Wyddfa ym mis Tachwedd! Does gen i ddim obadeia! Dwi’n ddiolchgar am eu cefnogaeth ac am eu dyhead i ddod i aros yma cyn gynted â phosibl ond dwi di blino.
Dwi wedi blino meddwl am ffordd neis i ddeud “Sgen i’m cliw”, dwi wedi blino gorfod ffonio pobl i ganslo eto fyth, dwi wedi blino teimlo yn euog achos bo fi yn fyr fy nhymer efo cwsmeriaid sydd eisiau fy nghefnogi, dwi wedi blino gwenu ac ateb “Un dydd ar y tro de” neu “Daw eto haul ar fryn” pan ma rhywun yn gofyn “Sut ma hi’n mynd acw?”, dwi wedi blino teimlo yn euog am orfod gorfodi gwên, dwi wedi blino meddwl am yr holl gwestiyna sydd heb atebion, dwi wedi blino.
Dwi jesd wedi blino!
Sylwer: Rydw i yn hynod ddiolchgar i’r tîm gwych sydd wedi bod yn gefn i fi trwy’r flwyddyn anodd yma, i fy nheulu, ffrindiau a’r gymuned leol – mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy. Diolch.
Elin Aaron