Colli Dad, Colli ‘Mhen

Cwta wyth wythnos ar ôl colli dad i salwch afiach, yn 53 ifanc, dyma weld fy hun yn eistedd ar gadair ardd wyrdd mewn ystafell fyw, yng nghanol dre Caerfyrddin – yn bell o adra, yn bell o’n ffrindiau, ac yn bellach fyth o dad.  

Joban newydd, cyffrous. Pennod newydd, a chael anghofio.

Bywyd prysur.

Gwên smalio, hapus fy myd, be arall oedd merch angen?

Dal i fynd, dal i weithio, dal i fyw, a dim amser i feddwl, dim amser i grio na galaru.

Gweithio.

Gwenu.

Gwin coch.

Bwyta.

Gwenu.

Gweithio.

Gwenu.

Dyma ddeffro un bora, misoedd yn ddiweddarach mewn lle diarth, lle na dwi byth isio deffro eto, a meddwl, nad Llinos oeddwn i ddim mwy, doeddwn i ddim yn adnabod fi fy hun, (mae hynny yn eithaf deep a scary!) Ddim yn hoffi’r gwenu smalio. Ddim yn hoffi gwin coch rhad. Ddim yn dallt be oedd wedi digwydd. Ddim yn dallt lle oedd dad. Methu dod o hyd i wen smalio, methu chwerthin, a methu cario ymlaen.

Dwi’n falch bod hyn wedi digwydd bellach, y sylweddoliad, mod i Llinos Jones, wedi colli fy ffordd yn llwyr. Ond methu dallt pam, methu dallt sut oedd peidio meddwl am boen, wedi fy ngwneud i fel hyn. Dyma siarad â doctor, ac wedyn cownselydd, oriau o grio, wythnosau o feddwl sut, lle a pam? Misoedd, blynyddoedd o siarad.

Doeddwn i erioed wedi galaru, erioed wedi rhoi amser i feddwl, ddim amser i deimlo poen o golli dad, colli’r dyn ddysgodd mi reidio beic, y dyn oedd yn coginio brecwast llawn wedi ffrio i mi am chwech yn y bora! (Diolch dad…fat for life! ) ddim wedi galaru.

5 mlynedd wedyn, 2019, a dwi’n meddwl ‘mod i wedi dysgu bod yn rhaid i ni alaru, a tydi galar byth yn gadael, ti byth yn teimlo llai o boen, a ti wir yn gorfod gadael i’r pethau ‘ma ddigwydd, er bod chdi ddim isio eu teimlo nhw, mae rhaid i ti, er mwyn dallt, er mwyn gallu parhau i fyw a meddwl iach.

Dwi dal i alaru, pob dydd, dal i golli’r hen ddyn, dwi dal i frifo, dwi hyd yn oed yn gallu crio, ond mae galaru a theimlo poen o golli, yn deimlad lot gwell na cholli dy ben.

Felly os wyt ti yn brifo, os wyt ti yn colli, mae angen siarad, mae angen rhoi amser i ti dy hun.

Ac wedyn, ti yn gallu gwenu go iawn.  

Llinos Jones