Brwydro Iselder

Yr her a’r sialens o wynebu iselder ac ymdopi â’r stigma a’r diffyg darpariaeth a chefnogaeth sydd ar gael.

Ar hyn o bryd rwyf yng nghanol y frwydr o ymdopi ag iselder – siwrne pedwar mis a siwrne sy’n parhau…

Cefndir
Fel person proffesiynol a mam sengl sydd, yn ystod y chwe mlynedd diwethaf, wedi edmygu fy hun a’m llwyddiant o frwydro, ymdopi ac ymateb yn bositif a phenderfynol i heriau personol ac anodd. Cefais fy ngadael yn fam sengl â’r ieuengaf yn ddyflwydd, colli gŵr a gwerthu cartref o fewn 3 mis heb unrhyw deulu agos yn byw yn ymyl. Wynebais frwydr ysgariad a’r oblygiadau ariannol, thra’n ymdopi a threfnu fy mywyd fel mam sengl a sicrhau fod y plant yn iach ac yn hapus. Hyn oll yn ogystal â pharhau gyda fy swydd llawn amser a llwyddo i ail-brynu cartref i fi a fy mhlant.

Er fod cyfnodau o galedi, anobaith, tristwch, gofid ac unigrwydd yn ystod y cyfnod hwnnw o fy mywyd, llwyddais i’w goroesi yn berson penderfynol ac hyderus.

Fodd bynnag, mae’r un person bellach yn berson di-hyder, gwan ac, ar adegau, unig ac anobeithiol sydd ers pedwar mis yn wynebu’r frwydr a’r her o iselder.

Fy Iselder
Daeth yr iselder fel cwmwl niwlog drostaf pedwar mis yn ôl – ac er fod mwy o oleuni i’w weld drwy’r cwmwl ar fwy o ddyddiau bellach, caf ddyddiau eraill pan mae’r cwmwl yn parhau’n ddu. ‘Roedd fel teimlad o gael fy nghaethiwo a’m mygu mewn tŷ gwydr – yn gweld ac yn ymwybodol o beth oedd yn digwydd o’m cwmpas ond yn teimlo fel nad oeddwn yn rhan nac yn gallu bod yn rhan ohono.

Mae’r frwydr fel cleddyf deufin – yn gyntaf, gorfod derbyn a wynebu’r ffaith fod iselder arnaf ac yn ail, ceisio ymateb i’r iselder a chwilio am ffyrdd a phethau i’w gwneud i geisio gwella. Mae iselder yn aml yn salwch anweledig, yn union fel yr ymennydd! Wrth edrych yn ôl ar fy sefyllfa bersonol i – mae fy salwch yn un cuddiedig ac anweledig ac o ganlyniad fy newis i, yn fwriadol neu’n anfwriadol, oedd parhau ‘i fodoli’ a cheisio cuddio’r iselder a’r teimladau oherwydd ei fod yn haws dweud celwydd ac anwybyddu realiti’r salwch. Haws oherwydd cywilydd ac hunan-barch; haws oherwydd bod llawer o bobl yn deall am anwyd a chlefydau ond nid am iselder. Gan nad yw’n salwch gweledol fel plaster ar goes wedi’i thorri, does dim byd gweledol i ddechrau testun sgwrs ag eraill. Fodd bynnag, o brofiad yr unig beth sy’n anoddach ac yn fwy blinedig nac iselder yw esgus nad yw e ganddoch chi!

Ymateb eraill
Rydw i wedi dysgu o brofiad ac yn dal i ddysgu a’i chael yn anodd wynebu’r her o geisio dweud wrth bobl ‘fod iselder arnaf i’. Mae’n rhaid bod yn gryf i ddelio â’r stigma sy’n bodoli am iechyd meddwl – brwydr gymdeithasol na ddylem ei wynebu yn 2018 – ond yn anffodus mae’n bodoli o’n cwmpas.

Efallai mai adlewyrchiad o gymdeithas pan oeddwn yn tyfu lan yw e, neu dewis cymdeithasol i beidio a bod yn wir ymwybodol o’r cyflwr – oherwydd diffyg addysg a dealltwriaeth? Dydw i ond yn gobeithio gyda’r ffocws cyfredol ar ‘siarad am iechyd meddwl’ gyda’r ifanc na fydd fy mhlant, pan fyddent yn eu harddegau ac yn oedolion, yn gorfod bod yn dyst i’r un stigma.

Wrth geisio rhannu ac agor fy salwch gyda chriw bach o’m cyd-weithwyr a’m ffrindiau, rwyf wedi derbyn cefnogaeth gan rai – ond mae eraill wedi pellhau. Pam? Oherwydd eu bod yn teimlo’n anghyfforddus trafod neu ai diffyg dealltwriaeth?

Rwyf wedi cael cefnogaeth – mae rhai wedi bod yn gefn, yn gadael llonydd pan fo angen ond yno pan fo angen hynny. yn cysylltu, anfon text cyson neu fy ngwahodd i gwrdd am goffi neu ginio. Mae eraill wedi dangos consyrn cychwynnol ond yna wedi pellhau oherwydd eu prysurdeb proffesiynol a theuluol hwy – gallaf dderbyn hyn i raddau.

Mae eraill wedi fy ngweld yn gyhoeddus yn ceisio anelu at fywyd dyddiol a diwallu gofynion teuluol o fynd a’r plant i wahanol weithgareddau, ac wedi cymryd yn ganiataol fy mod yn well a methu deall pam nad ydw i wedi dychwelyd i’r gwaith? Dydyn nhw ddim yn sylwi fy mod yn dal i wegian ac yn emosiynol yn fewnol a bod ymdrech enfawr wedi’i wneud imi allu dod i’r pwynt o ymdopi â sefyllfa gymdeithasol ac wynebu pobl.

Enghraifft o’r ymdrech i ymdopi’n gymdeithasol oedd mynd i noson rieni fy mhlentyn hynaf. Daeth gyda mi i ddangos pwy oedd yr athrawon – ac i ddweud y gwir hi oedd fy angor ar y noson. Er llwyddais i oroesi’r noson – roeddwn yn emosiynol, blinedig ac isel am ddyddiau wedyn.

O ran fy mhlant – yn ddrwg neu dda – rwyf wedi llwyddo i raddau i guddio fy ngwir iselder oddi-wrthynt, er eu lles hwy, er fy mod wedi trafod y pwnc yn gyffredinol. Y gwirionedd yw – nid wyf eisiau iddynt boeni er fy mod i’n casau dweud celwydd wrthynt. Yn ddyddiol dwi’n cwestiynu fy hun os mai dyma’r trywydd gorau? Rydw i’n benderfynol pan fyddaf yn gryfach byddaf yn bendant yn trafod iselder yn fanylach gyda nhw.

Fel rhan o’r frwydr a’r daith i ddeall, ymdopi a gobeithio gwella o iselder ‘rydych chi’n clywed a darllen sawl ffaith a syniad – ond anodd yw penderfynu a chytuno’n bendant os ydynt yn wir, yn eich disgrifio chi ac yn eich helpu? Ategir at hyn fod cymaint o begynnau a sbectrwm gwahanol i iselder, ar hyn o bryd dwi o’r farn gallant fod yn berthnasol i bawb ond ar y llaw arall gall iselder pawb fod yn wahanol. Dyfyniad rwyf wedi ei ddarllen a all fod yn berthnasol i mi yw ……

“Nid yw salwch meddwl yn arwydd o fethiant a gwendid ond yn arwydd eich bod wedi bod yn rhy gryf”.

…ond eto efallai ddim – mae’r ymchwil i ganfod atebion a rhesymau’n parhau!

Her bresennol a’r gefnogaeth rwyf wedi ei dderbyn
Ar y dechrau roeddwn yn erbyn derbyn unrhyw feddyginiaeth tuag at fy iselder ond gorfodais wynebu efallai fod angen dôs isel arnaf – ac rwyf wedi gweld ychydig o welliant wedi eu cymryd. Mae’r meddyg wedi rhoi’r opsiwn imi gynyddu’r dôs petawn yn dymuno – ond ar hyn o bryd rydw i wedi gwrthod.

Cefais fy rhoi ar restr aros y feddygfa am driniaeth CBT – ond 4 mis yn ddiweddarach ‘rwy’n parhau i aros! Yn anffodus does dim modd ariannol gennyf i dalu am y driniaeth yn breifat – gan ei fod yn driniaeth dros gyfnod. Dyma ble mae’r diffyg mwyaf yn y ddarpariaeth a’r gefnogaeth i gleifion salwch meddwl. ‘Rwyf yn gwybod mewn siroedd yng Ngogledd Cymru y caiff cleifion dderbyn ymgynhoriad ac arweiniad yn syth – ond nid yw’r un ddarpariaeth yma yn Ne Cymru lle rwy’n byw.

Credaf yn gryf dylai fod cysondeb yn y ddarpariaeth sydd ar gael i bawb drwy Gymru gyfan. Efallai fod rhaid blaenoriaethu pobl sydd â chyflyrau meddwl mwy difrifol OND dylai fod ar gael ar yr un adeg i bawb er mwyn atal iselder a salwch meddwl cychwynnol rhag ddatblygu i fod yn un mwy difrifol.

Mae gwefan Meddwl a’i erthyglau a fforwm trafod wedi bod yn werthfawr i mi ac o gymorth – yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Braf hefyd fyddai creu grŵp cymdeithasol i bobl sgwrsio a thrafod ac efallai gyfarfod ei gilydd i rannu profiadau.

Mae fy siwrne i ag iselder yn parhau a’r her fawr nesaf yw wynebu dychwelyd i’r gwaith – her fydd angen i fi ei wynebu’n fuan oherwydd rhesymau ariannol. Mae ysgrifennu a chofnodi fy nheimladau am y dydd wedi bod yn gymorth ac yn ffocws i mi a chredaf y byddaf yn parhau i gofnodi – gan obeithio rhyw ddydd gallu edrych yn ôl ac ail-ddarllen pan fo haul yn tywynnu’n eithaf parhaol ar fy mywyd yn hytrach na mod yn byw dan gymylau niwlog du!

Di-enw