Hunan Ofal

Nid blog arferol yw hwn sy’n rhoi awgrymiadau neu arweiniad cam wrth gam i chi am sut i roi blaenoriaeth i’ch hunan-ofal. Ond yn hytrach mae’n flog am beth yw ystyr hunan-ofal personol i mi.

Hunan-ofal. Yr hyn dwi’n ei ddarllen wrth weld y gair ydi ‘hunanol’. Mae fel petai bod ‘na larwm yn canu yn fy mhen yn sgrechian “Ti’n hunanol”, “Cywilydd arna chdi am roi blaenoriaeth i ti dy hun”, “Am hunanol am beidio gwneud yr hyn, llall a’r arall”. A mae’r teimlad hunanol yna wedyn yn troi i euogrwydd.

Mae’r teimladau a’r meddyliau hyn ond yn berthnasol i fy hunan-ofal personol i. Pan dwi’n meddwl am hunan-ofal pobl o fy nghwmpas dwi’n taflu pob math o awgrymiadau a syniadau atyn nhw fel eu bod nhw yn gwneud popeth posibl i edrych ar ôl eu hunain. Ond mae’n stori wahanol pan mae’n dod i fi fy hun.

Mae iselder yn aml yn fy llorio a mae hynny yn ei hun yn gwneud i mi deimlo yn hunanol ac yn euog. Mae ceisio bod yn hunan-ofalgar ar ben hynny bron yn amhosibl.

Tydi fy meddwl byth yn dawel. Dwi’n gyson yn ymladd fy hun yn erbyn yr holl sy’n mynd rownd a rownd yn fy mhen ac mae ceisio taflu strategaethau hunan-ofal i mewn i’r gymysgedd honno yn troi yn llanast. Dwi’n meddwl amdano fel y broses o wneud cacan; – pan mae’r cynhwysion i gyd yn y fowlen ond mae’r micsar yn troi yn rhy gyflym a mae’r blawd yn cael ei daflu i bobman a mae’r gegin yn llanast. Y cynhwysion ydi fy meddyliau a’r gegin ydi fy mhen.

Pam ‘mod i’n teimlo’n hunanol wrth drio rhoi blaenoriaeth i fy hunan-ofal? Cwestiwn na fedra i ei ateb. Dwi’n gwybod bod hyn yn gwneud niwed i mi. Dwi’n gwybod hefyd ei fod dim help i fy mrwydr gyda iselder. Pam ‘mod i’n trin fy hun yn wahanol i’r ffordd dwi’n trin pobl eraill? Pam mod i’n glen efo nhw ond ddim efo fi fy hun? Pam ei bod hi’n iawn i bobl eraill fod yn hunan-ofalgar ond ei bod ddim yn iawn i mi fod? Pam, pam, pam. Cwestiynau sy’n cylchdroi yn fy mhen yn dragwyddol.

Dwi’n traethu ar bobl eraill i fod yn hunan-ofalgar ac i beidio rhoi pwysau ar eu hunain i wneud gormod neu i drio cyflawni pob dim. Mae’n boen meddwl mawr arnai bod y pobl sydd mor arbennig i mi yn gyson o dan straen a ddim yn bod yn ffeind efo nhw eu hunain.

Dwi’n teimlo’n euog pan dwi’n cymryd diwrnod allan i wneud dim. A dwi’n meddwl gwneud dim. Ar rai dyddiau fedra’i ond llwyddo i symud o’r gwely i’r soffa. Bod yn hunan-ofalgar ydi cymryd diwrnod allan i wneud dim ond mae’r canlyniad o wneud hynny yn arwain at hunan-gasineb, euogrwydd a methiant.

Dwi’n cyfeirio dipyn o fewn y blog hwn am sut mae hunan-ofal yn gwneud i mi deimlo’n hunanol. Nid bod yn hunanol ydi o mewn gwirionedd. Ond anghenraid. Mae’n rhaid i mi roi y teimlad ‘na o fod yn hunanol i gefn fy mhen a gorfodi fy hun i fod yn hunan-ofalgar. Mae’r frwydr honno yn un byw, yn un amrwd ac yn un heriol.

Mae hunan-ofal yn bwysig – yn arbennig pan y byddwch yn ei chael hi’n anodd i ddelio gyda materion iechyd meddwl – dylai unrhyw beth sy’n medru dod a cysur a chydig o bleser i chi yn ystod cyfnodau tywyll gael ei flaenoriaethu.

Glesni Williams