Lles Meddwl a ‘Black Lives Matter’

Mae’n gyfnod anarferol iawn yn ystod pandemig Covid-19. Mae llawer o’r siopau, ysgolion a busnesau wedi cau a mae arferion ni wedi newid yn llwyr. Mae’n her yn ei hunain wrth i ni addasu i’r ffordd newydd yma o fyw efo’r feirws.

Mae’r byd wedi stopio mewn ffordd, ond mae anghyfiawnder dal yn fyw. Mae pawb yn ymwybodol o beth ddigwyddodd i George Floyd yn Minneapolis, ac er mae’n addawol bod y mudiad Black Lives Matter wedi cyrraedd pob cornel o’r byd, gyda chymorth y rhwydweithiau cymdeithasol a grwp enfawr o bobl o bob lliw croen, cred, a iaith, sydd yn benderfynnol bod rhaid i bethau gwella, mae cwestiynau yn codi am sut mae modd i ni ddiogelu ein iechyd meddwl yn ystod y cyfnod anodd yma?

Fel person hil cymysg (Caribïaidd/Cymraeg) weithiau dwi’n teimlo fel mae’n rhaid i fi darllen pob dim sy’n codi, o hyd. Yn amlwg mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i ymchwilio, darllen a dysgu o’r hyn sydd yn digwydd yn y Byd ar hyn o bryd, ond weithiau, mae’n glir drwy siarad gyda ffrindiau fi, bod y rhwydweithiau cymdeithasol yn gallu bod yn le hynod o ddwys yn ddiweddar, yn enwedig os da chi’n rhywun fel fi, sydd fel arfer yn treulio llawer o’ch amser rhydd chi ar Trydar.

Un peth sydd wedi bod o gymorth i fi yn ystod digwyddiadau diweddar yw troi ffôn fi bant o bryd i’w gilydd, mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr. Er mae lot o waith a sylw positif yn dod o’r mudiad Black Lives Matter ar hyn o bryd, mae’n amser eitha trawmatig ar gyfer nifer o bobl Ddu, yn enwedig rhai sydd wedi cael profiadau erchyll o hiliol yn ei bywydau dydd-i-ddydd. Mae’n beth eithaf estron i rywun fel fi, i weld y rhwydweithiau cymdeithasol nawr wedi dominyddu gan un thema yn gyffredinol, thema sydd yn ei hunain yn realiti i lawer ohonom ni.

Os ‘da chi’n rhywun sydd yn gwneud eich rhan i ddarllen a rhannu’r pethau pwysig, ond yn profi teimlad o anobaith weithiau, mae hynny’n iawn. Mae dy deimladau yn ddilys, a mae’n rhaid i ni gyd edrych ar ôl ein gilydd ac edrych ar ôl ein hunain. Dwi’n annog unrhywun sydd yn ffeindio pethau yn anodd neu’n heriol ar hyn o bryd i wir cymryd amser i ofalu am eich hunain, ac i gymryd rhai oriau, neu dyddiau, i ffocysu ar y pethau sydd yn bwysig i chi ac sydd yn gwneud chi’n hapus. Paid teimlo’n euog. Fel y soniais, dwi’n bresennol iawn ar y tudalennau cymdeithasol a dwi’n darllen y newyddion yn ddyddiol, ond mae troi ffôn fi bant yn roi bach o ryddid i fi mwynhau pethau fel fy hoff rhaglenni teledu, neu cerddoriaeth. Mae’n hawdd iawn i fi ddweud hyn ond plis siaradwch efo ffrindiau dros y ffôn neu mewn ffordd sydd yn ddiogel er mwyn gofalu am eich iechyd meddwl.

Fel gair olaf, mae’n rhaid i ni edrych ar ôl ein gilydd. Os oes rhaid i chi gamu nôl o’r rhwydweithiau cymdeithasol, neu’r newyddion, am rai diwrnodau mae hynny’n iawn. Dwi’n gallu dweud yn bersonol mae’n helpu. Cysylltwch gyda ffrindiau neu aelodau o’r teulu, gwyliwch rhywbeth newydd, just gwnewch unrhywbeth i ofalu am eich lles meddwl. Mae gen i obaith bod y Byd wedi dechrau deffro i’r ffaith bod rhaid i bawb cyfrannu i’r achos yma, a mae potensial ar gyfer byd sydd yn fwy teg yn y dyfodol. Yn y cyfamser, cymerwch ofal.