Anorecsia: ‘To The Bone’ a’r gwir y tu hwnt i’r sgrîn 

Ar ôl dioddef ag anorecsia am dros ddegawd, gallech chi ddweud fy mod i’n arbenigwraig wrth drafod anhwylderau bwyta. Dwi wedi dioddef â dau math o anhwylder bwyta dros y blynyddoedd: anorecsia a bwlimia.

Dwi’n 25 oed bellach ac wedi gwella cymaint. Dwi yn y categori BMI iach ac mae fy arferion bwyta yn normal, ond mae’r portread o anhwylderau bwyta yn y cyfryngau ac ati yn parhau i achosi trafferth i mi.

Dwi am drafod y ffilm newydd ‘To The Bone’ ar Netflix, a’r effaith niweidiol y gallai gael ar ddioddefwyr. Dwi’n gobeithio y bydd hyn yn helpu’r rhai hynny sy’n dioddef i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch p’un ai i wylio’r ffilm neu beidio, ac yn bennaf dwi am i’r bobl sy’n creu’r math hwn o gynnwys i wneud hynny’n gyfrifol gan ystyried y rhai hynny sy’n dioddef yn eu bywyd go iawn.

Gadewch i mi rannu ychydig o’m stori yn gyntaf. Dwi’n gwybod nawr fod fy mhroblemau bwyta’n olrhain yn ôl i fy mhlentyndod. Dwi wastad wedi bod yn berffeithydd. Doedd dim byd oeddwn i’n ei wneud yn ddigon da i gyrraedd y safonau roeddwn i’n gosod fy hun. Doedd neb arall yn rhoi pwysau arna i i lwyddo, nid fy rhieni, nac fy athrawon. Dim ond fi. Dwi’n cofio canu yn yr Eisteddfod Sir yn wyth oed, a chosbi fy hun am wythnosau wedi hynny, am fy mod i wedi dod yn ail. Mae’r patrwm wedi parhau drwy gydol fy mywyd. Roedd fy nghanlyniadau Lefel A, AAB, yn ddigon da i mi fynd i’r brifysgol oeddwn i am fynd iddo, ond nid yn ddigon da i mi. Fy ffordd i o geisio rheoli’r holl meddyliau negyddol hyn felly oedd i reoli’r ffordd oeddwn i’n bwyta. Dwi’n meddwl y dechreuodd hyn pan oeddwn i’n 13 oed. Dwi wastad wedi bod yn dal ac yn denau. Doedd gen i ddim rheswm i geisio colli pwysau, ond dyma’r unig ffordd i mi allu tawelu’r meddyliau oedd yn dweud wrtha i nad oeddwn i’n ddigon da. Fel mewnwelediad o’r meddyliau oeddwn i’n eu cael bob dydd, dyma rhai ohonynt:

Bydd Mam a Dad yn siomedig os na fyddi di’n cael mwy na 90% yn y prawf hwn.

Bydd neb eisiau bod yn ffrind i ti os fyddi di’n pwyso’n fwy na X / edrych fel X.

Byddi di’n fethiant os na fyddi di’n cael Anrhydedd yn dy arholiad piano.

Roedd y ffordd oeddwn i’n trin fy nghorff ond yn bwydo’r meddyliau hyn yn rhoi pŵer iddynt, ac yn dinistrio fy mywyd yn ara’ deg. Daeth i’r amlwg i eraill bod rhywbeth o’i le pan wnes i stopio bwyta amser cinio yn yr ysgol. Dywedodd un o’m ffrindiau wrth athrawes ac yna dywedwyd wrth fy rhieni. I ddechrau, roedd hyn yn beth da am fy mod i’n gwybod y byddai pawb yn ama’ bod rhywbeth o’i le os na fyddwn i’n bwyta o’u blaenau, felly dechreuais i fwyta eto. Ond gyda hyn, daeth y bwlimia ac hyd yn oed mwy o gyfrinachau. Bob tro’r oeddwn i’n bwyta, roedd llais yn fy mhen yn dweud mod i’n afiach ac yn frwnt, ac yna byddwn i’n chwydu’r cyfan i geisio ‘glanhau’ fy hun. Pan wnaeth Mam ddarganfod mod i’n gwneud hyn, roeddwn i’n gwybod bod angen i mi fynd at y meddyg. Dywedodd y meddyg mod i o dan bwysau ar gyfer fy nhaldra, ac ar ôl cyfres o gwestiynau, cefais ddiagnosis o anorecsia nerfosa yn 15 oed.

Ers hynny, mae’r salwch wedi bod yn anodd iawn i’w reoli ar adegau. Mae fy mhwysau wedi bod mor isel â 6 stôn, dwi wedi treulio cyfnodau yn yr ysbyty, dwi wedi cael fy mwydo drwy diwb, dwi wedi gweld seicolegydd a sawl math o therapydd. Dwi wedi cael cyfnodau iach, ond roedd unrhyw ddigwyddiad oedd yn peri straen i mi yn achosi i mi lithro’n ôl i’m hen arferion drwg. Un o’r cyfnodau gwaethaf oedd pan oeddwn i’n y brifysgol. Roedd gen i reolaeth llwyr o’r ffordd oeddwn i’n bwyta, a dechreuais wneud ymarfer corff yn obsesiynol dwywaith neu deirgwaith y dydd. Roedd fy misglwyf wedi stopio, roedd gwallt yn tyfu ar fy mreichiau fel ffordd o gadw fy nghorff yn gynnes, ac roedd fy esgyrn yn gwthio allan drwy fy nghroen. Dechreuais ysmygu fel ffordd o atal unrhyw chwant bwyd oedd gennyf. Dwi’n meddwl mai dyna’r cyfnod mwyaf tywyll a pheryglus yn fy mywyd.

Dwi’n teimlo dyletswydd i rannu’r holl manylion uchod i ddangos gwir bortread salwch mor erchyll. Mae’r ffordd y mae rhai ffilmiau a rhaglenni’n ei ddarlunio wir yn fy ngwylltio, a dwi am drafod ‘To The Bone’, ffilm newydd ar Netflix a gafodd cryn effaith arna i. Mae’n rhaid dweud, pan glywais am y ffilm am y tro cyntaf, roeddwn i’n chwilfrydig. Mae’r cyfarwyddwr a’r brif actores, Lily Collins wedi dioddef yn bersonol ag anhwylder bwyta, felly roeddwn i’n obeithiol am bortread gonest o’r salwch. Yn anffodus, roeddwn i’n siomedig iawn gyda’r hyn a welais, a dyma rhai o’r rhesymau:

Mae’n rhamanteiddio anhwylderau bwyta drwy’r portread prydferth a gawn o’r prif gymeriad, Ellen a’i pherthynas rhamantus â Luke. Credwch chi fi, nid oes unrhyw beth ‘prydferth’ am anorecsia. Mae anorecsia ac anhwylderau bwyta eraill yn ymwneud â rheolaeth, nid harddwch.

  • Nid yw’n dangos anorecsia fel salwch meddwl
  • Mae’n darlunio gwellhad fel rhywbeth hawdd unwaith i chi benderfynu gwneud hynny
  • Nid ydym yn gweld Ellen yn cwblhau ei thriniaeth ac felly mae’r diwedd yn agored o ran a yw’n gwella neu beidio

Nid yw hyn i ddweud nad oes rhai elfennau realistig i’w gweld, er enghraifft Ellen yn cyfri calorïau, yn edrych ar ei chorff mewn manylder ac yn gwadu bod unrhyw beth o’i le. Ar y cyfan fodd bynnag, dwi’n credu bod angen bod yn ofalus cyn gwylio’r ffilm os ydych yn dioddef ag unrhyw fath o anhwylder bwyta. Mae gweld y corff esgyrnog yn anodd, ac mae’r ffordd y mae’r cymeriadau’n ymddwyn yn gallu eich atgoffa o’r hen arferion, neu rhoi syniadau newydd i’r rhai sy’n dioddef nawr.

Dwi’n gobeithio fy mod i wedi gallu cynnig ychydig o fewnwelediad i fy mhrofiad personol i, ac wedi chwalu rhai o’r ystrydebau sy’n bodoli o amgylch anhwylderau bwyta. Dwi am orffen drwy gynnig neges o obaith. Er fy mod wedi dioddef am gymaint o amser, a bod y daith wedi bod yn un hir ac anodd, dwi bellach yn gallu dweud fy mod i’n parhau i wella. Mae’r salwch wedi bron a’m lladd sawl gwaith, ond dwi yma ac yn byw bywyd llawn. Dwi wedi graddio o’r brifysgol, dwi wedi gwneud gradd meistr, dwi wedi symud i fyw dramor ac mae gen i swydd dda. Dwi wedi dyweddïo ac ar hyn o bryd rydym wrthi’n cynllunio’r briodas ar gyfer flwyddyn nesaf. Mae gen i bryderon o hyd ynghylch y dyfodol; dwi’n poeni y bydda i’n llithro’n ôl i’r salwch a dwi’n ofn na fydda i’n gallu cael plant oherwydd y difrod posibl dwi wedi gwneud i fy nghorff. Ond dwi’n ceisio tawelu’r meddyliau hynny am y tro, dwi am werthfawrogi pob eiliad sydd gen i yn rhydd o grafangau salwch mor greulon.

Matilda Lewis