Ameer Davies-Rana
Ameer Davies-Rana yn trafod ei brofiad o hiliaeth yn yr ysgol, yr effaith gafodd hynny arno, a’i gyngor i eraill
“I’r fersiwn 16 oed ohonof i, byddwn i’n dweud, ‘Ma’ popeth yn mynd i fod yn iawn. Ma’ hyd yn oed enw ti yn un hollol unigryw. Ma’ fe’n dda bo ti’n sefyll allan, ma fe’n dda bo’ ti o grefydd gymysg. Un diwrnod, mae e’n mynd i fod yn un o’r ‘traits’ neu pethe mwyaf pwysig sydd gyda fi i farchnata fy hun gyda gwaith … Mae e i gyd yn mynd i fod yn dda yn y dyfodol, paid ti â phoeni!’”