A fydda i byth yn ‘normal’?

Rhybudd cynnwys: Mae’r blog hwn yn trafod anhwylder bwyta  

Dwi byth wedi bod yn dawel am fy mhrofiadau efo anorecsia – ffurf o anhwylder bwyta. Dwi wastad, ers i mi wybod fy mod yn sâl efo’r cyflwr, wedi bod mor agored a gallai er mwyn ceisio helpu rhywun arall yn yr un sefyllfa, neu i atal rhywun arall rhag cwympo mewn i’r un trap a wnes i. Mae wedi bod rhyw tair blynedd ers i mi gael fy rhyddhau o driniaeth gymunedol am anorecsia ond alla i byth dweud fy mod i wedi adfer yn llawn o’r anhwylder. A fydda i byth yn rhydd o’r nodweddion? Edrych ar fwyd fel rhif yn lle maeth. Ceisio neud yn siŵr fy mod i’n mynd allan am ryw fath o ymarfer corff. Teimlo pryder pryd ma’ rywun yn gofyn ar hap os ydw i am fynd allan am fwyd neu gael ‘take away’ pan dwi heb gynllunio am hyn. Mae fy mhwysau’n ‘iach’ nawr, ond pryd fyddai’n gwbl iach yn feddyliol?

Pan wyt ti’n cael dy ryddhau o driniaeth o dan yr NHS does neb really yna i ti i ddangos y ffordd ymlaen nawr. Ma’ rhaid i ti wneud hynny dy hun – a boi, mae hi’n anodd. Hyd yn hyn, tair blynedd ymlaen, dwi’r fwya’ rhydd o gwmpas bwyd ag ydw i ers dechrau dioddef ag anorecsia ond mae’r nodweddion dal yna. Dwi nawr yn gorfod darganfod ar ben fy hun beth mae bwyta fel rhywun ‘normal’ yn edrych fel, tra dal ceisio taweli’r nodweddion yn fy mhen. ‘Ydw i’n normal? Bydda i byth yn normal?’ Mae’r teimladau yma i gyd yn iawn i ti gael ar ôl cael dy ryddhau o driniaeth am anhwylder bwyta achos rwyt ti nawr yn ail ddysgu sut i fyw fel person ‘iach’ o gwmpas bwyd. Dysgu beth wyt ti’n hoffi, beth wyt ti ddim yn hoffi. Ymdopi gyda dy gorff dy hunan, dysgu beth mae llwglyd yn teimlo fel, ag ar yr ochr arall – beth mae bod yn llawn yn teimlo fel. Mae hi’n normal i fynd trwy sbel o gor-fwyta (been there, done that), mae hi’n normal i fod yn bryderus o gwmpas bwyd (still there, fighting that) ac mae hi hefyd yn normal i gael ambell i ‘slip up’ fach ar hyd y ffordd (wedi neud hwn sawl gwaith a dal yn gwneud nawr). Mae taith pawb ar ôl triniaeth o anhwylder bwyta yn hollol wahanol ag unigol ond mae popeth wyt ti’n ei wneud a theimlo yn normal ar hyd dy daith o ddarganfod sut mae bwyta fel rhywun ‘normal’.

Fy hunan, rwy wedi rhoi gormod o bwysau arno, colli pwysau, mynd trwy sbel o orfwyta. Rwy hefyd wedi bod yn rhy gyfyngol a ddim bwyta digon. Rwy wedi gadael i’r arferion o anorecsia drechu arnaf ac rwy wedi ennill yn ei herbyn nhw. Ond dydd wrth ddydd dwi dal yn gwella. Falle gymerai tair cam ymlaen ag un am nôl, neu ddwy am nôl, ond rwy bellach ymlaen ân beth oeddwn i ddwy fis yn ôl ag dwi flynedd yn ôl.

Un diwrnod fyddai’n darganfod beth yw ‘normal’ i fi fel unigolyn ac fe fyddwch chi hefyd ar eich taith ar ôl triniaeth. Siaradwch gyda rheini sydd yn agos atoch chi, y rhai da fydd yn ceisio deall a chynnig clust hyd yn oed os nad ydynt yn deall yn iawn. Rheini fydd yn angel i chi yn y dyddiau yna lle rydych chi’n feddwl ‘a fyddai byth yn normal?’.