A fydda i byth ddim yn ofn…?

Newydd ddarllen blog gan Nia Owens ‘A fydda i byth yn ‘normal’?’ ac yn uniaethu gyda’r teimlad.

Ond i mi ‘A fydda i byth ddim yn ofn….?’ yw’r cwestiwn mawr.

Dwi mor ofnus, bob dydd, ac yn cael dim ond ysbeidiau byr o anghofio i fod yn ofnus. Ac ambell waith mewn rhyw syniad ‘twisted’ dwi’n atgoffa fy hun i fod yn ofnus achos nid y pethau sy’n ofni ni sy’n digwydd, felly gall ofni am rhywbeth ei arbed o rhag digwydd….

A wedyn dwi’n poeni bod fi’n mynd i wastraffu fy mywyd yn ofni, ofni bod fi neu rhywun sy’n agos atai i yn mynd i farw. Ond un diwrnod byddai yn marw, a byddai wedi gwastraffu yr holl amser yna yn poeni, yn ofni. A dydw i ddim yn haeddu fy mywyd iach, hapus i.

Mae e fel trobwll cylchol, byth bythol. O banig, i siom ac o gwmpas eto.

Dwi’n teimlo am guriad fy nghalon, gwylio chest y plant yn anadlu, yn ofni, ac yn aros. Mae’n rhaid bod rhywbeth erchyll ar fin digwydd achos dyna sut dwi’n teimlo, bron drwy’r amser.

Mae fy ngorbryder yn gryf ar hyn o bryd, er dwi’n dal rheolaeth a nid yw’n amlwg i bawb. Dwi’n credu daw amser pryd mae’n lleihau eto. Ond dyw e byth yn mynd.

A fydda i byth ddim yn ofn….?