Ymgais ffermwyr ifanc i geisio chwalu stigma iechyd meddwl : BBC Cymru Fyw
Cynhaliodd y mudiad ffermwyr ifanc ym Môn ac Eryri noson ar y cyd i drafod problemau iechyd meddwl yng nghefn gwlad.
Mae ffermio yn un o’r diwydiannau sydd â’r gyfradd uchaf o hunanladdiadau, ac mae’r ffermwyr ifanc yn teimlo ei bod hi’n addas trafod y mater yn agored gyda phobl eraill yn y diwydiant.
Dywedodd un o’r aelodau, Gareth Thomas o Gemaes:
“Dwi’n teimlo fod ‘na stigma yng nghefn gwlad, ‘dach chi fod yn berson macho, ‘dach chi’n gorfod bod yn gryf i fod yn ffermwr, a’r stigma yna ‘dan ni’n gobeithio ei chwalu.”