Mae’r UK Trauma Council (UKTC) yn gorff arbenigol annibynnol newydd sydd â’r awdurdod a’r profiad i drafod effaith digwyddiadau trawmatig ar blant, a sut i’w helpu. Cynhelir y UKTC gan Ganolfan Anna Freud. Mae’r UKTC yn dod â 22 o arbenigwyr ymchwil, polisi ac ymarfer ynghyd o bedair wlad y DU. Grŵp aml-ddisgyblaethol unigryw ydyw, a fydd yn sbarduno newid cadarnhaol yn y gofal a’r gefnogaeth a ddarperir i blant a phobl ifanc sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig gwahanol – gan gynnwys digwyddiadau unigol, yn ogystal â cham-drin ac esgeulustod. Ei weledigaeth yw sicrhau byd sy’n amddiffyn plant a phobl ifanc yn dilyn trawma, a cynyddu’r dealltwriaeth o sut i leihau effaith digwyddiadau trawmatig.
Drwy ddarparu adnoddau a chanllawiau hygyrch, sydd yn seiliedig ar dystiolaeth, bydd yr UKTC yn helpu cymunedau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma.
Mae’r UK Trauma Council yn lansio ynghyd â:
• ‘Trawma Yn Ystod Plentyndod a’r Ymennydd’ – portffolio hygyrch yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n cynnwys yr ymchwil niwrowyddonol diweddaraf, gan gynnwys animeiddiad ac adnoddau ychwanegol (Gweler yr addasiad Cymraeg yma)
• ‘Beyond the Pandemic: Strategic priorities for responding to childhood trauma’ – polisi sy’n trafod coronafeirws a’i effaith ar blant a phobl ifanc (Saesneg yn unig)
• Adnoddau coronafeirws – gan gynnwys pam all trawma yn ystod plentyndod yn y gorffennol effeithio ar ymateb plentyn i’r pandemig, ynghyd ag arwyddion a symptomau o drawma ymysg pobl ifanc (Saesneg yn unig)
• Research Practice Focus – fideo sy’n trafod pam fod rhai profedigaethau’n anoddach i blant a phobl ifanc, a’r hyn all eu helpu (Saesneg yn unig)
Ewch i wefan y UK Trauma Council i weld yr adnoddau ac i ddysgu rhagor.