Stigma iechyd meddwl yn dal yn ‘anferthol’ wrth i Meddwl.org nodi deng mlynedd : Newyddion S4C
Mae’r stigma ynghylch salwch meddwl yn dal yn “anferthol” ac yn gallu golygu “y gwahaniaeth rhwng byw a marw”, meddai menyw sydd wedi profi iselder ôl-enedigol difrifol.
Wrth i wefan Meddwl.org nodi deng mlynedd ers ei sefydlu, mae Alaw Griffiths yn dweud bod pobl yn fwy cyfforddus yn trafod iechyd meddwl, ond bod “lot fawr o ffordd i fynd eto”.
Cafodd Hedd Gwynfor a Manon Elin eu hysbrydoli i sefydlu’r wefan ar ôl darllen cyfrol dan olygyddiaeth Alaw, ‘Gyrru Drwy Storom’.
Fe gafodd y gyfrol honno ei lansio ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2015, ac ynddi mae 11 o unigolion yn rhannu eu profiadau o iechyd meddwl yn agored ac yn Gymraeg.