PTSD yn effeithio ar 1 o bob 13 person ifanc
Mae 1 o bob 13 person ifanc dan 18 oed yng Nghymru a Lloegr yn profi PTSD, yn ôl ymchwil newydd.
Canfu astudiaeth o fwy na 2,000 o bobl ifanc 18 oed bod bron traean ohonynt wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod, a datblygodd chwarter o’r rhain PTSD.
Dywedodd Professor Andrea Danese o King’s College London, a gynhaliodd yr ymchwil, y dylai’r ymchwil fod yn “rybudd i ni ddeffro” wrth ystyried y diffyg cefnogaeth i’r bobol ifanc hyn.
Credir mai dyma’r ymchwil gynhwysfawr gyntaf i edrych ar PTSD ymhlith pobol ifanc yn y DU.
Darllen rhagor: Golwg360 a BBC
Rhai o brif symptomau PTSD
- Ail-fyw’r digwyddiad drwy ôl-fflachiadau neu hunllefau
- Osgoi lleoliadau neu phethau sy’n ymwneud â’r digwyddiad
- Problemau cysgu
- Diffyg gallu canolbwyntio
- Pyliau o banig
- Gorbryder ac anniddigrwydd
- Teimlo’n euog neu â chywilydd