Menter newydd gan Diverse Cymru : Iechyd Meddwl Cymru
Lansiwyd menter newydd yn ddiweddar i geisio gwella cymhwysedd diwylliannol mewn gwasanaethau iechyd, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.
Lansiwyd y fenter gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AC, a dyma’r fenter gyntaf o’i math yn y DU.
Datblygwyd y BME Mental Health Workplace Good Practice Certification Scheme gan yr elusen cydraddoldeb Diverse Cymru. Mae wedi ei ddylunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio o fewn cymunedau BME yng Nghymru, mewn ymdrech i wella hygyrchedd ac ansawdd gwasanaethau iechyd, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.
Dywedodd Suzanne Duval, Rheolwr Iechyd Meddwl BME yn Diverse Cymru:
“Mae ymchwil wedi dangos fod pobl BME yn llai tebygol o chwilio am gefnogaeth iechyd meddwl yn gynnar yn sgil rhwystrau diwylliannol, mwy o broblemau yn cael mynediad at wasanaethau a’n delio gyda systemau iechyd meddwl, ac felly, maent yn cael mynediad at wasanaethau dipyn hwyrach pan fydd eu problemau yn fwy difrifol.”