Llysgennad i meddwl.org

Rydyn ni’n falch iawn i gyhoeddi bod Non Parry bellach yn llysgennad swyddogol i meddwl.org!

Mae Non yn gantores ac yn ysgrifennu sgriptiau, ac yn aelod o’r grŵp pop Eden. Cysylltodd Non â ni y tro cyntaf ar ddechrau 2019 i rannu ei phrofiadau. Yn Eisteddfod 2019 roedd hi’n gyfrifol am gydlynu a chymryd rhan yn ein digwyddiad llwyddiannus, ‘Perfformio: ydi o’n dda i ni?’ Yn ystod yr Eisteddfod honno hefyd trefnodd Eden werthu’r crysau-t ‘Paid â Bod Ofn’, gan godi dros £2,700 i ni!

Dywedodd Non:

“Fedrai’m deud wrthach chi faint mae’n golygu i mi i fod yn lysgennad i meddwl.org. Ers i fi gysylltu efo meddwl.org ryw ddwy flynedd yn ôl, ma’ nhw ‘di teimlo fel teulu bach i fi – fel ma’ nhw i gymaint o bobl eraill, dwi’n gwybod, efo’r gwaith anhygoel maen nhw’n neud. Felly dwi mor, mor falch i fedru deud bo’ fi’n mynd i fod yn aelod swyddogol o’r teulu brilliant yma!”