Iechyd meddwl dynion

Dydd Mercher, 6 Awst, 3:30pm, Pabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod

Ymunwch â ni ar faes yr Eisteddfod am sgwrs banel yn canolbwyntio ar iechyd meddwl dynion. Cadwch lygad yma, byddwn yn cyhoeddi’r siaradwyr yn fuan!

Mae trafodaethau agored trwy gyfrwng y Gymraeg am iechyd meddwl a chyflyrau gwahanol iechyd meddwl wedi dod yn llawer mwy cyffredin dros y ddegawd diwethaf. Fodd bynnag, mae trafodaethau penodol am iechyd meddwl dynion yn llai cyffredin, ac mae stigma am drafod gwahanol gyflyrau yn parhau.

Dyma, o bosib, fydd y drafodaeth gyntaf o’i math ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd yn sgwrs onest a ffraeth yng nghwmni pedwar sydd wedi profi cyflyrau iechyd meddwl mewn gwahanol ffyrdd.

Croeso i bawb. Welwn ni chi yno!