Galw am newid agweddau pobl tuag at OCD : BBC Cymru Fyw

Mae pobl sydd ag OCD yn galw ar bobl i fod yn fwy ystyriol o unigolion sydd â’r cyflwr, ac i waredu’r stigma sydd ynghlwm ag ef.

Anhwylder gorbryder yw anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) a nodweddir gan feddyliau obsesiynol ac ymddygiad cymhellol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen OCD Action:

“Mae OCD yn gyflwr sy’n cael ei gamddeall yn aml, ac yn anffodus mae hi’n hynod gyffredin clywed pobl yn defnyddio’r cyflwr fel ansoddair i ddisgrifio rhywun sy’n daclus, ond mae’r gwirionedd i bobl sy’n byw gydag OCD yn dra gwahanol. Mae’r portreadau ffug yma yn gallu rhwystro pobl sydd wir yn cael eu heffeithio gan y cyflwr rhag edrych am gymorth.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb