Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi’r elusen meddwl.org am y flwyddyn

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi mai’r elusen meddwl.org fydd elusen y flwyddyn ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Drwy gyfrwng ei gwefan mae meddwl.org yn cynnig lle i gael cefnogaeth a gwybodaeth ac i rannu profiadau am iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Caiff y cyhoeddiad ei wneud heddiw (dydd Iau 8 Awst) am 2 o’r gloch yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar stondin Comisiynydd y Gymraeg.

Ers nifer o flynyddoedd bellach mae’r Comisiynydd yn dewis elusen i’w chefnogi yn flynyddol yn dilyn pleidlais fewnol rhwng staff. NSPCC Cymru oedd yr elusen dros y flwyddyn ddiwethaf. Codwyd dros £1500 iddynt a ddefnyddiwyd i ddatblygu deunyddiau gwybodaeth Cymraeg.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd yr wythnos hon nodwyd, er fod y gwasanaethau sydd ar gael yn gwella, bod angen gwneud mwy i sicrhau bod gwasanaethau iechyd Cymraeg ar gael yn hwylus i bawb.

Y gobaith, o gydweithio gyda meddwl.org, yn ôl Efa Gruffudd Jones, yw y bydd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yn ogystal â chodi arian i’w cynorthwyo,

“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai meddwl.org yw elusen y flwyddyn Comisiynydd y Gymraeg eleni. O ystyried mai tîm bach o wirfoddolwyr sydd wrthi yn cydlynu’r gweithgareddau mae’n wych gweld yr hyn y maent yn gallu ei gynnig a hynny mewn maes mor bwysig.

“Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio am y flwyddyn nesaf.”

Dywedodd Non Parry, sy’n llysgennad i meddwl.org,

“Sefydlwyd meddwl.org er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth ac adnoddau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n byw gyda phroblem iechyd meddwl, a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Dyma’r wefan gyntaf o’i math sy’n cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.

“Mae’r ymateb ers y cychwyn wedi bod yn wych ond hefyd yn pwysleisio’r angen parhaus am wasanaethau a chymorth proffesiynol yn y Gymraeg, gan fod nifer o bobl sydd wedi rhannu eu profiadau ar y wefan yn dweud cymaint mwy buddiol oedd cael cymorth yn Gymraeg.

Meddai Manon Elin, o sefydlwyr ac ymddiriedolwyr meddwl.org:

“Rydym yn hynod o falch a diolchgar o gael ein dewis fel elusen y flwyddyn gan Gomisiynydd y Gymraeg ac yn edrych ymlaen at gydweithio a chodi ymwybyddiaeth o’r angen am ragor o adnoddau a chymorth proffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Bydd y digwyddiad i gyhoeddi’n swyddogol am 2 o’r gloch brynhawn heddiw (Iau, 8 Awst) am 2 o’r gloch ar stondin Comisiynydd y Gymraeg ar faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.


Clicia yma i gyfrannu i meddwl.org