‘Dw i ddim wedi newid. Mae’r ffordd dw i’n deall fy hun wedi newid’ : Golwg360
Ar ôl diagnosis o ADHD, dywed Iwan Pitts ei fod yn deall ei hun yn well. Bydd yn rhannu ei brofiad mewn digwyddiad yn yr Eisteddfod.
“Bai Mam oedd hi,” meddai Iwan Pitts wrth egluro sut y dechreuodd y daith a arweiniodd at ei ddiagnosis o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, neu ADHD, ddiwedd 2025.
Roedd ef a’i fam, Menai Pitts, wedi sylwi ar y tebygrwydd rhyngddynt: cant o dabiau ar agor ar yr un pryd, trafferth canolbwyntio, gallu gweithio’n well gyda’r nos, perffeithrwydd, byrbwylltra a’r awydd cyson i ddechrau tasgau newydd.