David Cotterill yn sôn am ei brofiadau ag iselder : Golwg360

Mae’r pêl-droediwr David Cotterill, wedi sôn am ei brofiadau ag iselder, ac yn credu bod “nifer helaeth” o chwaraewyr eraill yn profi’r un trafferthion ag ef.

Mae David Cotterill, sy’n 30 oed, wedi chwarae dros Gymru dros ugain o weithiau, ac wedi bod yn brwydro ag iselder ers pan oedd yn ei arddegau. Dywedodd:

“Yr ymennydd yw’r arf mwyaf pwerus sydd gennych. Ac weithiau mae’n medru’ch rhwystro rhag gweld pethau positif. Dw i wedi chwilio am y ffordd hawsaf i ladd fy hun. Ond wedyn r’ych chi’n meddwl: ‘Sut alla i wneud hynny pan mae gen i blant, a gwraig? Weithiau r’ych chi’n cael ambell ddiwrnod lle r’ych chi’n teimlo’n OK eto. Ond mae’r patrwm yn ailadrodd ei hun.”

Darllen rhagor : Golwg360