Gall chwaraeon proffesiynol fod yn greulon ac yn anfaddeugar
Gall chwaraeon proffesiynol fod yn greulon ac yn anfaddeugar. Un diwrnod rydych chi gyda’r gorau, ond gall ddod i ben yn fuan.
Yn anffodus, pan ddaw i rygbi, mae anafiadau yn rhan annatod o’r gêm ac os yw’r chwaraewr sy’n cymryd eich lle yn chwarae’n dda, gallwch fynd yn angof yn fuan iawn. Mae cyn chwaraewr y Sgarlets, Rory Pitman, yn gwybod yn union sut mae hynny’n teimlo.
Fe wnaeth enw iddo’i hun yn ystod tymor 2014/15, gyda pherfformiadau trawiadol. Aeth ymlaen i chwarae 26 o weithiau i’r Scarlets y tymor hwnnw ac roedd pethau’n edrych yn addawol iawn cyn iddo gael ei anafu.
Y tymor nesaf, prin wnaeth ef chwarae i’r Scarlets gan i anafiadau i gyhyrau yn ei fraich a’i frest ei gadw oddi ar y cae am gyfnod hir cyn iddo gael ei ryddhau gan y rhanbarth. Fe wnaeth y newyddion daro’r chwaraewr 27-mlwydd-oed yn galetach nag y gallai fod wedi dychmygu.
“Roedd popeth yn mynd yn wych gyda’r Scarlets. Roeddwn yn ennill gwobrau am seren y gêm ac yn chwarae’r gemau mwyaf – ond fe ddigwyddodd un peth ar ôl y llall ar ôl hynny. Fe es i weld seicolegydd ac yn lwcus roedd gen i hefyd rwydwaith cymorth gwych gyda ffrindiau a theulu.
“Nid oedd yn hawdd cyfaddef fy mod yn cael trafferth ymdopi, ond mae’n bwysig bod pobl yn deall nad yw chwaraewyr rygbi yn ‘nwyddau’ i’r clwb eu defnyddio a’u gwaredu fel y dymunant.
“Nid yw materion iechyd meddwl yn hawdd eu trafod mewn chwaraeon corfforol fel rygbi. Mae angen iddo ddod yn fwy derbyniol i bobl siarad amdano ac y mwyaf o bobl sy’n deall hyn, bydd y sefyllfa yn well i bawb.”
Darllen mwy